Cerddi Rownd 2
Pennill bachog yn mynegi syndod
Manion o’r Mynydd
Fan hyn mewn hen ysgubor,/ Rhwng troed y ffridd a’r llyn,
Â’i wawl fel lleuad borffor,/ Mae’r ‘Arwr’ Ceri Wyn,
Wrth dderbyn barn y doethor,/Llewygais ar ôl rheg,
Yn swn hen Afon Prysor/ Dyfarnodd i mi ddeg!
Gwilym Rhys Jones 8
Arglwydd de Grey
Y tro cyntaf ers sawl blwyddyn:
“I’r rownd nesaf,” meddai’r Meuryn,
Dyma nodi mewn rhyw bennill
Am y profiad braf o ennill;
Peidiwch, Fanion, ac ypsetio
Fydd o byth yn digwydd eto.
Arwel Emlyn 8
Cwpled caeth: Beddargraff Trydanwr neu Drydanwraig
Manion o’r Mynydd
Gŵr oer yn gorwedd mewn gro,
Yw Arthur wedi’w yrthio.
Alwyn Evans 9
Arglwydd de Grey
Sioc mawr, mawr yw colli mêt.
Mwy'r sioc cam-weirio socket.
Tomos Gwyn 8.5
Limrig yn cynnwys y llinell ‘‘Mi es rownd a rownd y maes parcio’.
Manion o’r Mynydd
Mi es rownd a rownd y maes parcio,
Mewn gobaith y byddwn i’n ffeindio,
Fy Rover bach i,
Ar goll ers cyn tri,
Peth felly yw ci sydd yn crwydro.
Alwyn Evans 8
Arglwydd de Grey
Mi es rownd a rownd y maes parcio
A’r Ysgwrn yn llawn i’r recordio
Er chwilio am le
Ddaw nunlle yn hedd
Gobeithio bydd sedd imi yno!
Steffan Tudor 8
Cadwyn o dri englyn unodl union yn canu mawl i rywun neu rywbeth
Manion o’r Mynydd
Rhyw ysgol oedd yr esgyn - trwy gangau
I’r brigau i’r hogyn,
A rhoi ras i ben pob bryn,
Un antur oedd byw plentyn.
Antur o ddilyn nentydd - draw ar grwydr,
Ac adref ddiwetydd
At gariad byd digerydd,
Dyna’r wefr, a’i draed yn rhydd
Rhydd o hyd ac mor ddedwydd - nes i oed
Droi’n sur y melysrwydd
O dan wydr diniweidrwydd.-
Daeth disgyn o’r esgyn rhwydd.
Nia Powell 8.5
Arglwydd de Grey
Sel ac Iwan - Hogiau’r Garej
Fy fan, fy fan, fu’n gryf o iach – honno
Sy’n hynod o afiach,
Ni aiff ymhell, ddim bellach,
Trwyn i’r maen sy’n straen a strach.
Y strach yn broblem dros dro – yn Gymraeg
Mae rhai am ei thrwshio,
A braf cael mecanics bro…
Garej i’w hatgyweirio.
Atgyweirio… teg arian – dau selog
A da, Sel ac Iwan,
Achub y fan fawr, fechan;
Dau ddoctor i fendio’r fan.
Arwel Emlyn 9
Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘chwilio’r wyf am gariad newydd’
Manion o’r Mynydd
Er i ti ei thorri’n deilchion
dal i guro y mae ‘nghalon;
Gyda’r darnau yma beunydd
chwilio’r wyf am gariad newydd.
Tudur Puw 8
Arglwydd de Grey
Chwilio’r wyf am gariad newydd,
Un sy’n lanach, lanach beunydd;
Torrodd gymar gynt fy nghalon
(Dwedodd bod hi’n hoffi’r Manion).
Geraint Owens 8.5
Cân ysgafn: Prosiect
Manion o’r Mynydd
Pan ddaeth hi’n amser dathlu, bod Nain yn ninety-nine,
Roedd rhaid wrth bwyllgor teulu, cyfarfod brys on-line,
Yn dilyn pleidlais agos, cofnodwyd ffordd ymlaen,
Sef pobi cacen geirios, un ffansi, nid un blaen.
Â’r tasgau’n ddirifedi, roedd angen ‘mynedd sant,
“Dim chwys” medd Anti Jini, cyn llunio Rhaglen Gantt,
Cynhaliwyd astudiaethau, a sawl asesiad risg,
Mae rhaid cael cymwysterau, cyn mentro cyffwrdd whisg.
Daeth pawb ynghyd yn brydlon, i’r gegin un prynhawn,
I baratoi’r cynhwysion, ac iro’r tun yn iawn,
Ac yna sefyll yno, yn gwylio’r micsar chwim,
Er iddo godi pendro, fe wnaeth y job i’r dim.
I mewn a hi i’r popty, ar gant wythdeg degree,
A’r teulu oll yn ysu, i glywed PING! am dri,
Cydleisiodd pawb yn hapus, “Yippee, nid yw yn flop!”
Y gacen felen foethus, â cheirios ar ei thop.
Ond d’wedwch, pam y siomi pan ddaeth y diwrnod mawr?
Er llwyddo gyda’r pobi, roedd pennau pawb i lawr,
Roedd Nain a Taid i’w gweled, ar wyliau serch y pris,
Yn sglaffian cacen siocled, yng ngwesty crandiaf Nice.
Alwyn Evans 8.5
Arglwydd de Grey
Mae gen i gynllunia i gyhoeddi’n swyddogol
Mod i’n gwneud Sir Fôn yn wlad annibynnol
Ac mae’r Arlywydd Trump yn yr Unol Daleithia
Wedi dangos y ffordd i wlad y medra.
Cael tollau a thollau ar y ddwy bont i’r ynys
Bydd hynny yn llenwi coffrau’r trysorlys.
A threthu’r tanceri ar eu ffordd i Lerpwl
Di culfor Hormuz ddim ynddi o gwbwl.
A bydd raid i bawb ym Mangor a phob un Cofi
Dalu am y fraint o gael edrych arni.
A chyda’r holl arian fe fydd gennym adnoddau
Fydd ym mhob maes heb amheuaeth y gorau.
Ysbytai, ysgolion fydd yn cael eu hedmygu
A phawb am ddod yma o weddill Cymru.
I atal y miloedd o fewnfudwyr a ddeuai
Bydd rhaid cael llynges i warchod y Fenai.
Ac o ran dinasyddiaeth wel bydd angen dethol
Nid pawb fydd yn cael passport y Môn annibynnol.
A chael cap pinc MMGA a’i wisgo â gwȇn
A gweiddi yn unfryd ‘Mȇc Môn Grȇt Agȇn.
Huw Dylan 9
Ateb llinell ar y pryd - Ni wnai fyth anghofio hyn
Manion o’r Mynydd
‘My hero’ ydy’r Meuryn
Ni wnai fyth anghofio hyn
Tudur Puw 0.5
Arglwydd de Grey
Hedd anhygoel y Moelwyn
Ni wnai fyth anghofio hyn
Arwel Emlyn 0.5
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Weithiau
Manion o’r Mynydd
O dan swyn trydar eu ffôns
Haid ifanc rownd bwrdd,
Teclyn pob un fel cyw gog
Yn mynnu sylw.
Gwyliaf nhw’n sgwrsio’n ddwys
Heb yngan gair,
Yn chwerthin LOL
Heb dorri gwen
Ac yn gwylio bywyd trwy ffilter.
Syllaf ar blentyn,
Ei bysedd brau yn greddfol fwytho’r sgrîn
A’i llygaid yn disgleirio
Ar drothwy taith i ddibyniaeth.
Dwi’n cyffroi
Wrth deimlo’r ffôn
Yn cael pwcs o igian yn fy mhoced,
A’r ysfa i ganfod yn ormod
I minnau ... weithiau ......
Gwilym Rhys Jones 9
Arglwydd de Grey
Weithiau,
rhywle rhwng cwsg ac effro
bydd y cof yn mynnu chwarae e’i hen gastiau,
a bydd sŵn griddfan trawstiau’n
troi’n gamau
ar risiau.
Ar y stryd, bydd ystum neu osgo
yn twyllo am ennyd,
ond cyn galw’i enw
bydd y dorf wedi’i lyncu.
Wrth blygu dillad,
a’u rhoi i’w cadw,
bydd arogl cysur yn cosi’r ffroenau,
cyn diflannu eto fel tarth y bore.
Achos,
mae ffansi yn drech na ffaith,
Weithiau.
Eleri Jones 9
Englyn: Llyn
Manion o’r Mynydd
Cymru
Mor hawdd, tros glawdd bregus gwlad - y llifodd
holl afon mewnlifiad
a boddi’n tir; Tir ein tad
mwy dan lanw’u dylanwad..
Tudur Puw 9
Arglwydd de Grey
Dŵr yn llepian, a ‘chwaneg – gwialen
Ar gael, ac alcemeg
Eistedd a bachu gosteg,
Yn dal dim ond awel deg.
Arwel Emlyn 9.5


















