Crynodeb

  • Y Senedd yn cwrdd am y tro cyntaf ers yr etholiad yr wythnos diwethaf

  • Disgwyl i arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, gael ei gadarnhau yn brif weinidog

  • Bydd hynny wedi i Lywydd a dirprwy Lywydd gael eu dewis

  • Mae modd gwylio'r trafodaethau yn fyw ar frig y llif byw

  • Plaid Cymru enillodd y mwyaf o seddi yn yr etholiad - 43 - ond maen nhw chwe aelod yn brin o fwyafrif

  • Enillodd Reform 34 sedd, Llafur 9, Ceidwadwyr 7, Y Blaid Werdd 2, a'r Democratiaid Rhyddfrydol 1

  • Mae'r Gwyrddion wedi dweud y byddan nhw'n cefnogi ethol Rhun ap Iorwerth, tra bo' disgwyl i Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol ymatal

  1. Ffrindiau ar draws y pleidiauwedi ei gyhoeddi 14:20 GMT+1

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    'Da ni’n aml yn gweld cryn dipyn o ddadlau a ffraeo rhwng y pleidiau yn y siambr yma.

    Ond y gwirionedd yw bod gan yr aelodau lot o barch i’w gilydd ac mae 'na ffrindiau ar draws y pleidiau hefyd.

    Wrth i'r aelodau fynd allan i bleidleisio nawr, daeth arweinydd y Ceidwadwyr Darren Millar i fyny at Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru i ysgwyd ei law, gyda Huw Irranca-Davies o’r blaid Lafur - yr unig enwebiad i fod yn Llywydd - yn ymuno â nhw am sgwrs hefyd.

    Tra bod yr aelodau’n dal i bleidleisio mae Huw Irranca-Davies yn cael gwers sydyn ar sut mae defnyddio cyfrifiadur y Llywydd.

    Mi fydd ganddo reolaeth dros feicroffonau’r holl aelodau unwaith y mae yn y sedd.

  2. Criw Plaid Cymru yn cyrraedd y Seneddwedi ei gyhoeddi 14:15 GMT+1

    Dyma oedd yr olygfa yn y prynhawn 'ma wrth i aelodau etholedig newydd Plaid Cymru gyrraedd y Senedd.

    Disgrifiad,

    Grŵp Plaid Cymru yn cerdded i'r Siambr

  3. Ai Kerry Ferguson fydd y dirprwy Lywydd?wedi ei gyhoeddi 14:12 GMT+1

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Dwi’n deall y bydd Plaid Cymru yn cynnig enw Kerry Ferguson ymlaen i fod yn ddirprwy Lywydd.

    Byddai hyn yn golygu bod Elin Jones yn pasio’r baton ymlaen i aelod arall o Geredigion - er, fel dirprwy yn hytrach na Llywydd.

  4. 'Profiad eang'wedi ei gyhoeddi 14:09 GMT+1

    Dywed Huw Irranca-Davies bod ganddo y "profiad eang" ar gyfer y swydd a'i fod "yn credu yng ngrym y sefydliad democrataidd hwn i wella bywydau pobl yng Nghymru".

    "Os caf fy ethol, dwi'n addo gweithio gyda phawb yn y siambr, gydag atebolrwydd ac yn ddiduedd".

    Bydd pleidlais gyfrinachol nawr yn cael ei chynnal, ac mae'r cyfarfod wedi'i atal er mwyn galluogi i aelodau wneud hynny.

  5. Enwebiadauwedi ei gyhoeddi 14:03 GMT+1

    Mae Huw Irranca-Davies yn cael ei enwebu ac yn cael ei eilio.

    Mae Paul Davies yn cael ei enwebu ond ddim yn cael ei eilio.

    Dim ond Huw Irranca-Davies sy'n symud ymlaen felly.

    Ond gan fod rhywun yn dweud eu bod yn gwrthwynebu, rydyn ni nawr yn disgwyl pleidlais.

    Yn gyntaf, mae gan Mr Irranca Davies y cyfle i gyflwyno ei achos i'r Senedd.

  6. Galw am enwebiadau ar gyfer Llywyddwedi ei gyhoeddi 14:02 GMT+1

    Yr eitem gyntaf yw ethol Llywydd i olynu Elin Jones.

    Mae hi'n llongyfarch y 96 Aelod newydd ac yn eu hatgoffa o'r "disgwyliadau uchel" gan bobl Cymru.

    Mae'r cadeirydd, Ms Jones, yn galw am enwebiadau.

    Rhaid i enwebiad gael ei eilio gan aelod nad yw'n perthyn i'r un grŵp gwleidyddol â'r aelod sy'n enwebu.

  7. Gwyliwch y trafodaethau'n fywwedi ei gyhoeddi 14:01 GMT+1

    Mae'r cyfarfod wedi dechrau - gallwch wylio'r trafodaethau yn fyw trwy glicio'r eicon chwarae ar frig y llif.

  8. Ethol dirprwy Lywydd yn ‘effeithio mwyafrif llywodraeth’wedi ei gyhoeddi 13:59 GMT+1

    Dros Ginio
    BBC Radio Cymru

    Doedd hi ddim yn glir doe a fyddai'r bleidlais i ethol prif weinidog yn mynd yn ei blaen heddiw, oherwydd ansicrwydd ynghylch pwy fyddai'n cymryd swydd y dirprwy Lywydd.

    Yn ôl rheolau sefydlog y Senedd, os yw'r Llywydd yn aelod o wrthblaid, yna mae rhaid i'r dirprwy Lywydd fod yn aelod o'r llywodraeth.

    Gydag enwau Huw Irranca-Davies o Lafur a Paul Davies o'r Ceidwadwyr eisoes yn y ras i fod yn Llywydd, roedd disgwyl i Blaid Cymru enwebu dirprwy - rhywbeth mae’r blaid bellach wedi cadarnhau y byddan nhw’n ei wneud.

    Yn ôl Dr Elin Royles o Brifysgol Aberystwyth, y rheswm am yr ansicrwydd ydi’r effaith ar y llywodraeth newydd - gan nad ydi'r Llywydd na'r dirprwy fel rheol yn cael pleidleisio.

    “Mae ‘na bwysau wedi bod ar Blaid Cymru i fod yn enwebu heddiw ond mi fydd hynna wrth gwrs yn effeithio ar eu mwyafrif nhw fel llywodraeth a dyna pam oedden nhw ychydig yn anfoddog i neud hynny,” meddai Dr Royles ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru.

    “Felly mae [ethol y llywydd a’r dirprwy] yn broses ond mae’n broses bwysig er mwyn i’r Senedd allu gweithio mewn ffordd effeithiol ac mae nifer o rolau pwysig o gwmpas y rôl - yn cadeirio'r cyfarfodydd llawn ond hefyd bod yn wleidyddol ddiduedd ac yn y blaen yn y Siambr ac yng ngwaith y Senedd.”

  9. Diddordeb gan 'fwy nag un' o Blaid Cymru i fod yn ddirprwy Lywyddwedi ei gyhoeddi 13:54 GMT+1

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Mae Plaid Cymru wedi dweud y byddan nhw'n enwebu dirprwy Lywydd, ond dyw hi ddim yn glir hyd yma pwy fydd hynny.

    Mae diddordeb gan "fwy nag un" o fewn Plaid Cymru mewn bod yn ddirprwy Lywydd, yn ôl un o ASau'r blaid.

    Dywedodd Llyr Gruffydd ar Dros Frecwast y bore 'ma bod "dau ymgeisydd arbennig iawn" i fod yn Llywydd - Huw Irranca-Davies a Paul Davies.

    Er y byddai'n ddigon hapus gweld un yn llywydd a'r llall yn ddirprwy, "nid dyna sy’n cael ei ganiatáu o fewn y rheolau".

    Gyda'r disgwyliad y bydd Plaid Cymru'n ffurfio'r llywodraeth nesaf, dywedodd: "Ein bwriad ar hyn o bryd yw bydd un o’r gwrthbleidiau ac un o’r llywodraeth.”

  10. Prysurdeb yn y Bae!wedi ei gyhoeddi 13:50 GMT+1

    Daniel Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Ar hyd y blynyddoedd dwi wedi gwylio cyfarfodydd di-ri o’r Senedd - rhai ohonyn nhw’n llai cofiadwy nag eraill.

    Ond mae heddiw am fod yn gyfarfod tra gwahanol, gyda newid mawr wedi bod yng ngwleidyddiaeth Cymru.

    Des i lawr i’r siambr yn gynnar i sicrhau fod mod i’n cael tocyn i’r galeri cyhoeddus.

    Mae ‘na alw mawr am seddi i wylio’r sesiwn heddiw, yn ôl y sôn, gyda’r holl aelodau newydd yn gwahodd eu teuluoedd i’r Bae.

    Cyfarfod llawn
  11. Huw Thomas yn 'sicr yn cefnogi' Huw Irranca-Davieswedi ei gyhoeddi 13:45 GMT+1

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Un fydd yn "sicr yn cefnogi" Huw Irranca-Davies fel Llywydd y Senedd y prynhawn 'ma ydy aelod newydd Llafur dros Gaerdydd Penarth, Huw Thomas.

    Yn siarad ar Dros Frecwast y bore 'ma, dywedodd Mr Thomas - sydd wedi bod yn arweinydd Cyngor Caerdydd - bod Huw Irranca-Davies yn "wleidydd o statws fydd yn gallu cynnal disgyblaeth ac urddas o fewn y Senedd".

    Mr Irranca-Davies oedd y dirprwy brif weinidog yn ystod cyfnod Eluned Morgan yn brif weinidog, a bu hefyd yn gwasanaethu fel ysgrifennydd amaeth.

    Ychwanegodd Mr Thomas: "Mae ganddo brofiad yn y Senedd ei hunan a San Steffan, sydd yn ddefnyddiol, dwi'n credu. Felly dwi’n mawr obeithio fod y niferoedd yno i ethol Huw yn Llywydd.”

  12. Beth mae'r pleidiau eraill wedi'i ddweud?wedi ei gyhoeddi 13:40 GMT+1

    Dydd Sul dywedodd Ken Skates - arweinydd dros dro Llafur yn y Senedd wedi i Eluned Morgan golli ei sedd - y byddai aelodau'r blaid yn cyfarfod ddydd Llun i benderfynu ar eu sefyllfa, ond “roedd y teimlad o gefnogi Reform yn un hynod amhleserus i holl aelodau’r grŵp”.

    Dywedodd Jane Dodds o’r Democratiaid Rhyddfrydol: “Ni fyddwn yn cefnogi unrhyw brif weinidog Reform UK”, gan ychwanegu: “Byddaf yn ymatal os mai enw Rhun fydd yn cael ei gynnig.”

    Dywedodd arweinydd y Blaid Werdd, Anthony Slaughter, fod cefnogi Rhun yn “no-brainer”, am fod gan Blaid Cymru “fandad clir iawn” ac “mae’n rhaid i ni yrru neges glir ei fod yn amser am wleidyddiaeth adeiladol yng Nghymru”.

    Dywedodd Llŷr Powell wrth BBC Cymru y bydd aelodau Reform o’r Senedd yn enwebu eu harweinydd, Dan Thomas, i fod yn brif weinidog.

  13. 'Plaid Cymru yma fel cynrychiolwyr o Gymru gyfan'wedi ei gyhoeddi 13:35 GMT+1

    Mae Rhun ap Iorwerth wedi cadarnhau mai nod Plaid Cymru yw ffurfio llywodraeth leiafrifol, gan gydweithio gyda phleidiau eraill ar ddeddfwriaeth a chyllidebau unigol.

    Dywedodd dros y penwythnos ei fod "barod i ffurfio llywodraeth nesaf Cymru ac rydym yma fel cynrychiolwyr o Gymru gyfan - heb amheuaeth, pob cymuned".

    "Byddwn yn gwneud popeth i ad-dalu'r ffydd y mae pobl wedi rhoi ynom ni, oherwydd mae gennym yr awch amlwg i wneud gwahaniaeth i'r hyn sy'n bwysig i fywydau pobl.

    "Rydym yn cofio am y rheiny a wnaeth yr holl waith caled i Gymru ac sydd ddim yma i weld hyn.

    "'Da ni'n gwneud hyn dros Gymru gyfan, a fy mraint i yw bod yma rŵan fel darpar brif weinidog fel rhan o grŵp o 43 o aelodau."

    Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. 'Diwrnod mawr'wedi ei gyhoeddi 13:31 GMT+1

    Daniel Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    “Diwrnod mawr,” meddai Rhun ap Iorwerth wrth iddo frasgamu mewn i’r Senedd y bore 'ma. Mae'n amhosibl anghytuno â hynny.

    O’n i yma yn gynnar yn darlledu i Radio Cymru cyn i Mr ap Iorwerth gael ei benodi, siŵr o fod, fel prif weinidog Cymru - y cyntaf i beidio â bod yn aelod o’r Blaid Lafur.

    Efallai wnaiff helynt San Steffan dynnu’r sylw i ffwrdd o Fae Caerdydd heddiw, ond canlyniad trychinebus yr etholiad i Lafur yw’r cyd-destun i ddigwyddiadau yn y naill le.

  15. Beth arall sy'n digwydd heddiw?wedi ei gyhoeddi 13:26 GMT+1

    Bydd angen i'r Senedd newydd, sydd â 96 aelod, hefyd benderfynu heddiw pwy fydd Llywydd nesa' Senedd Cymru - gydag enwau Huw Irranca-Davies o Lafur a Paul Davies o'r Ceidwadwyr yn y ras.

    Dydd Llun doedd hi ddim yn glir a fyddai'r bleidlais i ethol prif weinidog yn mynd yn ei blaen heddiw, oherwydd ansicrwydd ynghylch pwy fyddai'n cymryd swydd y dirprwy Lywydd.

    Ond yn unol â rheolau sefydlog y Senedd, mae llefarydd ar ran Plaid Cymru bellach wedi cadarnhau y bydd y blaid yn enwebu rhywun ar gyfer y rôl.

    Os yw'r Llywydd yn aelod o wrthblaid - fel Huw Irranca-Davies o Lafur neu Paul Davies o'r Ceidwadwyr - yna mae rhaid i'r dirprwy Lywydd fod yn aelod o'r llywodraeth.

    Paul Davies a Huw Irranca-DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. Disgwyl i Rhun ap Iorwerth gael ei ethol yn brif weinidogwedi ei gyhoeddi 13:21 GMT+1

    Mae disgwyl i Rhun ap Iorwerth gael ei gadarnhau'n brif weinidog nesaf Cymru yng nghyfarfod cyntaf y Senedd heddiw, yn dilyn buddugoliaeth hanesyddol ei blaid yn yr etholiad.

    Daeth Plaid Cymru â chanrif o lwyddiant etholiadol Llafur yng Nghymru i ben yr wythnos diwethaf, ynghyd â 27 mlynedd wrth y llyw yng Nghaerdydd.

    Mae'r llwybr nawr yn glir i Mr ap Iorwerth gael ei gadarnhau yn brif weinidog gan fod disgwyl i Lafur a'r Democrat Rhyddfrydol Jane Dodds ymatal, tra bod dau aelod newydd y Gwyrddion yn bwriadu cefnogi Plaid Cymru.

    Rhun ap Iorwerth fydd arweinydd cyntaf Llywodraeth Cymru i beidio â bod o'r blaid Lafur.

  17. Croeso i'n llif bywwedi ei gyhoeddi 13:15 GMT+1

    Croeso i'n llif byw ar ddiwrnod hanesyddol i wleidyddiaeth yng Nghymru.

    Wedi eu llwyddiant yn yr etholiad yr wythnos diwethaf, mae disgwyl y bydd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn cael ei ethol yn brif weinidog wrth i'r Senedd newydd gyfarfod am y tro cyntaf.

    Ond mae gwaith i'w wneud cyn hynny, gyda'r Senedd angen ethol Llywydd a dirprwy Lywydd yn gyntaf.

    Arhoswch gyda ni am y cyfan!

    Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, PA Media