Cerddi Rownd 2 2026
Pennill Bachog yn mynegi rhwystredigaeth
Beca
Canllath dros gopa’r eithin
Mae lawnt a thwll a phin,
Ac yn fy llaw mae colfen
I daro’r peli gwyn.
Fe ŵyr pob golffiwr penigamp
O’r ‘sgwyddau lan mae chwarae’r gamp.
Eifion Daniels 8
Talybont
Mae’n gyfnod lecsiwn eto, ac i ryw foi fel fi,
Mae’n anodd ar y cythrel bodloni’r BBC.
Gwaherddir pob cyfeiriad at bleidiau bach a mawr,
Rhag pechu’r awdurdodau sy’n rhoddi’r ddeddf i lawr.
Ymatal wnaf o’r herwydd, er mod i’n bach o lowt,
Tan ddaw’r rownd nesaf heibio, a wedi ’ny, lwc owt.
Phil Davies 8
Cwpled caeth: Beddargraff Cyfreithiwr
Beca
Y gŵr doeth â’r gwir dethol :
Dyma ei lw a dim lol.
Rachel James 8
Talybont
O flaen rheithgor mae’n gorwedd;
mae’n pro-bono yn y bedd.
Phil Thomas yn darllen gwaith Gwenallt Llwyd Ifan 8.5
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mi es i’r Sioe Gŵn gyda’m sbaniel’
Beca
Rwy’n holi fy hunan yn dawel,
Ai am fod fy enw yn Daniel
Ddewisodd e’ Ceri
Y llinell mor ddigri,
‘Mi es i’r Sioe Gŵn gyda’m sbaniel.
Eifion Daniels 8
Talybont
Mi es i sioe gŵn gyda’m sbaniel
cans nabod ei feirdd mae Nathaniel.
Aeth pethau o le
pan welwyd efe
â’i ddannedd yn nhin Eifion Daniel.
Phil Thomas yn darllen gwaith Gwenallt Llwyd Ifan 8.5
Cadwyn o dri englyn unodl union yn canu mawl i rywun neu rywbeth
Beca
Molawd i’r Dderwen
Un hyderus a brodorol, - â’i dail
A’i delwedd hynafol
Yn cadw’r ceinciau hudol
O’i hanes fel duwies dôl.
I ddôl hwyrol ei hiraeth – daw’r drudwy
Ar adain o gecraeth
Cyn mydru eu canu caeth
Yn dderwen o gerddoriaeth.
Y gerddoriaeth dry’n alaethus – a’i gŵyn
Ar y gwynt dolefus;
Er marwnad ynad a’i wŷs
Diwyro’i threm hyderus.
Rachel James 9
Talybont
Geraint Thomas
Peilot taer y pelotón – yn aros,
ac aros, cyn ffrwydro’n
y gêr uwch am funud gron,
i droi’r lein drwy’r olwynion.
Y lein hir, lôn o oriau anorfod.
Ymarfer cyhyrau
gêr ei feic a wnaeth gryfhau
ei dalent drwy’r pedalau.
Talent hynod yw codi – yna’i droi
yn ‘mike-drop’ y cewri.
Geraint yw ein braint a’n bri,
Taer yw hwn, ein tour inni
Anwen Pierce yn darllen gwaith Gwenallt Llwyd Ifan 8.5
Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘Colli’r dydd yw colli’r bore’
Beca
“Dyna hwyl yw bod yn wasod”
Medd hwch fyddar oedd yn barod,
Ond ni chlywodd ei alwade:
Colli’r dydd yw colli’r bôr “E?”.
Eifion Daniels 8.5
Talybont
‘Colli’r dydd yw colli’r bore’
Oedd fy nghri ym mlodau’m dyddie.
‘Codi’r nos a cholli’r bore’
Erbyn hyn yw nhynged inne.
Phil Davies 8.5
Cân ysgafn: Taith y Côr
Beca
Yng ngwaelodion Ceredigion mae ‘na gôr o fechgyn nwydus
Yn canu am bob math o bynciau rhegllyd ac arswydus,
Camant dros bob llinell goch a rhedeg ochr draw;
Maent hwythau’n gôr ‘ôl-watershed’, fe’u geilw’n ‘Ar Ôl Naw’.
Ar Ôl Naw! Ar Ôl Naw! yn codi braw ar bob dyn da;
Cyflawnant bob un pechod ‘mond wrth ganu y sol-ffa!
Cyhoeddodd eu harweinydd: “Fflip! A awn fel côr ar grwydyr?”
(Sy’n hynod, gan ei fod e’n graig. Ei enw ef yw Emyr).
Y baswyr a ganasant: “Fflipin seintiau, awn i Enlli!”
Ac aeth y côr i’r ynys wen, o Landoch ar y fferi.
Ar y fferi! Ar y fferi!, ond â Ceri mewn canŵ!
(Mae’n Geri Wyn i ninnau ond yn Geri Goch i nhw).
Glaniasant ar yr ynys, a rhoi sioe anwahoddedig,
Ac Emyr y graig lwyd a gododd freichiau stalactitig,
Ond o eiliad cynta’r canu, daeth i’r capel chwa o fwg,
A bellach mae’n gysegrfan satanyddol i’r Gŵr Drwg.
Y Gŵr Drwg! Y Gŵr Drwg! Mae e’n rhoi gwg wrth glywed hynt
Am Ar Ôl Naw yn taflu baw at bopeth dan y gwynt.
Ar Ôl Naw! Ar Ôl Naw! Y côr di-daw o lawer rheg;
A beth yw’r rhif sydd ar ôl naw, nawr Ceri, onid... (deg?)
Lefi Dafydd 8.5
Talybont
Yn nhymor y Gyfeillio, Cantre’r Gwaelod gath wahoddiad,
O ddyfnder bro Atlantis i fynychu Gŵyl y Suddiad.
Trafodwyd priodoldeb y cais i anfon Côr,
Cytunwyd yn unfrydol i fentro dan y môr.
Pan holwyd, ‘chi am ddyfod?’ atebwyd ‘Ydyn glei’,
Ac aed yn syth i logi dwy sybmarîn o’r Cei.
Bu llawer o ymarfer, dewiswyd repertoire
I adlewyrchu gwychder y Cantref hyfryd, gwâr.
Ar Lan y Môr a’r Dymestl oedd uchaf ar y list,
A’r unawdydd oedd Seithennyn, er yn dablen at ei glust.
Daeth Gwyddno i’r ymarfer yn morio Arafa Don,
A wedyn caed Môr Mawr Wyt Ti, nes codi’r nenfwd, bron.
Ond yna, glaniodd neges, cyn dechrau ar y daith,
Mewn potel o’r Amerig, ar draws y cefnfor maith.
Y môr oedd wedi codi, gan ddychryn pawb yn syn,
A thyrau Mar-a-Lago oedd bellach dan ddŵr llyn.
Yno roedd Neifion Daniel a’r Brenin Don y Don,
Am drefnu Gŵyl y Suddiad gan fynnu cynnal hon.
Penderfynwyd yn unfrydol i foicotio y digwyddiad,
Gan ddweud wrth Don a Neifion ble i hwpo eu gwahoddiad.
Phil Davies 9
Ateb llinell ar y pryd – Rhyw ardd lai na hardd sgen i
Beca
Rhyw ardd lai na hardd sgen i
I herio’r Kalahari
Eifion Daniels 0.5
Talybont
Rhyw ardd lai na hardd sgen i
A’i herwau’n Galahari
Phil Davies 0.5
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Cwthwm
Beca
Ar y clos, dan gysgod ei changhennau
bu gweini medd o wyddfid pêr
a gwledd o fes ac aeron coch.
Chwiliem am lwybrau cudd y llyg
a chware cwato fel milwyr bach
cyn rhannu dagrau a chydio dwylo.
Ein gwawr a’n machlud; ein ffarwel a’n dychwelyd.
Gwarchodwr ffin a rhos.
Ond roedd twyll yn yr osgo.
Llechai clefyd yn ddwfn dan y rhisgl.
Â’r frân yn plymio i chwiban storm
a chleddyfau’n brwydro hyrddiadau’r gwynt
bu cwymp rhwng sgrech y tegell a’r arllwys te
a bwlch ar y clos yn wacter trwm.
Heddiw, mae’r drws ar glo a’r llenni ar gau
a staen y te ar fwrdd yn aros.
‘m ond y gwynt sy’n curo’th ddrws a neb i’w herio.
Rhiannon Iwerydd 9.5
Talybont
Drannoeth,
fe ddeffrodd i’r difrod.
Cododd y planhigion a chodi’r pridd yn ei llaw
gan dwtio’r gwreiddiau yn glyd i loches eu potiau.
Chwiliodd y bin
trwy ddilyn llwybr o weddillion ddoe.
Doedd dim rhagolwg
o’r storom ddiweddaraf.
Rhyw Bili Pala’n rhywle wedi taro’i adenydd yn ddifeddwl
unwaith eto.
Cododd ei bag
a sythodd y cadeiriau.
Camodd allan i’r wybren las,
i’w gardd destlus, yn ei stryd berffaith;
gan gau’r drws ar weddill y llanast.
Phil Thomas 9.5
Englyn: Coedwig
Beca
O fyd y Cernydd hudol – i diroedd
Y deri chwedlonol,
Yn y gwyll treiddiwn i gôl
Y cen yng nghoed Tŷ Canol.
Rachel James 9
Talybont
(Plannwyd 15 eginyn o goeden y Sycamore Gap dorrwyd yn anghyfreithlon yn 2023. Mae un glasbren wedi'i blannu ger yr Ysgwrn.)
Plannwyd yn nhir ein hiraeth – yr egin
o rwyg ein hanwariaeth.
O gur ddoe eu blagur ddaeth
â deilen o'r fandaliaeth.
Anwen Pierce 9.5

















