Cerddi Rownd 2 2026
Pennill bachog yn mynegi anfodlonrwydd
Glannau Teifi
Annwyl Don. Mae’n amser callio.
Wedi’r bwlian cas a’r rantio,
y celwyddau a’r rhyfela,
cefais ddigon. Hwyl. Melania.
Elfed Evans yn darllen gwaith Nia Llewelyn 8.5
Tir Iarll
IKEA annwyl, rhaid cwyno; ofnaf
I’ch dodrefnyn lwyddo
I yrru gŵr yn llwyr o’i go’…
Wardrob fu bron â’m mwrdro.
Sagrada Familia i mi fu hyn,
Faen ar faen, fel Gaudi,
I herio’r holl benseiri
Ac o raid, fy sgriwio i.
Emyr Davies 8.5
Cwpled caeth: Beddargraff Beirniad Eisteddfod yr Urdd
Glannau Teifi
Rôl clywed y canfed côr,
O’r egwyl, ni ddaw rhagor.
Geraint Volk yn darllen gwaith Nia Llewelyn 9
Tir Iarll
Y Farn a roddwyd arno
a wnaeth gam am byth ag o.
Tudur Dylan Jones 9
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Pe bawn wedi cyrraedd yn gynnar’
Glannau Teifi
Pe bawn wedi cyrraedd yn gynnar
A gwisgo pob darn o’r cyfarpar
Ni fyddwn yn griddfan
Ynghanol cyflafan
Ond yn hedfan lan fry gyda’r adar.
Nerys Llewelyn Davies yn darllen gwaith Nia Llewelyn 8
Tir Iarll
Pe bawn wedi cyrraedd yn gynnar,
Am dri yn lle chwarter i bedwar,
Ni fyddwn ynghanol
Fy namwain angheuol,
A fyddwn i’m cweit mor ddiweddar.
Tudur Dylan Jones 8.5
Cadwyn o dri englyn unodl union yn canu mawl i rywun neu rywbeth
Glannau Teifi
Y Prifardd Eirwyn George
O’r mynydd, lleisiau’r meini sy’n galw
dy enw, ond leni
daw awel i ddistewi
holl haenau dy eiriau di.
Dy eiriau, y rhai a darodd dannau
o dwyni i weirglodd
dy fyd, oedd fyd wrth dy fodd,
llu o eiriau yn llawrodd.
Geiriau a greodd geyrydd ar diroedd
bro, ger llynnoedd llonydd;
geiriau’th gred a red yn rhydd
heno, yn un â’r mynydd
Terwyn Tomos 9
Tir Iarll
Englynion o foliant i’r lensys cyffwrdd
Pellach yw cyfrinachau - haul y wawr
heb lens, ond caf innau,
â rhain o dan f’amrannau,
y lliw ’nôl a llawenhau;
llawenhau nes rhoi llun y nos – ddisglair
i ddwy ddesgl yn ddiddos,
â llaw dlawd, troi’r lleuad dlos
yn wg; nid oes ond Agos;
’mond yr Agos a’r Agosach; - nes draw,
dros dro, yw cyfeillach
godre’r byd, ond tra’r gwydr bach
mae allwedd gweld ymhellach.
Emyr Davies yn darllen gwaith Mererid Hopwood 9
Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘‘Haws yw chwalu’r graig yn deilchion’
Glannau Teifi
Haws yw chwalu’r graig yn deilchion,
troi yn ôl holl donnau’r eigion;
haws yw neidio dros y dibyn
na bodloni chwaeth y Meuryn.
Terwyn Tomos 8.5
Tir Iarll
Haws yw chwalu’r Graig yn deilchion,
Chwalu’i englyn a’i benillion,
Na rhoi hyder i’w ganiadau -
Dyna wna’r meurynnod gorau.
Emyr Davies 9
Cân ysgafn: Un Noson Dywyll
Glannau Teifi
Un noson dywyll, dywyll, mewn warws yn Ffair Rhos
Roedd Dafydd Wyn ap Adda yng nghanol ei shifft nos
Pan welodd belen lachar, o’r gofod, yn nesáu
A glaniodd soser enfawr, drws nesa yn y cae.
Disgynnodd rhyw fod rhyfedd, perthynas i E.T.,
Ac medd, yn iaith y nefoedd, ‘Rwy’n dod i’ch helpu chi
I greu gwlad annibynnol, rhoi Cymru ar y map
I brosiect traws-alaethol, cyflawnwn hynny whap.’
Datguddiodd ef ei gynllun, a Daf yn gwrando’n syn:
‘Y bos bydd yr Archdderwydd, a’i henchmen mewn shîts gwyn
A rasio rownd yn ufudd, mewn gwisgoedd glas a gwyrdd
Yn gwneud y pethau bychan, bydd minions yn un myrdd.
Â’r Talwrn ar bob sianel a’r Meuryn yn seleb
Bydd beirdd yn canu’i glodydd a Charlo’n ddim ond pleb.
Bydd corau o’r mynyddoedd yn bloeddio eu cerdd dant
A’r Saeson nôl yn Lloegr, mewn ofn, yn cadw bant.’
Ond yna daeth realaeth yng ngolau gwan y wawr,
Dihunodd Daf o’i freuddwyd gan ddisgyn nôl i’r llawr
A gwnaeth y penderfyniad, o’r warws yn Ffair Rhos,
Na fwytai fyshrwms doji fyth eto cyn shift nos.
Nia Llewelyn 8.5
Tir Iarll
Fe glywaf synau rhyfedd,
o'r tŷ drws nesaf y dônt:
Sŵn canu'n iach, sŵn malu
wy'n siŵr bod y tŷ yn haunt
i Rufeiniaid sydd yn martsio
sha'r Gorllewin pell ar droed;
a chlywaf gri'r dylluan
a sipsiwn yn cadw oed.
Yn wir mae'r boi drws nesa'n
unigryw, come to that,
clywaf “siachmat!” drwy'r holl welydd
ynghyd â'r waedd 'Owzat!'
Mae llu gwesteion ganddo,
rhai o bob lliw a llun,
o ferlod a môr ladron
i Dwm Sion Cati'i hun.
Dial a ddaw o'r diwedd,
buddsoddais mewn meicroffôns
a chyflwyno'r ffeil i'r heddlu
o holl giamocs Tŷ Llew Jones.
Aneirin Karadog 9
Ateb llinell ar y pryd – Mae criw da ym mae Caerdydd / mae criw dwl ym mae Caerdydd
Glannau Teifi
Er syndod cawn ganu clodydd
Mae criw da ym mae Caerdydd
Terwyn Tomos
Tir Iarll
Mae criw da ym mae Caerdydd
Ein criw ni mewn caer newydd
Aneirin Karadog 0.5
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Ogof
Glannau Teifi
Roedd cysgod yr ogof rhag poethder yr haul
A’r tywod dan draed yn boenus o sych
Yn gwahodd y ddafad i geisio’r cyhudd,
Fel y gwnaethai ei hynafiaid ganrifoedd o’i blaen.
Ac yno y cawsai’r Bedouin bach
Lawer mwy o drysor na’i un ddafad goll.
Hen arfer y bobol oedd celu trysorau eu llên
Ar femrwn mewn llestri yn anialwch Qumran
Rhag anrhaith gelynion a lladron eu byd –
Gair eu proffwydi a llawysgrifau’r Gair.
Yn yr ogof honno yn ofal i gyd
Y tarodd y bugail ar gyfoeth ei fyd.
Geraint Volk yn darllen gwaith Mary Jones 8.5
Tir Iarll
Des yma’n iau, pan oedd y waliau’n
wylo ag ofn, wir, am fod rhywbeth
yn llechu yn y tywyllwch, y tu hwnt
i’m dirnadaeth, bryd hynny. Ond
gwyddwn fod ’na gynnwrf
yn y gwacter, bod cyffro
ym mhob cam y cymerwn
tua’r diddymdra’r ochr draw. Ond rhedeg
allan i’r haul a wnawn bob tro
wedi cyrraedd llysnafedd y cerrig, yn ôl
i ddiogelwch tywelion a cherydd hallt oedolion.
Yng nghlydwch y tywel hwnnw yr wyf
wedi’m lapio o hyd, ac eto, rhown y byd
i deimlo’r arswyd a fu’n trigo, un tro, yng nghrombil
yr Annwn hwn... diflannodd
mor chwim ag adlais sgrech
yn pylu a phylu
eto, yn ddim.
Aneirin Karadog yn darllen gwaith Gwynfor Dafydd 9
Englyn: Ceiliog y Gwynt
Glannau Teifi
‘Hen wyliwr’ sy’n dal i hawlio ei le,
heb lais, uwch Llangynllo,
ond ei swyn sy’n atseinio
a rhoi cainc o lyfrau’r co’...
Nia Llewelyn 8.5
Tir Iarll
Rhai o hyd, arwyr ydynt – yn gadarn
i gyd yn y trowynt,
Cei eraill ymhob corwynt
Fel ceiliog Llangynllo gynt.
Tudur Dylan Jones 9




















