AS eisiau tynnu baner Wcráin o'r Senedd i godi Jac yr Undeb arall

Mae Cai Parry-Jones wedi dweud na ddylai baner Wcráin gael ei hedfan o flaen y Senedd
- Cyhoeddwyd
Mae AS Reform wedi dweud na ddylai baner Wcráin gael ei hedfan o flaen y Senedd, ac yn lle hynny y dylid hedfan yr un nifer o faneri Jac yr Undeb ac sydd o rai Cymru.
Ers i Rwsia ymosod yn llawn ar Wcráin ym mis Chwefror 2022, mae'r faner las a melyn wedi cael ei hedfan y tu allan i'r Senedd.
Yn un o ASau newydd Reform UK ym Mae Caerdydd, dweud mae Cai Parry-Jones bod "Cymru yn rhan falch o'r DU a dylai Ystâd y Senedd adlewyrchu'r ffaith honno", gyda'r baneri.
Honnai mai "virtue signalling" ydy'r faner Wcráin.
Daw'r sylwadau yn dilyn ffrae ar ôl i gyngor yn Lloegr, sy'n cael ei arwain gan Reform, dynnu baner Wcreinaidd i lawr.
Mae'r Senedd wedi gwrthod gwneud sylw.
Mewn cyfweliad a fydd yn cael ei ddarlledu dros y penwythnos mae arweinydd Cymreig Reform UK, Dan Thomas yn cytuno bod angen tynnu'r faner i lawr, ond yn awgrymu gosod baner y sir yn ei le.
'Dwi'n sefyll yn gadarn wrth gefn pobl Wcráin'
Fe wnaeth y cyngor yn Essex, o dan arweinyddiaeth newydd Reform, dynnu'r faner i lawr yn gynharach yn y mis.
Galwodd arweinydd y cyngor hwnnw, Peter Harris, y foment yn un "falch", tra bod gwrthblaid Geidwadol y cyngor wedi dweud y gallai annog "gwleidyddiaeth pro-Kremlin".
Mae arweinydd Reform UK, Nigel Farage, wedi dweud ar y cyfryngau cymdeithasol na fyddai'r blaid yn hedfan baneri tramor uwchben adeiladau cyhoeddus.
Cytuno gyda'r arweinydd a wnaeth Mr Parry-Jones, ond gan ddweud wrth BBC Cymru ei fod yn "sefyll yn gadarn wrth gefn pobl Wcráin, sy'n sefyll i fyny - yn gywir - yn erbyn Putin ar ôl ei ymosodiad anghyfreithlon ar eu gwlad".
Ond ychwanegodd nad ydy hedfan y faner yn "gwneud unrhyw beth i gadw Rwsia draw".
"Mae angen i ni symud i ffwrdd o wleidyddiaeth virtue signalling.
"Mae pobl yn gweld drwyddo fo ac yn gywir o fod eisiau i wleidyddion fynd yn ôl i ganolbwyntio ar faterion elfennol a fydd yn cael effaith gadarnhaol ac amlwg ar bobl Cymru, fel iechyd, addysg ac economi Cymru."

Ar hyn o bryd mae gan y Senedd ddwy faner Gymreig ar flaen yr adeilad ac un Jac yr Undeb ochr yn ochr ag un Wcráin
Mewn cyfweliad ar gyfer rhaglen Politics Wales ddydd Sul, dywedodd arweinydd Reform UK yng Nghymru ei fod yn cytuno â'r alwad i dynnu baner Wcráin i lawr o flaen y Senedd.
"Rwy'n meddwl y dylai pob faner sy'n chwifio yn y DU fod yn faneri'r DU, a hyd yn oed rhai sirol," dywedodd Dan Thomas.
"Gallwn ni ei ddisodli gyda baner Sir Caerdydd neu rywbeth felly.
"Gallwn ni ddangos undod, ac rydym wedi gwneud hynny fel gwlad, ond gallwn ni wneud hynny heb chwifio'r baneri."

Mae modd dangos undod gydag Wcráin heb cyhwfan baner y wlad dros adeiladau cyhoeddus, medd arweinydd Cymreig Reform UK, Dan Thomas
Mae baneri Wcráin wedi cael eu hedfan wrth adeiladau llywodraeth ledled y DU ers i'r ymosodiad ddechrau ym mis Chwefror 2022.
Ar hyn o bryd mae gan y Senedd ddwy faner Gymreig ar flaen yr adeilad ac un Jac yr Undeb ochr yn ochr ag un Wcráin.
Pob hyn a hyn caiff un o'r baneri Cymreig ei newid am faner sy'n cynrychioli digwyddiad.
Mae Llywodraeth Cymru yn hedfan baner Wcráin yn ei hadeilad ym Mharc Cathays, Caerdydd, hefyd.
Bydd unrhyw benderfyniad yn y dyfodol ynghylch pa faneri sy'n hedfan y tu allan i'r ystâd yn nwylo Huw Irranca-Davies o'r Blaid Lafur, a ddaeth yn Llywydd ar y Senedd wedi'r etholiad.
'Arwydd gweledol o wrthwynebiad'
Roedd grŵp trawsbleidiol o ASau wedi cydweithio yn y tymor cynt i godi pres a dod o hyd i gerbydau ar gyfer Wcráin - mae'r cyn-AS Llafur a gweinidog, Mick Antoniw, wedi ymweld â'r wlad sawl tro ers i'r rhyfel ddechrau.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Darren Millar, ei fod yn "cefnogi hedfan baner Wcráin y tu allan i'n Senedd".
"Mae'n arwydd gweledol o wrthwynebiad cadarn y Senedd i ymosodiad anghyfreithiol Rwsia ar Wcráin.
"Ar ôl ymweld ag Wcráin y llynedd gydag un o ASau Reform, rwyf wedi fy synnu ac yn siomedig â'u safbwynt."
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod gwneud sylw hefyd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.