Elfyn Evans yn cefnogi apêl Eisteddfod drwy werthu menig i gefnogwr yn Japan

Elfyn Evans yn gwisgo'r menigFfynhonnell y llun, Elwyn Jones
GanBeth Alaw Williams
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae menig pencampwr ralïo'r byd, Elfyn Evans wedi helpu ymdrechion i godi arian tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol, ar ôl cael eu gwerthu i ddyn yn Japan.

Cafodd y menig eu hysbysebu ar gyfryngau cymdeithasol gan y pwyllgor codi arian ym Maldwyn Meirionydd, ac er bod diddordeb yn lleol, roedd teimlad y byddai'r budd mwyaf yn dod o'u gwerthu i un o'r "superfans" sydd dros y byd.

Dywedodd aelod o'r pwyllgor, Elwyn Jones, sydd hefyd yn perthyn i'r gyrrwr o Ddolgellau: "I ni yma, mae o'n fachgen bach o Ddinas [Mawddwy], cyffredin, ond i bobl dros y byd mae [y menig] yn beth sy'n eitha' sbesial."

Cafodd y menig eu gwerthu am swm anhysbys, ac ar ôl teithio bron i 9,000 o filltiroedd, cafodd y perchennog newydd eu gwisgo wrth wylio'r Cymro yn cyrraedd y brig ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd yn Sardinia.

Elfyn Evans efo helmed draig goch ar ei benFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Elfyn Evans Bencampwriaeth Rali y Byd eleni, ar ôl gorffen yn ail bum gwaith

Mae'r pwyllgor sy'n codi arian at Eisteddfod Genedlaethol 2027 wedi hen gychwyn cynnal digwyddiadau ar gyfer cronfa'r brifwyl, gan gynnwys yr ocsiwn.

Ag yntau'n gefnder i Gwyndaf Evans, tad Elfyn, cafodd Elwyn Jones y syniad am eitem posib i'w werthu.

"Wnes i ofyn Elfyn am y menig, a ddywedodd o, 'O ie, mwy na bodlon helpu achos lleol'", meddai Elwyn.

Roedd rhai o'r eitemau eraill ar werth yn cynnwys pryd o fwyd mewn tafarn lleol, MOT gan garej, a hanner diwrnod o waith gan weithwyr fferm.

Dywedodd Elwyn bod "pawb yn gwybod Elfyn fel bachgen Dinas".

"Does 'na ddim airs and graces 'efo Elfyn, mae Elfyn yn hollol fel oedd o 20 mlynedd yn ôl."

Menig ElfynFfynhonnell y llun, Elwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dydy'r trefnwyr ddim wedi datgelu pris y menig

Er bod rhywfaint o ddiddordeb yn y menig yn lleol, cafodd Elwyn y syniad o'u hysbysebu ar grŵp cefnogwyr Elfyn ar Facebook.

Dywedodd: "D'on i ddim wedi disgwyl y fath diddordeb, i ddweud y gwir.

"Mi roedd o'n dri diwrnod gwirion iawn wedyn, pobl yn ffonio o bob man eisiau gwybod hanes y menig, a'r ralis oedd wedi gwisgo nhw ar."

Ar ôl derbyn cynigion o Ffrainc, yr Almaen a De America, cefnogwr yn Japan wnaeth y cynnig uchaf gyda swm sydd ddim wedi ei gyhoeddi.

"'Oeddwn i'n dechrau meddwl mai'r boi yma yn chwarae gwirion 'efo ni, y math o bris oedd o'n cynnig.

"Ar ôl cysylltu'n ôl ac ymlaen, sawl gwaith, dod i ddeall bod o'n genuine a bod o'n superfan."

Mae'r menig wedi cael cartref newydd gyda un o ffans Elfyn yn Japan, Yukihiro Horimoto (chwith)Ffynhonnell y llun, Yukihiro Horimoto
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r menig wedi cael cartref newydd gyda un o ffans Elfyn yn Japan, Yukihiro Horimoto (chwith)

Yn ôl Elwyn, roedd gwerthu'r menig wedi rhoi "hwb sylweddol" i ymdrechion codi arian y fro.

Fe gafodd y menig eu hanfon i ben arall y byd cyn i Elwyn deithio i'r Eidal i wylio Elfyn yn dod i'r brig.

"O'n i'n ofnadwy o browd", meddai.

'Profiad arbennig'

"Oedd hi'n edrych fel bod hi ddim am fod unwaith yn rhagor ac 'oeddwn ni gyd yn dechrau edrych ar ein sgidiau.

"Mi ddaeth yn glir o fewn ychydig iawn o amser beth oedd wedi digwydd, ac wedyn 'oedd yna ddathlu'r diawl, a Hen Wlad Fy Nhadau, ac ia, oedd o'n brofiad arbennig.

"Ddaru [perchennog newydd y menig] gysylltu â fi pan o'n i allan yn Sardinia jyst yn dweud bod o'n gwisgo'r menig yn gwylio'r rali ar y teledu."

Mae'r pwyllgor nawr yn edrych i'r dyfodol, gan obeithio cynnal digwyddiadau eraill er budd yr eisteddfod yn fuan.

Yn ôl Elwyn: "Da ni'n edrych ymlaen yn ofnadwy, a da ni'n edrych ymlaen hefyd i ddangos Bro Ddyfi ar ei gorau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.