Cyn-AS wedi 'cyffwrdd menyw ar drên yn ddamweiniol gyda ffôn'

Mae Gwynoro Jones yn gwadu cyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar fenyw yn 2024 wrth i'r ddau deithio ar drên rhwng Llundain ac Abertawe.
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed sut y gwnaeth cyn-wleidydd "gyffwrdd menyw yn ddamweiniol gyda ffôn symudol" ar drên.
Mae'r cyn-wleidydd a darlledwr Gwynoro Jones wedi'i gyhuddo o ymosod ar fenyw yn rhywiol ar drên Great Western Railway ar 16 Gorffennaf 2024.
Dywedodd achwynydd iddi deimlo'n "hynod o anghyfforddus" wrth i'r cyn-Aelod Seneddol dros Gaerfyrddin gyffwrdd ei braich a'i phen-ôl.
Mae Mr Jones yn gwadu'r cyhuddiad yn ei erbyn.
Cafodd Mr Jones, sy'n 83 o Orseinon, ei ethol i gynrychioli Caerfyrddin yn Nhŷ'r Cyffredin rhwng 1970 a 1974.
'Gofynnes i ddim byd personol'
Wrth iddo roi tystiolaeth gerbron y rheithgor yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth dywedodd fod yr achwynydd na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol "yn dweud celwydd".
Gan roi tystiolaeth yn Gymraeg, cadarnhaodd ei fod wedi teithio ar y trên o Lundain i dde Cymru ar 16 Gorffennaf 2024, ac wedi gwneud y daith "gannoedd o weithiau".
Gofynnodd Mr Jones am gael teithio yn y cerbyd dosbarth cyntaf y diwrnod hwnnw oherwydd bod ganddo broblemau clyw a phroblemau gyda'i gefn.
Dywedodd: "Dwi'n ymlacio [ar y trên] a'n gofyn am ddwy botel fach o win coch, dwi wedi bod yn gwneud hynny ers blynyddoedd."
Fe welodd y rheithgor ddeunydd camera cylch cyfyng o Gwynoro Jones yn siarad gyda'r achwynydd.

Gwynoro Jones tu allan i Lys y Goron Abertawe
Ddydd Llun dywedodd yr achwynydd drwy gyswllt fideo ei bod wedi teimlo'n "hynod o anghyfforddus" wrth i Mr Jones rwbio ei braich a chyffwrdd â'i phen-ôl, gan adael clais.
Honodd Mr Jones ei fod wedi cyffwrdd yr achwynydd er mwyn cael gwared ar friwsion o'i braich.
"Roeddwn i'n bwyta bwyd Siapaneaidd, y swshis bach 'na… ma'n fab i wastad yn dweud wrthai ddim i fwyta gyda 'ngheg i ar agor…aeth ychydig o'r bwyd ar ei braich hi."
Dywedodd yr achwynydd i Mr Jones ofyn sawl cwestiwn personol, gan gynnwys os oedd hi'n sengl.
"Dwi o hyd yn gofyn i bobl, beth wyt ti'n gwneud, o le ti'n dod, mae'n rhywbeth Cymreig, rhywbeth gorllewin Cymru…Dwi'n hoffi siarad â phobl," meddai.
Gwadodd holi os oedd hi'n briod.
"Gofynnais i ddim byd personol", meddai.
'Damwain oedd e'
Esboniodd i'r rheithgor fod ganddo broblemau clyw a golwg, ac oherwydd hynny roedd yn dal ei ffôn allan yn yr eil.
Honnodd ei fod wedi cyffwrdd pen-ôl y fenyw oedd yn cerdded drwy'r cerbyd "yn ddamweiniol".
"Rwy'n tybio camddigwyddiad llwyr…oedd y peth mor gyflym, sut yn y byd gafodd hi nam corfforol?"
Dywedodd ei fod o'r farn mai cornel ei ffôn symudol wnaeth gyffwrdd pen-ôl yr achwynydd.
Gofynnodd bargyfreithiwr yr amddiffyniad, Kate Williams, os oedd Mr Jones wedi cyffwrdd ynddi mewn ffordd rywiol.
"Doedd dim byd rhywiol yn fy meddwl i o gwbl," atebodd.
Gofynodd Ms WilliamsL "Beth oedd dy fwriad pan oedd dy law di allan?"
AteboddL "'Nai gyd o'n i'n ceisio gwneud oedd ffocysu [ar y ffôn]" oherwydd ei broblemau golwg.
"Dwedes i sori, straight away, yn syth… wrth gwrs taw damwain oedd e."

Cafodd Gwynoro Jones ei ethol i gynrychioli Caerfyrddin yn Nhŷ'r Cyffredin rhwng 1970 a 1974
Gofynnodd Georgia Donohue ar ran yr erlyniad os wnaeth Mr Jones yfed unrhyw alcohol cyn y daith.
"Na," atebodd.
Dywedodd eto ei fod wedi cael gwared ar fwyd o fraich yr achwynydd.
"O'n i'n teimlo'n euog bod peth o'r bwyd wedi cyffwrdd â'i braich hi, wnes i frwsio fe i ffwrdd."
Dywedodd Ms Donohue: "Dwi'n mynd i ddweud doeddech chi ddim wedi cael bwyd ar ei braich hi cyn i chi gyffwrdd â hi… dwi'n mynd i ddweud ddaeth y bwyd ddim o'ch ceg chi ond eich bysedd chi."
Gwadodd Mr Jones hynny gan ddweud iddo boeri'r bwyd arni'n ddamweiniol.
"Mae'n arferiad dylen i ddim gwneud, ond dyna fe," meddai.
Dywedodd Ms Donohue nad oedd Mr Jones wedi sôn am frwsio bwyd i ffwrdd yn ei gyfweliad gyda'r heddlu.
"Rwy'n anghytuno 100%" meddai, gan honni nad oedd y trawsgrifiad llawn wedi ei ddangos yn y llys.
Awgrymodd Ms Donohue fod Mr Jones wedi newid ei dystiolaeth i ffitio'r deunydd CCTV gafodd ei ddangos am y tro cyntaf ddydd Llun yn y llys.
Dywedodd Mr Jones: "O'n i yno, dwi'n gwybod beth ddigwyddodd. Dyw'r transcript ddim 100% yn gywir."
Gofynnodd Ms Donohue i Mr Jones os oedd yr achwynydd yn dweud celwydd.
"Sai'n lico gweud bod pobl yn dweud celwydd, ond os chi am bwsho fi, ydy mae yn dweud celwydd," atebodd.
Mae'r achwynydd yn honni i Mr Jones ddweud wrthi ei bod hi'n "bert".
Dywedodd Mr Jones: "Dwi byth yn defnyddio'r gair pretty yn fy mywyd, pretty flowers, pretty view efallai, ond byth pretty woman.
"'Dyw Cymry sy'n siarad Cymraeg ddim yn siarad fel yna."
Gwadodd fod "motif rhywiol" i'r cyffyrddiad.
"Diwedd mawr, dim o gwbl," dywedodd.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon Perthnasol
Y cyn-AS Gwynoro Jones yn pledio'n ddieuog i ymosodiad rhyw
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2025
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.