Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl 35 mlynedd

HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 67 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn 1991.

Cafodd y dyn o ardal Llanddewi Felffre, Sir Benfro ei arestio wrth i Heddlu Dyfed-Powys ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth dyn 35 mlynedd yn ôl.

Bu farw Bentley Mathias, 58 oed, yn Ysbyty Treforys yn Abertawe ar 19 Tachwedd yn 1991.

Ni chafodd y farwolaeth ei thrin fel un amheus ar y pryd, ac mi gafodd gwaedu ar yr ymennydd ei nodi fel achos y farwolaeth.

Ar ôl i wybodaeth newydd ddod i'r amlwg ac mae'r heddlu wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth.

Cafodd y dyn ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau'n parhau.

Nid yw'r heddlu yn edrych am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r achos, meddai llefarydd, ac mae'r ymchwiliad yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.