Pobl Dinbych yn cael dweud eu dweud am ddyfodol capel hanesyddol

Y Capel Mawr, Dinbych
GanManon Wiliam
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae pobl leol yn Ninbych yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud am gynlluniau "i roi bywyd newydd" i'r Capel Mawr, adeilad rhestredig Gradd II* sydd wedi dirywio.

Mae arolwg wedi'i lansio i gasglu syniadau am sut y gallai'r capel hanesyddol gael ei ddefnyddio yn y dyfodol, gan gynnwys sut y gellir ei ddiogelu a'i gynnal.

Mae'r adeilad, sydd â lle i tua 1,000 o bobl ac sydd wedi bod yn rhan o fywyd y dref ers dros ddwy ganrif, yn gysylltiedig â ffigurau diwylliannol Cymreig fel Thomas Gee a'r awdur Kate Roberts.

Mae'r arolwg ar agor tan ddydd Llun, 19 Hydref, gyda thaith o'r adeilad hefyd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 17 Hydref.

'Rhoi bywyd newydd i'r adeilad'

Dywedodd y gweinidog, Andras Iago, fod angen "cynllun pendant" ar gyfer dyfodol y capel er mwyn iddo barhau i wasanaethu'r dref, gan fod adeilad mor fawr yn "ddrud i'w gynnal".

"Mae'n adeilad mawr gyda lle i tua 1,000 o bobl i eistedd," meddai wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg ar Radio Cymru.

"Mae'r Capel Mawr yn adnodd cymunedol hynod o bwysig, a dyna pam rydyn ni isio i'r gymuned leol helpu i siapio'i ddyfodol, er mwyn i ni allu rhoi bywyd newydd i'r adeilad.

"Mae'n un o adeiladau pwysicaf Dinbych ac yn un o'r addoldai mwyaf arwyddocaol yng Nghymru.

"Mae wedi bod yn rhan o fywyd crefyddol, cymdeithasol a diwylliannol y dref ers dros ddwy ganrif."

Ychwanegodd fod y capel eisoes wedi cael ei ddefnyddio at amryw o ddibenion cymunedol gan gynnwys banc bwyd, a bod aelodau a swyddogion wedi ceisio dod o hyd i ffyrdd arloesol o ddefnyddio'r adeilad dros y blynyddoedd.

"Mae'r eglwys yn newid - mae aelodaeth, gwasanaethau a faint sy'n dod i wasanaethau'n mynd yn llai, ond hefyd 'da ni yn mentro, 'da ni'n cynnal gweithgareddau arloesol. Felly, mae'n gyfnod o newid."

Y Capel Mawr, Dinbych

Dywedodd fod angen ystyried sut y gellir diogelu'r adeilad ar gyfer y dyfodol, wrth i fywyd yr eglwys a'i haelodaeth newid.

"Mae angen edrych at ddiogelu fo i'r dyfodol er mwyn ein haddoliad ni a hefyd er mwyn y dref.

"Felly nid dechrau rhywbeth newydd ydy hyn, ond adeiladu ar etifeddiaeth ac ysgrifennu pennod newydd yn hanes Dinbych," meddai.

Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan Bwyllgor Llywio gyda chefnogaeth y Gronfa Dreftadaeth Bensaernïol a Chronfa Fferm Wynt Clocaenog, gyda'r ymgynghoriaeth arbenigol CELyn yn arwain y gwaith ymgysylltu â'r gymuned.

Mae'r penseiri Donald Insall Associates hefyd yn edrych ar y dewisiadau ar gyfer yr adeilad, gan gynnwys sut y gellid defnyddio neu addasu'r ystafelloedd, sut y byddai'n cael ei redeg a sut y gellid talu am ei gynnal.

Tu mewn Y Capel MawrFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Tu mewn Y Capel Mawr

Cafodd y Capel Mawr ei adeiladu'n wreiddiol ym 1793 fel capel i'r Methodistiaid Calfinaidd, cyn cael ei ailadeiladu ym 1829 a chael ysgoldy a festri ym 1867.

Mae'r adeilad presennol yn dyddio o 1880 ac mae'n un o ddim ond 13 o gapeli rhestredig Gradd II* sy'n eiddo i Eglwys Bresbyteraidd Cymru, a'r unig un yn Henaduriaeth Dyffryn Clwyd.

Mae hanes y capel yn gysylltiedig â Gwasg Gee, a gyhoeddodd rai o gyhoeddiadau Cymraeg dylanwadol y 19 ganrif, gan gynnwys Y Traethodydd, Y Gwyddoniadur a phapur newydd Baner ac Amserau Cymru.

Roedd Thomas Gee, pregethwr a chyhoeddwr amlwg, yn aelod o'r capel, ac roedd yr awdur Kate Roberts hefyd yn aelod ar ôl iddi brynu Gwasg Gee gyda'i gŵr, Morris T. Williams, yn 1935.

Wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg, dywedodd Angharad Rhys, blaenor yn y capel, fod ei hanes hefyd yn rhan o hanes addysg Gymraeg yn Ninbych, gan fod ysgol Gymraeg y dref wedi agor yn festri'r capel yn1961.

"Mi frwydrodd Dr Kate Roberts yn galed i gael sefydlu ysgol Gymraeg yn Ninbych," gan egluro bod yr ysgol wedi bod yn y festri am dros saith mlynedd.

Ychwanegodd fod yr ysgol Gymraeg newydd wedi'i hadeiladu wedyn oherwydd bod "cymaint o alw" fel nad oedd y festri'n "ddigon mawr i gynnal yr holl ddisgyblion".

"Mae'r holl ddiwylliant Cymraeg a Chymreig yr ardal yn bendant yn gysylltiedig efo'r capel, a phwy sy'n gwbod be' fydda' hanes y dre' ar addysg Gymraeg tasa' nhw ddim wedi brwydro felly yn nechrau'r '60au."

Beth allai ddigwydd nesaf?

Dywedodd Ms Rhys fod gan lawer o bobl na sydd yn aelodau o'r capel gysylltiad ag ef o hyd, ac nad ydynt am ei weld yn peidio â bodoli fel y Capel Mawr.

"Pan 'da chi'n gofyn i bobl y dre', pobl sy' ddim yn aeloda' o'r capel, mae gan gymaint ohonyn nhw ryw gysylltiad â'r capel a dydynnhw ddim isio'i weld o yn peidio bodoli fel y Capel Mawr.

"Ond ar y llaw arall, dy' nhw ddim yn aelodau, dy' nhw ddim yn dod i'r capel, ond maen nhw'n gweld ei werth o fel adeilad, felly mae isio gofyn eu barn nhw mewn ffordd, 'be 'sa chi'n licio'i weld yna?'"

Dywedodd y gallai'r syniadau am ddyfodol yr adeilad amrywio, o'i droi'n dai fforddiadwy i greu neuadd gyngerdd, a'i bod yn bwysig darganfod pa adnoddau sydd eu hangen ar y dref.

Mae'r adeilad eisoes yn gysylltiedig â gardd gymunedol, lle mae llysiau'n cael eu tyfu a'u defnyddio mewn nosweithiau coginio sy'n "dod â phobl at ei gilydd".

"Felly, yn hytrach na jest meddwl be' ma' pobl y capel isio - achos 'da ni'n mynd yn llai ac yn llai - yna be' 'sa'r dre' yn hoffi'i weld yno?" meddai Angharad Rhys.

Y Capel Mawr, Dinbych

Dywedodd Mr Iago fod yr eglwys yn parhau i gynnal gwasanaethau a gweithgareddau elusennol, ond bod angen cynllunio ar gyfer y newidiadau sydd o'u blaen.

"Mae'r Capel Mawr wedi bod yn gwasanaethu pobl y dref ers cenedlaethau.

"Rydyn ni isio clywed beth mae pobl leol isio'i weld, a chlywed eu syniadau am sut y gallai'r adeilad gael ei ddefnyddio, ac yn bwysig, sut y gellir ei warchod a'i ddiogelu."

Mae'r arolwg yn cymryd tua phum munud ac ar gael ar-lein, dolen allanol, gyda chopïau papur ar gael yn y Capel Mawr.

Bydd taith o'r adeilad yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 17 Hydref rhwng 14:00 a 16:00 a bydd yr arolwg yn cau ddydd Llun, 19 Hydref.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Gwahoddiad i lunio dyfodol Capel Mawr Dinbych - hen gapel Thomas Gee a Kate Roberts

Mwy ar rifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg