Dynes ifanc wedi marw o ataliad ar y galon mewn gŵyl ym Môn - cwest

Cafodd Lucy Ellen Halpin ei geni a'i magu ym Mangor, Gwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi'i agor a'i ohirio i farwolaeth dynes ifanc fu farw mewn gŵyl gerddoriaeth ar Ynys Môn.
Bu farw Lucy Ellen Halpin, 18, ar 11 Gorffennaf ar ôl mynd i ŵyl Tonnau ger Llanfaethlu.
Wrth agor y cwest, dywedodd y crwner Kate Robertson fod Ms Halpin wedi dioddef ataliad ar y galon a bod ganddi achos i amau bod achos y farwolaeth yn annaturiol
Cadarnhaodd fod archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ond nad oedd achos y farwolaeth wedi'i chadarnhau.
Canslo'r ŵyl wedi'r digwyddiad
Cafodd Ms Halpin ei geni a'i magu ym Mangor, Gwynedd.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw ystâd Carreglwyd, Llanfaethlu am 01:45 ar y bore Sadwrn yn dilyn adroddiadau o argyfwng meddygol.
Cafodd Ms Halpin ei chludo i'r ysbyty, lle bu farw yn ddiweddarach am 03:18.
Ar y pryd, fe wnaeth trefnwyr gŵyl Tonnau gadarnhau fod yr ŵyl wedi'i chanslo er mwyn galluogi'r awdurdodau i gynnal eu hymholiadau.
Wrth agor a gohirio'r cwest ddydd Mawrth, dywedodd y crwner Ms Robertson ei bod yn estyn ei chydymdeimlad dwysaf â theulu Ms Halpin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf
