Un o ddramâu Shakespeare yn agor pennod newydd ym mywydau dau actor o Gymru

- Cyhoeddwyd
Mae cymryd rhan yng nghynhyrchiad dwyieithog Theatr Cymru o un o ddramâu enwocaf Shakespeare wedi ysbrydoli dau actor ifanc o Gymru i ddysgu a datblygu eu Cymraeg.
Roedd y cynhyrchiad o'r ddrama Romeo a Juliet yn plethu'r Gymraeg a'r Saesneg, gan archwilio hunaniaeth Gymreig a chynnig persbectif newydd ar y sioe.
Y Gymraeg i'w chlywed ar lwyfan theatr y Globe am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2025
Dywed y ddau actor, Scott Gutteridge a Gabin Kongolo, fod yr holl brofiad yn golygu eu bod yn awyddus i barhau a'u siwrnai dysgu Cymraeg.
Roedd holl ymarferion Romeo a Juliet yn cael eu cynnal yn gyfan gwbl drwy'r Gymraeg, gyda gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael i'r actorion nad oedd yn siarad yr iaith.
Dywedodd y ddau fod bod yng nghanol yr iaith, a'i chlywed yn cael ei siarad bob dydd wedi eu hysbrydoli.

Scott Gutteridge: "Do'n i erioed wedi meddwl y baswn i'n gallu siarad cymaint ag ydw i nawr"
Yn ôl Scott, sy'n wreiddiol o Lanelli ac oedd yn portreadu cymeriad Tybalt yn y ddrama, aeth ati o ddifri i ddysgu Cymraeg ar ôl dechrau ymarfer ar gyfer y sioe.
Er bod ganddo rywfaint o ddealltwriaeth o'r Gymraeg, cafodd ei fagu ar aelwyd ddi-Gymraeg a'i addysg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, a dywedodd ei fod "yn teimlo'n rhwystredig nad oedd yn gallu siarad yr iaith.
"Dyma'r tro cyntaf i fi gymryd rhan mewn cynhyrchiad Cymraeg, ac roedd yn anhygoel. Roedd clywed yr iaith yn cael ei siarad o fy nghwmpas wedi fy ysbrydoli.
"Dw i'n teimlo fy mod i wedi dechrau ar fy nhaith iaith go iawn.
"Do'n i erioed wedi meddwl y baswn i'n gallu siarad cymaint ag ydw i nawr – a dim ond y dechrau yw hyn."

Dywedodd Gabin Kongolo fod perfformio yn Romeo a Juliet yn 'brofiad arbennig'
Dywedodd Gabin Kongolo, sydd o Gaerdydd ac oedd yn portreadu cymeriad y Tywysog, ei fod wedi dechrau dysgu Cymraeg yn 2021 pan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd.
Ar ôl graddio, symudodd i Lundain, ac roedd yn benderfynol o barhau i ddysgu'r iaith. Yn 2023, roedd yn aelod o'r cast yng nghyfres ddrama Bariau ar S4C, ac yn dysgu Cymraeg tra'i fod ar y set.
Meddai Gabin: "Roedd cael bod yn Bariau yn teimlo fel yr her berffaith i ymarfer siarad Cymraeg. Mae'r profiad wir wedi fy helpu i gyda fy nhaith yn dysgu'r iaith, a gwneud i fi deimlo'n fwy hyderus yn ei siarad.
"Dw i'n dysgu ac yn amsugno cymaint mwy pan dw i yng nghanol yr iaith, ac mae bod mewn cynyrchiadau fel Romeo a Juliet a Bariau wedi fy nghaniatáu i i wneud hynny.
"Roedd Romeo a Juliet yn arbennig. Roedd yn anrhydedd cael bod yn rhan o'r cynhyrchiad.
"Roedd perfformio ar draws Cymru, a dod â'r sioe i'r Globe yn Llundain, a bod y person du cyntaf i berfformio'n Gymraeg ar lwyfan y Globe yn deimlad gwallgof ac arbennig.
"Roedd y gefnogaeth gawson ni gan y cast a'r criw yn arbennig, roedden nhw mor gefnogol i ni oedd yn dysgu Cymraeg, ac yn creu awyrgylch diogel ac adeiladol i ni wneud camgymeriadau, a dysgu.
"Roedd gweld datblygiad Scott gyda'r Gymraeg yn hynod ysbrydoledig. Ro'n ni'n cael sgyrsiau'n Gymraeg, ac roedd yn hyfryd dysgu gyda'n gilydd."
Parhau â gwersi iaith
Yn ddiweddar fe ddychwelodd Scott o Nant Gwrtheyrn ar ôl treulio wythnos yn dysgu Cymraeg ar un o gyrsiau gwrs preswyl y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy'n cael eu cynnig am ddim i bobl sy'n gweithio yn y celfyddydau.
Bu'r Ganolfan Dysgu hefyd yn cydweithio â Theatr Cymru, trwy gynnal sgyrsiau rhithiol a wyneb yn wyneb ar gyfer dysgwyr yng nghwmni actorion neu gynhyrchwyr cyn neu ar ôl sioeau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd17 Mawrth

- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2025

- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2025

- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2025
