Main content

Cerddi Rownd 2 2026

Pennill bachog yn mynegi anghrediniaeth

Tir Mawr

Gogoneddus! bythgofiadwy !

Hollol, hollol angrhedadwy !

Dw'i 'di synnu ! Fedrai'm coelio !

D'oes dim geiriau i'w ddisgrifio

Gareth Jôs 9

Dros yr Aber

Mae hi’n ddegawd. Degawd, myn diân, ers ha’r
Ewros hir, ha’r trydan
ym Mordeaux a’r tîm ar dân...
Ryw ha’ ers talwm, rŵan.

Rhys Iorwerth 9.5

Cwpled caeth: Beddargraff Cyfieithydd

Tir Mawr

O’i gwaith dros yr heniaith hon

a’i gwlad, cashodd ei sglodion.

Carys Parry 8.5

Dros yr Aber

William Morgan a aned

un dydd. Ond yn awr mae’n déd.

Rhys Iorwerth 9

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Y cyngor yw troedio’n ofalus’

Tir Mawr

Os byddi mewn cae sy'n llawn betys

A'n gweled fod 'landmines danjerus !'

Di'w sgwennu ar arwydd

Mewn iaith anghyfarwydd

Y cyngor yw troedio'n ofalus

Huw Erith 8.5

Dros yr Aber

Ben bore, wrth wisgo dy drowsus,

y cyngor yw troedio’n ofalus.

Rho’r chwith yn ei lle

cyn codi’r droed dde.

Rhoi’r ddwy droed ’run pryd sy’n ddansierus.

Iwan Rhys 8

Cadwyn o dri englyn unodl union yn canu mawl i rywun neu rywbeth

Tir Mawr

Plas Heulwen (Ebrill 2026) Fis diwethaf, agorwyd adeilad pren newydd gyda thair ochr ohono yn agored yn y goedwig ifanc newydd yn Nant Gwrtheyrn; cafodd ei enwi er cof am Heulwen Jones, un o brif noddwyr y Ganolfan Iaith.

Heulwen ar onnen unig a welaf;

mae’r tŷ dail yn cynnig

ein dwyn i wanwyn y wig,

yn agored i gerrig

a brigau ein byd bregus; - daw’r adar

a’u hyder gofalus

i greu’r ardd dros ddagrau Rhys,

rhoi iaith i’r dŵr hiraethus.

Dŵr ewynnog a draenen y mynydd

a Meinir a’i cheubren,

derw’r Nant a’u straeon hen

sy’ waliau i Blas Heulwen.

Myrddin ap Dafydd 9.5

Dros yr Aber

Er cof am Eilian Williams o Ddyffryn Peris fu farw ym mis Ebrill wedi salwch. Roedd yn ymgyrchydd brwd a thanbaid dros ddiogelu enwau lleoedd Cymraeg, ac yn aelod o fy nosbarth cynganeddu.

Eilian. Er yn eiddilach, ni fu’i wên

ar nos Fawrth ddim dicach;

heb ei hwyl, mae’n dosbarth bach

heno enw yn wannach.

Â’n henwau ni’n diflannu, un wrth un

fe aeth o i’w casglu;

chwiliai yn lle gweld chwalu

pob bryn, a thyddyn, a thŷ.

I’w du, daeth yn rhy fuan ei waeledd

olaf. Ond drwy’r cyfan,

’doedd dim modd diffodd ei dân,

nac eiddilo gwaedd Eilian.

Marged Tudur yn darllen gwaith Carwyn Eckley 10

Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘Mae gen i, ac mae gan lawer’

Tir Mawr

Mae gen i, ac mae gan lawer

Awydd dringo'i ben y Gader

Mae gan eraill syniad well

Sbio ar y thing o bell

Gareth Jôs 8.5

Dros yr Aber

Mae gen i, ac mae gan lawer,

awydd peint ar bnawn dydd Gwener,

Sadwrn, Sul, Llun, Mawrth a Mercher,

a phrynhawn dydd Iau, myn uffer!

Iwan Rhys 9

Cân ysgafn: Newid Cyfeiriad

Tir Mawr

Busnes trwsio dillad isa'r 'Brodyr Parri' oedd dan straen

Ac o'r herwydd dyma'r hogia'n prynnu hers a symud 'mlaen

Roedd y fenter yn llwyddianus, aeth yr hers, cyn hir yn ddwy

Ond yn awr y tacla' barus oedd yn awchu am gael mwy

Petai modd cynyddu'r galw byddai hynny'n ddim ond lles

Byddai mwy o bobl farw yn golygu mwy o bres

Mwy o gig aeth ar yr asgwrn pan ddaeth syniad wych i'r ddau

Sef eu lladd nhw fora Sadwrn yna'u claddu b'nawn dydd Iau

Dyma gychwyn drwy wenwyno, gan ymestyn, maes o law

I bob dull (heblaw croeshoelio) - roedd eu doniau'n ddi-bendraw

Yn y gegin efo sbannar, yn y toiled efo cŷn

Yr oedd Kenneth John ac Edgar yn eu mwrdro fesul un

Wel mi wn na ddyliwn farnu. Heb ei eni heb ei fai

Ond poblogaeth cefn gwlad Cymru oedd yn raddol fynd yn llai

Aethai pawb a'i meirw atynt heb amheuaeth yn y byd

Ac yr unig gŵyn amdanynt oedd eu bod nhw dwtsh yn ddrud

Ond r'oedd un 'di dechrae ama' Dî Sî Nesta 'Gyfrwys' Jôs

(A arferai weithio'n Asda'n llenwi silffoedd gyda'r nos) *

Wedi'w dilyn, dyma'r Gyfrwys yn cornelu'r brodyr hy

Wrthi'n mygu Lydia Harris, efo clustog, yn ei thŷ

Diolch i reddf a dygnwch Nesta yn y jêl mae'r c'nawon brwnt

Unwaith eto'n trwsio tronsia am gan mlynedd a thu hwnt

* Fel mae'n digwydd roedd Nesta hefyd wedi newid cyfeiriad Gareth Jôs 9.5

Dros yr Aber

Fy hoff dasg i bob bore, a pheidiwch â gofyn pam,

yw mynd drwy’r e-byst newydd sydd yn fy ffolder sbam.

Co un gan CrossFit Cnarfon – gostyngiad o ddeg y cant.

Ond ma bwyd rhy ddrud o lawer dim ond i’w losgi bant.

Mae e-bost bygythiol yr olwg gan Evri sydd yn dweud

bod parsel imi’n aros, ‘but postage is not paid’.

Mae miliwn gen i mewn cyfri, medd Banc Cenedlaethol Ghana.

Fe es un tro i Ganllwyd, ond fues i erioed i fana.

Dyma Drysorydd Barddas, eisiau taliad a manylion banc.

Fe bwysaf ‘ymateb’ ar unwaith, gan adael y cynnwys yn blanc.

Mae aderyn Duolingo yn gofyn a ydw i

go iawn am roi’r gorau i ddysgu a chau fy nghyfri? Oui.

Un arall gan Evri, awr wedyn. Mae hwn tro yma’n dweud,

er imi dalu’r ddyled, ‘your parcel is now delayed’.

Dyma gwmni teils yn cynnig – Bargen! Hanner bant!

(os ydych yn prynu cant o deils ac yn talu am ddau gant).

Er mwyn i mi gael fy... ymestyn, mae un yn cynnig moddion,

ond fel y dwedodd Elfed, os nad yw hi’n fawr mae hi’n ddigon.

Sai ishe newid cyfeiriad a cholli fy e-byst sbam oll,

ond o leia’ ni fyddwn i’n gwybod bod fy mharsel gan Evri ar goll.

Iwan Rhys 9

Ateb llinell ar y pryd – Mae gan Anti Ann datŵ

Tir Mawr

Mae gan Anti Ann datŵ

Yn gudd rhwng pedwar gwddw

Huw Erith 0.5

Dros yr Aber

Mae gan Anti Ann datŵ

Ceri Wyn fu’n creu hwnnw

Rhys Iorwerth 0.5

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Dim Ond

Tir Mawr

Dim ond

yr hanes a sgwennwn ni

gaiff ei rannu gyda chi

Dim ond

y llyfrau sydd at ein dant

gaiff eu darllen gan y plant

Dim ond

papurau nad ydyn nhw’n wir

gaiff ei llosgi wrth lyfrgell y sir

Dim ond

y bardd sy’n cau ei geg

gaiff gan y llys wrandawiad teg

Dim ond

cysgod o ddüwch y glyn

dim ond dechrau ydi hyn

Myrddin ap Dafydd 10

Dros yr Aber

I Miriam, fy ffrind, sydd newydd fabwysiadu hogyn bachDros yr Aber

Mae’n agor ffenest led y pen
i arwain yr awyr iach i mewn,
codi llwch yr wythnos o’r sgyrting,
rhoi o-bach i’r dillad yn y drôr,
swatio’r morlo dan y cwrlid
a thwtio eto’r sgidiau sy’n ysu
i sgeintio pridd hyd eu gwadnau glân.

Am ennyd, mae’n gadael i’w dychymyg
deimlo sŵn ei draed tair oed hyd y tŷ.

Fory, wnaiff o ddim sylwi ar yr oglau smwddio
na chlywed ei enw’n adleisio rhwng y waliau
ond wrth nythu’i fysedd yn ei llaw,
mi fydd yn cyrraedd adra.

Marged Tudur 9.5

Englyn: Tanwydd

Tir Mawr

Yn wancus, llanwn y tanciau – a’r môr

Yn Hormuz dan warchae

Ymhell odd’yma, lle mae

Y rhai sy’n talu’r prisiau.

Carys Parry 9

Dros yr Aber

Nid bod rhyfel, nid bod trefi yn llosg,

’tawn i'n llwyr o ddifri,

sy’n dân ar groen. Fy mhoeni

mae traul uwch fy mhetrol i.

Rhys Iorwerth 9.5