'Cyn-AS Llafur wedi tapio menyw ar ei phen-ôl ar drên' - llys

Mae Gwynoro Jones yn gwadu cyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar fenyw yn 2024 wrth i'r ddau deithio ar drên rhwng Llundain ac Abertawe
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth cyn-Aelod Seneddol Llafur gyffwrdd menyw yn amhriodol ar drên rhwng Llundain a de Cymru, mae llys wedi clywed.
Mae'r cyn-wleidydd a darlledwr Gwynoro Jones, 83, yn gwadu cyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar drên Great Western yn 2024.
Wrth agor yr achos yn Llys y Goron Abertawe, dywedodd yr erlyniad bod cyn-AS Caerfyrddin wedi cyffwrdd braich a phen-ôl y fenyw wrth i'r ddau deithio rhwng Llundain ac Abertawe mewn cerbyd dosbarth cyntaf.
Mae'r erlyniad yn honni bod Mr Jones wedi "tapio" ei phen-ôl, gan adael clais a rhwbio ei braich.
Siglodd y diffynnydd, sydd o Orseinon, ei ben a chodi ei freichiau o'r doc wrth glywed yr honiadau.
Mae disgwyl iddo roi ei dystiolaeth yntau ddydd Mawrth wrth i'r achos barhau.
'Teimlo'n lletchwith ac anghyfforddus'
Clywodd y llys fod Mr Jones wedi prynu dwy botel fach o win coch ar y trên.
Fe welodd y rheithgor ddeunydd camera cylch cyfyng yn dangos Mr Jones yn eistedd ar y trên a chyffwrdd braich y fenyw, sy'n aros yn ddienw am resymau cyfreithiol.
Chwerthodd Mr Jones o'r doc wrth weld y deunydd CCTV.
Dywedodd yr achwynwr wrth y llys sut y gofynnodd Mr Jones ble roedd hi'n byw a dweud wrthi ei bod yn "bert iawn" ac yn "hardd".
"Gofynnodd a oeddwn i'n briod neu'n sengl," meddai. "Atebais yn gwrtais ac arhosais yn ddistaw am weddill yr amser.
"Roedd o'n gwneud i mi deimlo'n anghyfforddus ac yn lletchwith iawn."
Ychwanegodd: "Y ffordd wnaeth e rwbio fy mraich - arhosodd hynny yn fy meddwl drwy gydol y daith ac ar ôl i mi adael."

Cafodd Gwynoro Jones ei ethol i gynrychioli Caerfyrddin yn Nhŷ'r Cyffredin rhwng 1970 a 1974
Dywedodd yr achwynwr wrth y llys ei bod wedi "teimlo tap" ar ran isaf ochr dde ei phen-ôl.
Roedd y cyffyrddiad, meddai "yn galed ond nid mor galed â hynny - doedd hi bendant ddim yn tap ysgafn. O'n i mewn sioc. Wnes i rewi."
Cadarnhaodd nad oedd wedi rhoi caniatâd i'r diffynnydd gyffwrdd â hi yn y fath fodd.
Dywedodd iddi ddarganfod marc ar ei phen-ôl yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw ac mae hi'n'n credu ei fod wedi'i achosi gan y "tap" gan Mr Jones.
Ysgwydodd Mr Jones ei ben yn y doc.

Gwynoro Jones yn cyrraedd Llys y Goron Abertawe ddydd Llun - mae'r amddiffyn yn dweud ei fod wedi cynnal "sgwrs gwrtais" gyda'r fenyw ar y trên
Wrth gael ei holi gan yr amddiffyniad, Kate Williams, dywedodd yr achwynwr bod Mr Jones yn bwyta swshi ar y trên a bod "darn o reis wedi aros ar fy mraich".
Mae Mr Jones yn honni iddo rwbio braich y fenyw i gael gwared ar y darn o reis, ond mae'r achwynwr yn gwrthod hynny.
"Dyw'r ffordd wnaeth e gyffwrdd arna i ddim yn normal," dywedodd.
O ran yr ail gyffyrddiad, mae Mr Jones yn honni iddi "gerdded i mewn i'w law".
"Dydw i ddim yn derbyn hynny," meddai'r achwynwr wrth y rheithgor.
Yn ôl Ms Williams fe ymddiheurodd Mr Jones wedi'r digwyddiad gan ei fod yn ddamweiniol.
Gwadodd yr achwynwr hynny, gan ddweud ei fod wedi "mwmblan rhywbeth", ac fe fynnodd bod y ddau gyffyrddiad "yn fwriadol".
'Nonsens llwyr'
Clwyodd y rheithgor fanylion cyfweliad Mr Jones ym mis Tachwedd 2024 gyda'r swyddog heddlu oedd yn gyfrifol am yr achos, y Cwnstabl Kirsty Evans.
Yn y cyfweliad hwnnw fe wadodd ei fod wedi fflyrtio â'r achwynwr.
"Mae'n rhywbeth hen ffasiwn - rwy'n 82 oed, ac mae pobl o fy oedran i yn fwy parod i sgwrsio," dywedodd ar y pryd. "Mae'n rhywbeth Cymreig."
Pan ofynnwyd iddo am y posibilrwydd ei fod wedi gadael marc ar ben-ôl y fenyw, atebodd: "Nonsens llwyr yw hynny."
Mae'r achos yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2025
