Ceblau tanddaearol Gwynedd: 'Neb isio i'w cartref gael ei ddifetha'

Map o'r ceblau tanfor
Disgrifiad o’r llun,

Bydda'r cynllun yn cysylltu prosiectau ynni adnewyddadwy ger arfordir gorllewinol Yr Alban gydag is-orsaf ym Mhentir ger Bangor

GanGareth Wyn Williams
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae cynllun fyddai'n gweld tua 15 milltir o geblau tanddaearol yn cael eu gosod yng Ngwynedd wedi sbarduno pryder ymhlith rhai trigolion lleol.

Mae Cyswllt Gorllewinol 2 yn cael ei weld fel ffordd o symud ynni gwyrdd sy'n cael ei gynhyrchu ger arfordir gorllewinol Yr Alban i rannau eraill o Brydain.

Wrth i'r galw "gynyddu'n sylweddol", byddai'r cyswllt arfaethedig yma yn gallu cludo hyd at 2GW o drydan - digon i drydanu tua dwy filiwn o gartrefi.

Ond mae trigolion sy'n byw yng ngogledd-orllewin Cymru wedi datgan pryder dros elfen o'r cynllun fyddai'n gweld cebl tanddaearol yn cario'r trydan o Fae Caernarfon i is-orsaf ym Mhentir ger Bangor.

Tra fyddai'r cebl yma tua medr o ran lled, byddai'r gwaith i'w osod yn golygu'r angen am goridor adeiladu o hyd at 40 medr tan fod y gwaith wedi'i gwblhau.

Map o'r ceblau danddaearol
Disgrifiad o’r llun,

O dan y cynllun sy'n cael ei ffafrio, byddai'r ceblau yn teithio o dan ddaear am ryw 15 milltir rhwng Aberdesach a'r is-orsaf ym Mhentir ger Bangor

Fel mae'n sefyll, mae'r opsiwn sy'n cael ei ffafrio gan y grid yn golygu y byddai'r cebl yn dod i'r lan ger Aberdesach cyn teithio drwy ardal Pontllyfni ac ymlaen i'r gogledd.

Mae cymal cyntaf ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau yn dod i ben ddydd Mawrth.

Ond mae tirfeddianwyr lleol wedi dweud wrth BBC Cymru bod pryder sylweddol dros effaith y cynlluniau ar eu tir a'u busnesau.

Ifan Evans
Disgrifiad o’r llun,

Ifan Evans ydy'r drydedd genhedlaeth o'i deulu i ffermio Ty'n Rhos yn Llanwnda

Mae fferm Ty'n Rhos yn Llanwnda ger Caernarfon wedi bod yn nheulu Ifan Evans ers bron i 100 mlynedd, ac ef ydy'r drydedd genhedlaeth i ffermio yno.

Yn ogystal â gwartheg biff a godro, erbyn hyn mae'n rhedeg busnes gwersylla hefyd.

Ond gyda'r grid â'u bryd ar ran o'i dir fel lle i osod y ceblau, fel all olygu gwaith tyllu sylweddol dros gyfnod o bum mlynedd.

Yn ôl Mr Evans, byddai'r ceblau yn cael eu gosod yn y cae drws nesa' i le mae'r carafanau a phebyll wedi'u gosod.

'Neb eisiau gwyliau ar building site'

"Mae'r fferm yn fwy 'na fferm, mae o'n gartra'... a does 'na neb isio gweld ei gartref yn cael ei ddifetha," meddai.

"Mae hynny [y ceblau] am achosi twrw, llwch... does neb eisiau dod ar eu gwyliau i building site.

"'Da ni'n boenus iawn ein bod am golli cwsmeriaid, a mae'r busnes wedi cymryd blynyddoedd i godi fyny.

"'Da ni'n meddwl rŵan ein bod wedi sefydlu'n hunain, ond mae'n ddigon hawdd colli pawb tasan ni'n cael enw drwg ein bod ni'n byw mewn lle swnllyd.

"Mae pobl yn dod yma i gael heddwch a gweld y golygfeydd."

Traeth Aberdesach
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r grid yn ffafrio cynllun lle byddai'r ceblau yn dod i'r lan ger Aberdesach

Dydy Mr Evans ddim yn credu 'chwaith y bydd modd adfer y tir yn ôl i sut yr oedd yn arfer bod ar ôl cwblhau'r gwaith.

"Fydd y tir byth yr un peth. Maen nhw'n dweud y medran nhw, ond mi gymrith ddegawdau i gael o 'nôl i'r safon 'da ni wedi'i gael o rŵan.

"Wrth dyllu maen nhw am 'styrbio'r soil structure. Dwi'm yn meddwl fasa'n dod yn ôl yn fy oes i."

'Cynigion cynnar iawn'

Yn ôl y Grid Cenedlaethol, er bod y cynllun dal yn ei ddyddiau cynnar, mae'r cwmni wedi cynnal sawl sesiwn ymgynghori yn y gogledd-orllewin dros yr wythnosau diwethaf.

Dywedodd Dylan Herbert, rheolwr adnoddau allanol y cwmni, bod yr ymateb i'r cynigion wedi bod yn "galonogol iawn" hyd yma.

Dylan Herbert
Disgrifiad o’r llun,

"'Da ni am ddefnyddio'r adborth i helpu ni siapio'r cynllun," meddai Dylan Herbert

"Dros yr wythnosau diwetha' 'da ni wedi cynnal pump ymgynghoriad wyneb-yn-wyneb a dau webinar i ddangos ein cynigion cynnar iawn."

Ychwanegodd: "Fydd y ffosydd eu hunain - lle fydd y ceblau'n mynd - rhwng dwy a hanner i dair metr, ond pan fydd y gwaith yn cael ei gynnal bydd coridor o rhwng 30 i 50 metr tan fydd y gwaith wedi'i wneud.

"'Da ni am ddefnyddio'r adborth i helpu ni siapio'r cynllun cyn mynd 'nôl allan i'r gymuned hefo'n cynllun terfynol."

'Nifer ddim yn gwybod bod hwn yn bodoli'

Ond er bod y ceblau tanddaearol yn arbed y tirlun rhag peilonau anferth, mae dal yn golygu heriau i gymunedau lleol.

O'r tri llwybr sy'n cael eu hystyried, mae'r cynllun sy'n cael ei ffafrio gan y grid yn golygu y bydda'r ceblau yn dod i'r lan yn Aberdesach cyn teithio drwy Bontllyfni ac i fyny i'r gogledd at gyfeiriad Pentir.

Zoe a Rhys Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r cynlluniau presennol yn gweld ceblau tanddaearol yn mynd trwy rai o diroedd gorau Zoe a Rhys Roberts o ardal Pontllyfni

"Os maen nhw'n dewis route B maen nhw am fynd drwy darn mawr iawn o'n fferm ni," meddai Rhys Roberts, sy'n ffermio ym Mhontllyfni.

"Dwi'n siŵr byddan ni'n colli tua 25 o aceri o'r tir gora' sydd rownd y fferm."

Ychwanegodd ei wraig, Zoe: "Fues i rownd y pentra' diwrnod o'r blaen i drio cael barn pobl, ac oedd o'n shocking faint doedd ddim yn gwybod bod hwn yn bodoli a bod o am ddod i'r pentra'.

"Oedd 'na lot yn meddwl na trench bach drwy'r cae mewn mini digger ydi o, ond y munud oeddan nhw'n cael clywed am beth oedd yn dod, roedd pawb yn reit bryderus."

Jane Pritchard
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jane Pritchard hefyd yn poeni am y cynlluniau

Ychwanegodd Jane Pritchard, sydd hefyd yn byw ym mhentref Pontllyfni, bod perygl o "effeithio ar dwristiaeth a swyddi pobl".

"Mae'n rhaid i ni sefyll i fyny fel cymuned a gofyn i bobl ein cefnogi ni, pobl Cymru i gyd i ddweud y gwir, mae o mor bwysig," meddai.

Mae cymal cyntaf yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau yn dod i ben ddydd Mawrth.

Os bydd sêl bendith i'r cynllun terfynol, does dim disgwyl i'r gwaith gychwyn tan 2030.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.