Main content

Cerddi Rownd 2 2026

Pennill bachog yn mynegi sicrwydd

Y Glêr

Rwy’n tybio y bydd dinas

A’i hegni hi’n parhau;

Yn amau na all stormydd

Ar lan, er amlhau,

Ymddatod holl gymhlethdod

Y concrit newydd hwn;

Ond am symylrwydd oesol

Y mynydd, wel, mi wn.

Hywel Griffiths 9

Tafarn y Vale

Rwy’n siŵr fy mod i’n sicr ,

Yn saff, mor saff â’r graig;

Ond aros eiliad eto -

Gwell i fi holi’r wraig.

Iwan Thomas 8.5

Cwpled caeth: Beddargraff awdur nofelau ditectif

Y Glêr

Trwm yw eironi’r hiraeth:

Ni ŵyr, yn y nef, pwy wnaeth.

Hywel Griffiths 8.5

Tafarn y Vale

Er amau mil, gwaetha’r modd,

Ni wyddys pwy a’i lladdodd.

Gareth Ioan 9

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae tipyn go lew o ddyfalu’

Y Glêr

Mae tipyn go lew o ddyfalu

pwy fydd yn cael trafferth ynganu

y ‘feidir’ a’r ‘iet’

pan fyddan nhw’n blèt –

rhof fèt ar bob parti llefaru.

Megan Elenid 8

Tafarn y Vale

Pob noson wrth droi am y gwely,

Mae 'na dipyn go lew o ddyfalu.

Ti am fod ar dop?

Neu lice ti swop?

Da ‘bunkbed’ mae’n job penderfynu.

Iwan Thomas 9

Cadwyn o dri englyn unodl union yn canu mawl i rywun neu rywbeth

Y Glêr

Llwyd nawr yw darlledu i ni – a’r yrfa

Fawr hirfaith ar dewi,

Llwyd ryfedd y tonfeddi,

A llwyd di-ball DAB.

Y BBC, o’i ddawn siŵr – sy heno’n

Atseinio gan gryfdwr

A grafitàs y baswr

Yn holi stori’n ddi-stŵr.

Di-stŵr holwr gwineulwyd – y genedl,

Yn gynnes ddiarswyd,

Y pŵer, y syberwyd,

Y didwyll lais, Dewi Llwyd.

Eurig Salisbury 9.5

Tafarn y Vale

10 mlynedd oddi ar Euro 2016

Aeth y dorf yn ddiobaith, do. Aethant

ar daith heb freuddwydio

am weld Cymru yn rhuo

ar dir yn ninas Bordeaux.

O Bordeaux daeth rhyfeddodau, - â Bale

yn bwlio’r holl dimau

o rownd i rownd gan barhau,

a Hal ymhlith y goliau!

Gôl ar ôl gol yn annog iaith - a’r dorf

ar dân ar eu hymdaith.

Rôl gwledd, daeth diwedd y daith,

a neb yn byw’n ddiobaith.

Ianto Jones 9

Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘Nid yw hynny’n hanner digon’

Y Glêr

Er bod pasta lond y sosban

a bisgedi ffein i’w sgwlcan,

pan fo’i thŷ yn llawn o wyrion,

nid yw hynny’n hanner digon.

Megan Elenid 9

Tafarn y Vale

Rwyf yn caru lodes landeg,

Iddi rwyf fel gwas yn rhedeg;

Er rhoi iddi serch fy nghalon

Nid yw hynny’n hanner digon.

Gareth Ioan 8.5

Cân ysgafn: Ymosodiad Seiber

Y Glêr

Ym Mhwyllgor Trysoryddion Canghennau Ystrad-llan

O Ferched y Wawr un noson, aeth pethau ddim tw plan,

A hynny am i Glenda, sy ar yr aps o hyd,

Roi’r ddolen Zoom ar TikTok i’w gweld gan bawb drwy’r byd.

Ni sylwodd Faye’r Cadeirydd nes logio mewn i’r we –

‘Rhy hwyr, fe fwriwn ati.’ Beth allai fynd o’i le?

Roedd pethau’n mynd yn esmwyth, nes nododd Josephine

Fod gwall yn y cofnodion – dwy ‘n’ lle doedd ond un –

A thorrodd sŵn bytheirio ffieiddgas ar eu clyw!

Ai haciwr seiber ydoedd? Na, Barbra, hi sy’n byw

Yn Hafan Deg. Medd Faye, ‘Nawr, Barbra, sa’i moyn trwbwl.

Os ’sdim byd da ’da chi i’w weud, plis, peidiwch â’i weud o gwbwl.’

Ond yna torrwyd ar ei thraws gan res o luniau blin –

’Mond Moira am ryw reswm yn trio rhannu sgrin.

Ac yna sŵn anadlu a darfodd – ai hen dôn

Rhyw hwdlym oedd? Na, Gwladys heb fiwtio’i meicroffôn.

Ychydig, wir, a wyddai Faye fod haciwr yn eu plith,

Ysbïwr draw ym Mosgo’n clustfeinio fel rhyw rith,

Ond buan y gadawodd – ‘Mae’n rhaid bod feirws cas

Yn gwarchod system y nytyrs hyn. Se well ’mi logio mas.’

Eurig Salisbury 9

Tafarn y Vale

Wel Moses Annwyl, yffarn dân – mae rhywbeth mowr o’i le -

Hen haciwr dwl ‘di ffindio’i ffordd i’r system, dros y we…

Mae mainframe yr Eisteddfod wedi sgramblo’n rhacs trwy’r trwch,

A’r cyfan wedi cawlio - mae’r siop di mynd trwy’r hwch!

Mae’r bots yn sarnu’r cwbwl, pob cynllun sydd ar chwâl,

A’r Garreg Las di symud dros y Teifi i Benrhiw-pâl.

Ymhlith y cystadlaethau nawr mae awdl talcen slip,

Ac unawd i bensiynwyr sydd yn disgwyl glin neu hip.

Mae bownsars diogelwch wedi bwco i’r gymanfa,

Ac headline act Maes B Nos Iau yw Ysgol Sul Bethania;

A diawl, rhyw ffordd neu’i gilydd, mae’n ymddangos erbyn hyn

Bod neb ‘di cofio entro Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn.

Holl gwrw ‘Williams-Parry’, mae ‘di ganslo do fy ngwir i,

Bydd syched Arab ar bob un - fel sîn o’r Kalahari!

A dyma’r peth rhyfedda (fe goelith neb o hyn),

Mae’r Babell Lên ‘di gwerthu mâs…i ddarlith Ceri Wyn!

Rhyw ail go wael am limric bydd gwobr Eurig-fardd…

A hwrdd o Ddyffryn Aeron bydd yn hawlio’r gadair hardd!

O Betsan Moses annwyl, maddeua’r haciwr ffôl;

Ond na’r cyfle gore gês ‘riôd i ennill unrhyw stôl!

Iwan Thomas 10

Ateb llinell ar y pryd - Yn Synod Inn, syniad da

Y Glêr

Yn Synod Inn, syniad da

Yw gyrru yn go ara

Hywel Griffiths

Tafarn y Vale

Mewn cwrdd yr es i hwrdda

Yn Synod Inn, syniad da

Iwan Thomas 0.5

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Gweithdy

Y Glêr

Doedd y lle ddim yn yfflon,

ddim o bell ffordd.

Ambell hoelen gam, falle,

yn llechu’n y blawd llif a’r lludw,

a hwyrach fod y creithiau ar y fainc

lle llithrai’r llif

yn ddyfnach nag y tybiais.

Ac eto, wrth i haul y prynhawn

bowlio’n bert drwy’r ffenestri,

hawdd i mi oedd gweld

y pinc a’r oren a’r gwyrdd

yn esgyn o’r olew du ar lawr

ac yn asio â’i wreichion yntau,

heb aros i feddwl

nad oedd y rhain mor amlwg

i’r un â’r mwgwd weldio’n

dynn amdano.

Megan Elenid 9.5

Tafarn y Vale

Twriaf yn y pic-a-mics
o sgriwiau a bolltiau
yn nroriau’r cawdel.

Bydd e ‘ma rhywle...

Arogl weldio’n dew,
yn glynu i ‘nillad,
anhrefn cyfarwydd
y silffoedd yn fy meddwi.

Mae e ‘ma rhywle...

Mygiau gwag
yn rhes ar ffenest,
â’r olion olew’n bodio’r cof.

Eisteddaf
ar hen focs-tŵls,
ac yng ngwres y sbarcs,
yn sŵn y morthwyl,
yn atsain ddoe

...rhywle, mae e ‘ma.

Dwynwen Llywelyn yn darllen gwaith Enfys Hatcher 10

Englyn: Tir Comin

Y Glêr

Yr hen we fu’n gweundir ni. Barwniaid

A brynodd ei theithi

I ddileu’n holl ddolenni:

Cau allan ei hanian hi.

Hywel Griffiths yn darllen gwaith Osian Rhys 9

Tafarn y Vale

‘n gwaddol daw cyfrifoldeb a hawl

I’n hil drwy gyfundeb;

Eto, dyma ein hateb:

Ein tir ni yw – nid tir neb.

Gareth Ioan 8.5