Angen i bobl Caerdydd 'deimlo'n rhan o'r Eisteddfod' yn 2028

Cyfarfod Eisteddfod Caerdydd
GanIolo Cheung
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae'n bwysig bod pobl o bob rhan o Gaerdydd yn "teimlo'n rhan o'r Eisteddfod" pan fydd y brifwyl yn dod i'r brifddinas yn 2028.

Dyna oedd neges y prif weithredwr Betsan Moses, wrth iddi ddweud hefyd ei bod hi'n awyddus i weld dysgwyr Cymraeg yn cymryd rhan lawn yn y trefniadau.

Daeth ei sylwadau yn ystod cyfarfod cyhoeddus nos Fercher yn Nhreganna, gan gychwyn y broses o ddod â gwirfoddolwyr lleol at ei gilydd ar gyfer yr ŵyl.

Roedd dros 300 o bobl yn bresennol, a hynny ar ôl i'r trefnwyr orfod symud lleoliad y cyfarfod o Ganolfan Gelfyddydau Chapter i Gapel Salem gerllaw oherwydd y galw.

Betsan Moses

Y digwyddiad ymhen dwy flynedd fydd ymweliad cyntaf y brifwyl â'r brifddinas ers 2018, pan gafodd ei chynnal ym Mae Caerdydd.

Bryd hynny roedd mynediad am ddim i'r maes agored, ac yn dilyn hynny fe wnaeth yr Eisteddfod Genedlaethol gyhoeddi bod Eisteddfod Caerdydd wedi gwneud colled o £290,000.

Ond mae'r Eisteddfod eisoes wedi dweud y bydd maes 2028 yn un traddodiadol gyda thocynnau.

Roedd y cyfarfod nos Fercher yn gyfle i bobl leol ddangos eu cefnogaeth, a chlywed am sut i ymuno â'r gwaith o drefnu'r ŵyl.

Wrth agor y cyfarfod, fe ddywedodd Betsan Moses fod Cyngor Caerdydd wedi dangos brwdfrydedd i gynnal prifwyl arall bron yn syth ar ôl yr un diwethaf ddegawd yn ôl.

"Mae'r ddwy flynedd sy'n arwain at yr Eisteddfod cyn bwysiced â'r ŵyl ei hun," ychwanegodd, gan ddweud bod y gweithgarwch lleol hefyd yn cael effaith ar yr iaith Gymraeg yn yr ardal.

'Dim angen bod yn rhugl'

Dywedodd ei bod hi am i bob ardal yng Nghaerdydd deimlo'n rhan o'r Eisteddfod, a'i bod yn awyddus i ddenu pobl newydd, gan gyfeirio at y rheiny oedd yn dechrau dysgu Cymraeg.

Doedd dim angen bod yn rhugl, oedd ei neges, gan ychwanegu bod angen i "bawb deimlo bod yna le iddyn nhw yn yr Eisteddfod".

"Peidiwch meddwl bod rhaid i chi fod yn rhugl i ddod i weithio gyda ni," meddai.

"Fe allwch chi ymdrochi yn yr holl ddigwyddiadau a defnyddio'r Gymraeg sydd gyda chi."

Fe gyfeiriodd at yr effaith roedd cynnig mynediad am bris gostyngol wedi ei gael yn Wrecsam, a bod pobl a ddaeth allan o chwilfrydedd wedi mwynhau.

Ychwanegodd fod effaith yr Eisteddfod yn hollbwysig, a'i bod am weld y gwaddol hwnnw'n "gwneud gwahaniaeth ym myd addysg ac iechyd...achos bydd e'n dangos y galw am wasanaethau Cymraeg".

Mae'r broses enwebu ar gyfer cadeirydd ac aelodau eraill y pwyllgor gwaith, fydd yn helpu i drefnu'r Eisteddfod, ar agor nes 6 Hydref.

Cyfarfod Eisteddfod Caerdydd

Mae'r Eisteddfod hefyd wedi croesawu pobl i gynnig eu hunain fel aelodau ar gyfer y pwyllgorau cystadlu, artistig ac weithredol, sy'n gyfrifol am bethau fel y gronfa leol a harddu.

Yn dilyn y cyhoeddiad fis diwethaf y byddai'r ŵyl yn dychwelyd i'r brifddinas, dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd ei fod yn "hynod falch" o groesawu'r "dathliad mwyaf a phwysicaf o'r Gymraeg a diwylliant Cymreig" unwaith eto.

"Mae gan Gaerdydd hanes balch o gynnal digwyddiadau mawr, ac edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt ar gyfer yr hyn sy'n siŵr o fod yn Eisteddfod gofiadwy ac ysbrydoledig," meddai Chris Weaver.

Ni chafodd lleoliad posib ar gyfer yr Eisteddfod ei grybwyll yn y cyfarfod nos Fercher, ond fe allai digwyddiadau eraill sy'n cael eu cynnal yng Nghaerdydd dros yr haf gael effaith ar y gofodau fydd ar gael.

Bydd y brifddinas yn cynnal chwech o gemau twrnament pêl-droed Euro 2028, gyda'r olaf o'r rheiny yn Stadiwm y Mileniwm ar 1 Gorffennaf - dros fis cyn yr Eisteddfod.

Mae lleoliadau awyr agored yng nghanol y ddinas, gan gynnwys caeau Pontcanna a Blackweir, hefyd yn cynnal digwyddiadau cyson fel cyngherddau dros fisoedd yr haf.

Yn 2017 bu'n rhaid i ŵyl gerddoriaeth Tafwyl symud o Gastell Caerdydd i gaeau Llandaf, oherwydd yr isadeiledd oedd ei angen ar gyfer cynnal rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr y flwyddyn honno.

Wrth siarad yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Betsan Moses fod modd "cydweithio" gyda'r cyngor i ddod o hyd i safle addas.

"Mae'n her bleserus i edrych ar beth yw'r opsiynau, beth sydd wedi digwydd yn y blynyddoedd cynt, ond hefyd edrych yn wahanol," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.