Caerdydd fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol 2028

CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
GanDavid Grundy
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Caerdydd fydd cartref yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2028, medd trefnwyr y Brifwyl.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud ar Faes Eisteddfod y Garreg Las ddydd Sadwrn, wrth i'r ŵyl ddirwyn i ben.

Dyma fydd y tro cyntaf i'r brifddinas gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol ers degawd.

Yn wahanol i 2018, pan oedd y maes yn un agored ac roedd mynediad yn rhad ac am-ddim, bydd maes 2028 yn un fwy traddodiadol, gyda thocynnau, yn ôl Betsan Moses, Prif Weithredwr y Brifwyl.

Betsan Moses
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Betsan Moses eu bod yn edrych ymlaen at ddechrau'r gwaith ac "adeiladu'r cyffro dros y ddwy flynedd nesaf"

"Mi fydd hi'n faes traddodiadol," meddai Betsan Moses, "ond mi fydd hi'n faes yn debyg i hon o ran bod yna docynnau a bydd yna furiau".

Dyw union leoliad y Brifwyl ddim wedi ei ddewis eto, ond bydd y gwaith o baratoi yn dechrau gyda chyfarfod cyhoeddus yng Nghanolfan Gelfyddydau y Chapter, Treganna, ar 9 Medi.

Bwriad y cyfarfod yw rhoi cyfle i bobl leol ddangos eu cefnogaeth, gwirfoddoli ac ymuno â'r gwaith o drefnu'r ŵyl a'r prosiect cymunedol fydd yn arwain ati.

Ychwanegodd Betsan Moses, fod y trefnwyr yn "edrych ymlaen yn fawr" at ddechrau'r gwaith yng Nghaerdydd ac "adeiladu'r cyffro dros y ddwy flynedd nesaf".

"Mae gan Gaerdydd hanes balch o gynnal digwyddiadau mawr, ac edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt ar gyfer yr hyn sy'n siŵr o fod yn Eisteddfod gofiadwy ac ysbrydoledig," meddai'r Cynghorydd Chis Weaver, Arweinydd Cyngor Caerdydd.

Bydd enwebiadau ar gyfer swyddogion Pwyllgor Gwaith Eisteddfod 2028 yn agor yr wythnos nesaf ac mi fydd y brifwyl ei hun yn cael ei chynnal rhwng 5 a 12 Awst.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig