Cwpan y Byd 'yn fyd gwahanol' i ddyn camera o Ben Llŷn

- Cyhoeddwyd
Dros y chwech wythnos diwethaf mae'r byd wedi gwylio 48 o dimau pêl-droed yn brwydro yng Nghwpan y Byd yn yr Unol Daleithiau, Canada a Mexico.
Gwylio o bell mae'r rhan fwyaf wedi gwneud ond yno yn Efrog Newydd yng nghanol y cyffro mae'r dyn camera o Ben Llŷn, Sion Ynyr, wedi bod yn gweithio i ITV ers dechrau'r bencampwriaeth ym Mehefin.
Bu'n trafod ei gyfnod yn Efrog Newydd ar Dros Frecwast ar Radio Cymru.

Sion wrth ei waith yn stiwdio ITV
"Dwi wedi bod yn lwcus iawn", dywed Sion.
"Bob dim 'da chi'n gweld o Manhattan ar ITV, dwi wedi bod yn fan'na, yn gweithio yn y stiwdio a neud yn siŵr bod ni'n dod â'r darlledu'n fyw i chi i gael gweld ym Mhrydain."
Dechreuodd y Cwpan y Byd eleni ar 11 Mehefin, gyda'r rownd derfynol yn cael ei chynnal yn y MetLife Stadium, New Jersey, ar 19 Gorffennaf.
"Ges i gynnig gwneud y gemau yn wreiddiol a fuaswn i wedi cael bod mewn tair lleoliad gwahanol", medda Sion.
"Ond achos bod hon yn drydydd Cwpan y Byd i fi wneud i ITV, wnes i benderfynu aros yn Efrog Newydd achos bod o'n gyfnod mor, mor hir a hefyd bod o'n lleoliad arbennig.
"Dwi fath a plentyn bach, mae wedi bod yn anhygoel yma. O'n i'n poeni dipyn bach i ddod draw yma i wneud y job, achos fod gymaint o bethau yn mynd ymlaen yn America. Ond dwi wedi siomi ar yr ochr orau mewn ffordd, achos mae'r lle jyst yn anhygoel."

Y Cerflun Rhyddid yn Efrog Newydd
Mae Sion wedi hen arfer gweithio ar gemau pêl-droed rhyngwladol Cymru, gemau rygbi efo'r rhanbarthau, bocsio, snwcer a bob math o chwaraeon eraill, yn ogystal â rhaglenni cyffredinol sydd ddim i'w wneud â chwaraeon.
"Mae 'na gymaint o bethau yn mynd ymlaen yma a mae jyst yn fyd gwahanol i beth dwi 'di arfer nôl yng Nghymru.
"Dwi'n meddwl bod fi 'di bod i fyny bob un tŵr uchel sy'n bodoli yn Efrog Newydd a dwi 'di gweld y lle o bob cyfeiriad. Basically, ticio bob un bocs sy' bron yn bosib a mwynhau yn y cyfnodau 'dan ni'n cael i ffwrdd."

Mae'r darlledu yng Nghwpan y Byd eleni wedi bod bach yn wahanol, fel esbonia Sion:
"Mae'r Cwpan y Byd yma wedi bod bach yn wahanol i'r arfer achos bod ITV 'di trio neud rhywbeth dipyn bach gwahanol i'r arfer a dod a celebs mewn.
"So mae 'di bod yn brofiad gwahanol ac mi wnaethon ni gyfarfod Gary Lineker, Ant & Dec, Wyclef Jean, Brian Cox, ac wedyn gaethon ni hefyd gwrdd Luke Littler a Luke Humphries.
"Ac yn lwcus iawn ar ôl hwnna gafon ni fynd i watsiad y darts yn Madison Square Gardens hefyd - o'dd hwnna'n brofiad hyfryd iawn i fod yno."

Stiwdio ITV gyda Phont Brooklyn yn y cefndir
Siarad ag Ysgol Nefyn o Efrog Newydd
Mae Sion wedi rhannu y profiadau y mae'n ei gael gyda disgyblion Ysgol Nefyn, ble mae ei ferch, Ela, yn ddisgybl.
"Yn aml iawn yn tyfu i fyny, 'da ni ddim rili'n gwybod sut mae y byd darlledu yn gweithio. Ac o'n i'n meddwl bod o jyst yn neis i fi roi cyfle i blant Ysgol Nefyn i ofyn cwestiynau, a rhoi sneak peek o'r holl gefndir o sut 'dan ni'n gweithio yma i nhw gael gweld.
"Maen nhw'n cael gweld mai dim jest beth sy' o flaen y sgrin sy' 'na, mae yna lot o bobl yn gweithio tu ôl y camera - o'r gwisgoedd i pa gamerau sy'n cael eu defnyddio.
"Mae'n brofiad iddyn nhw cael gweld a dyna oedd yn bwysig i fi, i ddangos iddyn nhw."

Cyflwynwyr ITV yn gwylio'r gemau o'r stiwdio
Chwarae pêl-droed gyda pyndit ITV, Roy Keane
"Bore ddoe gawsom ni gêm, mae o'n rywbeth 'dan ni'n gwneud bob pencampwriaeth. Wnaethon ni neud yn Qatar, wnaethon ni neud yn Berlin. I fod yn onest, mae o'n syreal, yn enwedig pan mae Keane yn dwrdio.
"Mae o'n rhywun dwi 'di tyfu fyny yn gwylio ac yn addoli mewn ffordd. A ti'n meddwl mae jyst yn syreal eich bod chi yna, yn rhedeg rownd y cae.
"Mae'n rhywbeth dwi'n lwcus iawn o gael neud mewn ffordd, a dwi jyst isio cymryd o mewn tra dwi'n gallu."
Pan yr oedd Sion yn gweithio ar Cwpan y Byd yn Qatar roedd y gemau gyda'r cyflwynwyr yn digwydd ar y tywod ar lan môr, ac roedd yn chwarae gyda Gary Neville, Micah Richards a Roy Keane.
Mae 'na stori bod Sion wedi llwyddo i wneud nutmeg ar Keane gan adael y gŵr o Cork yn gandryll yn y tywod, ond sibrydion yw'r rheiny yn dal i fod...

Barod am adref
Gan ei fod wedi bod ffwrdd am gymaint o amser mae Sion yn edrych mlaen at gael dod adref, ac i weld ei wraig a'i ddwy ferch.
"Mae bob un job, os 'da chi ffwrdd am gyfnod, 'da chi yn sicr yn colli adra. 'Sa nunlle fel Cymru.
"Dwi yn sicr yn edrych ymlaen i ddod adra wythnos nesa, a chael bach o normalrwydd... A 'swn i wrth fy modd yn gweld Yr Ariannin yn ennill!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
