Dynes 18 oed wedi marw ar ôl bod mewn gŵyl ar Ynys Môn

Ystâd CarreglwydFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ŵyl Tonnau yn ystâd Carreglwyd, Llanfaethlu am 01:45 fore Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes 18 oed wedi marw ar ôl bod mewn gŵyl ar Ynys Môn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ŵyl Tonnau yn ystâd Carreglwyd, Llanfaethlu am 01:45 fore Sadwrn wedi adroddiadau o argyfwng meddygol.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod y ddynes ifanc wedi marw yn yr ysbyty er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys.

Ychwanegodd y llu bod y farwolaeth yn cael ei thrin fel un annisgwyl tra bod ymchwiliadau'n parhau, ac mae'r crwner wedi cael gwybod.

Dywedodd trefnwyr gŵyl Tonnau bod yr ŵyl bellach wedi'i ganslo i alluogi'r awdurdodau i gynnal eu hymholiadau.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Iolo Edwards: "Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu ac anwyliaid y ddynes yn ystod y cyfnod anodd hwn."

"Rydym yn annog aelodau o'r cyhoedd i beidio â dyfalu ynghylch amgylchiadau'r farwolaeth, a dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo ein hymholiadau gysylltu â ni."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig