Cyfres Amdani ar S4C Clic: 'Roedd o'n gyfnod gwerth chweil'

Buddug Povey yn chwarae rhan MennaFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Buddug Povey yn chwarae rhan Menna

GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Yn 1991 cynhaliwyd Cwpan Rygbi'r Byd y merched am y tro cyntaf erioed a hynny yng Nghaerdydd.

Wyth mlynedd yn ddiweddarach roedd Amdani ar S4C; drama'n dilyn hynt a helynt tîm rygbi merched mewn tref yng ngogledd Cymru.

Roedd y gyfres yn seiliedig ar nofel ffraeth a bywiog Bethan Gwanas a gyhoeddwyd yn 1997.

 thîm rygbi merched Cymru'n cystadlu ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar hyn o bryd, mae'r gyfres gyntaf o Amdani ar gael i'w gwylio ar S4C Clic.

Yr awdures Bethan Gwanas a'r actores Buddug Povey fu'n chwarae cymeriad chwedlonol Menna sy'n rhannu eu hatgofion am y ddrama boblogaidd.

Bethan Gwanas: 'O'n i isio chwarae rygbi ond doedd dim cyfleoedd'

Erbyn hyn mae Bethan wedi cyhoeddi dros 40 o gyfrolau i oedolion, oedolion ifanc, plant a dysgwyr.

Ond Amdani, nofel i oedolion, oedd y gyfrol gyntaf iddi gyhoeddi yn 1997 pan oedd hi'n 34 mlwydd oed.

Eglurai Bethan: "O'n i wastad wedi bod isio 'sgwennu nofal ond do'n i ddim yn meddwl bo' fi na fy Nghymraeg i ddigon da.

"Ro'n i isio 'sgwennu nofal am ferched yn chwarae rygbi a'i 'neud o efo dipyn o regi, dipyn o realiti a dipyn o hiwmor."

Tîm merched Radio Cymru. Rhes uchaf (o'r chwith); Cheryl, Siân Wheway, Eleri Smith Jones, Siân Thomas, Nia Wyn, Huw Llywelyn Davies. O'r gwaelod (chwith); Sioned Mair, Nia Ceidiog, Bethan Gwanas, Liz Scourfield, a Nia Gough-EdwardsFfynhonnell y llun, Bethan Gwanas
Disgrifiad o’r llun,

Tîm merched Radio Cymru. Rhes uchaf (o'r chwith); Cheryl, Siân Wheway, Eleri Smith Jones, Siân Thomas, Nia Wyn, Huw Llywelyn Davies. O'r gwaelod (chwith); Sioned Mair, Nia Ceidiog, Bethan Gwanas, Liz Scourfield, a Nia Gough-Edwards

Ond pam dewis ysgrifennu am ferched yn sefydlu tîm rygbi mewn tref wledig?

Roedd Bethan yn mwynhau chwaraeon o bob math ers ei dyddiau ysgol ond chafodd hi ddim pasio'r bêl hirgron nes trefnu gêm elusennol yn 1988.

"Ro'n i'n gweithio i Radio Cymru ar y pryd ac fe ddoth 'na wahoddiad gan dîm rygbi Aberystwyth i gael tîm o ferched at ei gilydd ar gyfer Plant Mewn Angen.

"Ges i fy enwebu i gael trefn ar hynna achos o'n i reit athletig ac yn 'neud bob math o bethe heblaw rygbi. O'n i isio, ond doedd yna ddim cyfleoedd rygbi i ferched bryd hynny."

Fe gasglodd Bethan dîm o sêr at ei gilydd oedd yn cynnwys Gillian Elisa, Sioned Mair, Siân Thomas a Liz Scourfield gyda'r sylwebydd Huw Llywelyn Davies yn eu hyfforddi.

"Wel, mi oedd yna chwerthin! A mi wnes i jest cymryd at y gêm. Munud o'n i'n cydio'n y bêl rygbi o'n i'n meddwl 'hon ydi'r gêm i fi', felly pan wnes i symud i Abertawe wnes i ymuno efo tîm go iawn, Swansea Uplands RFC am bo' fi'n mwynhau fy hun gymaint."

amdaniFfynhonnell y llun, Bethan Gwanas
Disgrifiad o’r llun,

Bethan gyda'r bêl yn ei meddiant tra'n chwarae i Swansea Uplands RFC

Maes o law, fe gysylltodd merched Dolgellau â Bethan yn holi am sesiwn rygbi ganddi.

O'r un sesiwn honno daeth yr ysbrydoliaeth i ysgrifennu Amdani.

"Fe ddoth cymysgedd o ferched o wahanol oedran a siâp a bob dim i'r sesiwn ar Y Marian yn Nolgellau," eglurai Bethan.

"Dwi heb chwerthin gymaint yn fy myw ac yn fan'no wnes i weld cymeriadau Amdani; Siân Cae Berllan, Menna a Beryl a rheina i gyd yn ffurfio o flaen fy llygid, a meddwl mae 'na nofal fan hyn."

Ysgrifennu Amdani

Ond roedd angen amser i ysgrifennu nofel ac roedd Bethan yn gweithio ar y gyfres ddrama boblogaidd, Rownd a Rownd.

Fe wnaeth gais am ysgoloriaeth i awduron newydd ac ar ôl clywed ei bod yn llwyddiannus, doedd ond un peth amdani; rhoi gorau i'w swydd i ganolbwyntio ar ysgrifennu nofel.

Cafodd Robin Evans, ei chyn-fòs a chynhyrchydd Rownd a Rownd ar y pryd gyfle i ddarllen drafft o Amdani cyn ei chyhoeddi. Gwelodd Robin botensial am gyfres deledu ac anogodd Bethan i lunio cais i S4C.

"Y peth nesa', roeddan ni'n gwybod fod S4C isio cyfres cyn i'r nofal ddod allan. Mi werthodd y nofal fath â slecs ac roedd yna gyffro am Amdani."

Cymeriad Llinos (Ffion Dafis) ar flaen clawr newydd, chwareus y nofel ar ôl ail-argraffu Amdani yn dilyn llwyddiant y gyfres gyntafFfynhonnell y llun, Y Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

Cymeriad Llinos (Ffion Dafis) ar flaen clawr newydd, chwareus y nofel ar ôl ail-argraffu Amdani yn dilyn llwyddiant y gyfres gyntaf

Ymddangosodd y gyfres gyntaf o Amdani ar S4C yn 1999. Roedd gwylwyr y gyfres wrth eu boddau'n dilyn bywydau blêr a real cymeriadau fel Llinos, Menna, Beryl a Siân Cae Berllan - ar y cae rygbi, ac oddi ar y cae.

Ac yn help llaw iddi wrth ysgrifennu'r ail a'r drydedd gyfres oedd neb llai na Mei Jones, awdur C'mon Midffîld.

"Oedd Mei wedi gweld bod tebygrwydd rhwng fy nghymeriadau i a chymeriadau C'mon Midffîld.

"Pan ti'n meddwl am y peth, Llinos ydi Arthur Picton, Menna ydi George, a Siân Cae Berllan ydi Wali.

"Ymhob cymdeithas mae gen ti deips felly pan ti'n meddwl am dy griw ffrindia' di, garantîd fod 'na Llinos sydd isio trefn, Siân Cae Berllan sydd byth 'di dalld y jocs, a Menna, y rebel."

Buddug Povey: 'Cyfnod gwerth chweil'

Yn ôl yr actores Buddug Povey roedd ei chyfnod yn chwarae Menna ar Amdani "yn werth chweil".

Meddai: "Alla i ond meddwl yn ôl ar y peth yn gariadus iawn, oedd o'n amsar da o 'mywyd i."

Buddug Povey yn chwarae rhan MennaFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Buddug Povey yn chwarae rhan Menna

Ac mae Buddug yn dal i gofio'r sgwrs gyntaf gafodd hi gyda Bethan Gwanas am Amdani.

"O'n i'n ffilmio'r ddrama Pengelli ar y pryd ac yn ffilmio yn Ffrainc. Ddoth Bethan Gwanas efo ni fel cyfieithydd a dwi'n cofio bod allan yn y bar un noson yn cael sgwrs.

"Dyma hi'n troi rownd ata fi ac yn deud 'OMG, fasa chdi yn 'neud Menna da!'

'Pwy ydi Menna?' medda fi.

"Nath hi ddeud bod hi wedi 'sgwennu'r nofal 'ma a mae'n rhaid bod hi mewn sgyrsia' am 'neud y gyfres, a dyna fu."

'Dwi'n falch mai cymeriad Menna ges i'

Aeth peth amser heibio ac fe aeth Buddug am glyweliad ar gyfer rhan Kay Walsh yn y ddrama Rownd a Rownd.

Mae Buddug yn actio rhan Kay ers dros chwarter canrif erbyn hyn, ac ar y diwrnod y derbyniodd hi'r rhan honno, roedd gan y cynhyrchydd Robin Evans fwy o newyddion iddi.

"Dyma fi'n codi ar ôl cael y job yn Rownd a Rownd a dyma Robin yn dweud 'Eistedda i lawr, dwi heb orffan efo chdi eto'.

"Nath o sôn bo' nhw meddwl 'neud Amdani a bo' nhw efo diddordab i 'nghael i'n y gyfres a dyna fu unwaith eto."

Menna yn sgwrsio gyda Llinos (Ffion Dafis)Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Menna yn sgwrsio gyda Llinos (Ffion Dafis)

Aeth Buddug ati i ddarllen y nofel ac fe gofiodd am y sgwrs gafodd hi gyda Bethan yn Ffrainc.

"Ar ôl darllan, o'n i'n meddwl i fi fy hun, 'pam fod Bethan yn meddwl bo' fi am 'neud Menna da?! Gafon ni ddim noson wyllt yn Ffrainc na ddim byd'," chwarddai Buddug.

"Wedyn ar ddiwrnod y castio roeddan ni'n cael ein galw i fyny fesul un i gael gwybod pa gymeriad oeddan ni wedi ei gael.

"Dwi'n cofio Sera Craycroft yn deud mai hi oedd Beryl a dyma hi'n deud wrtha i 'mod i am gael Menna.

Menna yn hudo un o ddynion priod y gyfresFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Menna yn hudo un o ddynion priod y gyfres

"O'n i'n gwaredu cael Menna ar y pryd achos sut hogan oedd hi, ond erbyn heddiw dwi'n falch iawn mai'r cymeriad yna ges i.

"Hi oedd femme fatale y gyfres ac er y petha' oedd Menna'n ei 'neud, ei bod hi reit galon galad, ddim yn meddwl am deimlada' neb ac yn mynd drwy ddynion, i mi, roedd hi jest yn hogan oedd methu ffeindio'r person iawn iddi hi.

"Oedd hi'n brifo mwy nag oedd hi'n ddangos, ac yn fwy sensitif a meddal ar y tu mewn nag oedd hi'n galad ar y tu allan."

Actorion yn chwarae rygbi

Roedd gofyn i Buddug ddangos doniau Menna ar y cae rygbi hefyd. Ond faint o gefndir rygbi oedd gan Buddug?

"Doedd gen i ddim, dim ond gwylio'r Six Nations felly oedd o'n heriol iawn, ac yn heriol i ni gyd.

"Wnes i drio mynd i ymarfar efo Clwb Rygbi Caernarfon gwpwl o weithia, yn meddwl y dylwn i drio 'neud ymdrech efo'r gwaith ymchwil.

"Do'n i ddim rili i mewn i chwaraeon felly oedd ffilmio golygfeydd y gema' rygbi, y sesiynau drwy'r dydd yn ofnadwy o heriol. Ond roedd o'n cadw chdi'n ffit a roedd 'na lot o hwyl.

"Be' oedd yn grêt hefyd oedd fod yna chwaraewyr rygbi go iawn hefo ni fel ecstras; genod o Bethesda, Caernarfon a Bala. Oeddan nhw i gyd yn grêt ac yn help mawr i ni."

Y tîm rygbi'n mynd amdaniFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Y tîm rygbi'n mynd amdani

Ac un o uchafbwyntiau Buddug oedd cyd-actio'n agos gyda Sera Cracroft, ffrind triw i Menna.

Eglurai Buddug: "Oedd Bethan wedi 'sgwennu sbectrwm mor briliant o gymeriada'.

"Roedd dybl-act Beryl a Menna'n gweithio mor dda. Roeddan ni'n gallu bownsio off ein gilydd achos ein bod ni yn gymeriada' mor wahanol, a'r golygfeydd yn amrywio o fod yn ddoniol i fod yn drist".

Petai cyfres newydd o Amdani ar y gweill, ddegwadau'n ddiweddarach, a fyddai Buddug yn gêm i chwarae rhan Menna unwaith eto?

"Fasa 'na goblyn o siâp arnan ni ar y cae chwarae' yna 'wan, ond dwi ddim yn dweud na... bring it on!"

Beryl (Sera Cracroft a Menna)Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Beryl (Sera Cracroft a Menna)

Sut mae Bethan Gwanas yn teimlo wrth ailwylio Amdani ar S4C Clic?

"Dwi wedi sgrechian chwerthin, gwingo, a theimlo embaras fod o mor ofnadwy o anweddus. O'n i'n gwybod hynny ar y pryd ond doedd dim bwys gen i. Dwi'n hŷn erbyn hyn a chymdeithas wedi newid.

"Ond y dylanwad ga'th Amdani oedd mi gododd yna glybiau rygbi merched dros Gymru. Mi ddaeth yna 80 o ferched i sesiwn gynta' tîm merched Rhuthun ar y pryd.

"Roedd angen newid agweddau at ferched yn chwarae rygbi."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb: