'Camgymeriadau difrifol' wedi dilyn 9/11 - Prif Weinidog Cymru

- Cyhoeddwyd
Chwarter canrif ers 9/11, mae Prif Weinidog Cymru yn dweud bod "camgymeriadau difrifol" wedi eu gwneud o ran polisi tramor yn dilyn yr ymosodiadau terfysgol ar yr Unol Daleithiau yn 2001.
Bydd teuluoedd a gollodd anwyliaid yn yr ymosodiadau yn mynychu seremoni arbennig yn Efrog Newydd yn ddiweddarach, lle bydd enwau'r 2,983 o bobl bu farw ar 11 Medi, 2001 yn cael eu cyhoeddi.
Roedd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, ar ei wyliau yn ardal Efrog Newydd pan darodd dwy awyren Ganolfan Fasnach y Byd.
Ar y pryd, roedd yn gweithio fel gohebydd i'r BBC ac fe ohebodd yn fyw o'r ddinas wedi'r ymosodiadau.
25 mlynedd yn ddiweddarach, dywedodd y prif weinidog ei fod yn teimlo i "gamgymeriadau difrifol gael eu gwneud" o ran polisi tramor yn dilyn 9/11 "gan ddechrau gwahanol ryfeloedd ac ati".

Bu farw bron i 3,000 o bobl yn yr ymosodiadau ar 11 Medi, 2001
"Beth welson ni ar ôl 11 Medi oedd y penderfynoldeb yma yn America rydw i'n ei gofio'n iawn, i ddial.
"Tra ar un llaw, oherwydd maint yr ymosodiad ar America, mae rhywun yn gallu deall.
"Ond wrth gwrs, beth mae rhywun wedyn yn gorfod ei ystyried yw beth ydy'r perygl o weithredu heb feddwl rhywbeth drwodd? Heb feddwl beth ydy'r goblygiadau? Heb feddwl am ffordd allan? Heb feddwl beth ydy'r pendraw?
"Dyna ydy'r negeseuon dwi'n meddwl 'naeth ddilyn o'r rhyfel yn Afghanistan er enghraifft."
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cael cais am ymateb i'w sylwadau.

Roedd David Morgan i fod yng Nghanolfan Fasnach y Byd ar 9/11
Yn Efrog Newydd dros y dyddiau diwethaf mae Cymry oedd yn y ddinas adeg yr ymosodiadau wedi bod yn rhannu eu hatgofion.
Roedd llywydd Cymdeithas Dewi Sant Efrog Newydd, David Morgan, i fod mewn cyfarfod yn Nhŵr y De - yr ail i gael ei daro - ar y bore hwnnw.
"Diolch i Dduw na es i yno'r bore yna," dywedodd.
"Un peth alla i byth anghofio yw bod y bobl ro'n i'n aelod o'r gymdeithas honno gyda nhw, ni ddaeth un ohonyn nhw mas.
"Mae'n anodd i feddwl 'mod i wedi gweithio gyda phobl, a 'nabod nhw'n gymdeithasol ac yn y blaen, ac ar y diwrnod ofnadwy hwnnw, dda'th popeth i ddiwedd."

Dim ond ers ychydig wythnosau roedd Katherine Wolf yn gweithio yng Nghanolfan Fasnach y Byd
Ymysg yr enwau sydd wedi eu naddu ar gofeb 9/11, mae'r Gymraes o Abertawe, Katherine Susan Wolf.
Roedd hi wedi bod yn gweithio ar lawr 97 Tŵr y Gogledd ers ychydig wythnosau yn unig.
Wrth ymweld â'r safle, mae ei gŵr, Charles, yn cofio am ei wraig trwy ddweud bod ganddyn nhw "berthynas cwbl arbennig".
"Rwy' mor ffodus iddi fod yn rhan o fy mywyd am 13 o flynyddoedd cyn i fi ei cholli pan darodd yr awyren ei hadeilad.
"Nid yn unig yr adeilad ond ei swyddfa hi.
"Doedd dim olion o gwbl ohonyn nhw. Cafon nhw eu lladd ar unwaith. Doedd dim poen.
"Mae'n fendith - doedd hi ddim yn gwybod beth oedd wedi digwydd."

Aeth Charles i safle'r ymosodiad i gofio am ei wraig, Katherine
Un arall oedd yn y ddinas oedd y ffotograffydd Dan Callister, sy'n wreiddiol o Ruthun.
"Erbyn i fi gyrraedd yma, roedd Tŵr y De wedi dymchwel," dywedodd.
"Roedd yr holl bobl yma yn cerdded heibio i fi â'u hwynebau yn hollol welw.
"Roedd hi'n amlwg bod rhywbeth difrifol wedi digwydd.
"Wrth agosáu... o'n i'n gweld debris yn disgyn - wedyn sylweddoli nad debris oedd o, ond pobl."
Cymerodd dri llun o Dŵr y Gogledd cyn i hwnnw hefyd ddymchwel.
"Cafodd yr holl injanau tân oedd wedi mynd heibio i fi ynghynt eu chwalu.
"Roedd o'n swrreal iawn."

Mae'r gofeb i'r digwyddiad wedi ei goleuo i nodi 25 mlynedd ers yr ymosodiadau
Mae Dan yn dweud bod sŵn seirenau cerbydau gwasanaethau brys yn dal i'w boeni hyd heddiw.
Mae hefyd, fel nifer o drigolion Efrog Newydd, yn teimlo nad yw'r "rhyfel ar derfysgaeth" ddilynodd ymosodiadau 11 Medi, a rhyfeloedd hir mewn gwledydd fel Afghanistan ac Irac, wedi gwneud y ddinas na'r byd yn fwy diogel.
"Newidiodd y byd ar 9/11 ond nid er gwell yn sicr.
"Dwi'n credu ein bod ni'n fwy anniogel nawr nag erioed."
Mae Medi'r 11eg: Chwarter canrif ers yr ymosodiadau gan Newyddion S4C ar gael ar YouTube.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd11 Medi 2021

- Cyhoeddwyd10 Medi 2021
