Cyllideb 2026: Dadlau am gyllid i wasanaethau cyhoeddus Cymru

Y Canghellor John Healey Ffynhonnell y llun, EPA/Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Y Canghellor John Healey yn dal y blwch coch eiconig, cyn cyflwyno ei Gyllideb gyntaf.

GanAlun Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae llywodraethau'r DU a Chymru yn dadlau am gyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn dilyn cyllideb y Canghellor.

Dywedodd gweinidog cyllid Plaid Cymru fod £450m ychwanegol dros dair blynedd i gyllideb £27bn Llywodraeth Cymru yn cyfateb i "doriad mewn termau real".

Dywedodd Elin Jones fod Cymru "mewn sefyllfa waeth na phan safodd y Canghellor ar ei draed", gan ddweud y bydd rhaid "gwneud penderfyniadau anodd".

Ond gwadwyd hynny gan weinidog y Trysorlys o'r blaid Lafur, Torsten Bell, a ddywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn "symiau mawr" o arian ychwanegol y llynedd.

Yn y cyfamser, mae'r Canghellor yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno "taliad ynni aelwyd" o £100 i bobl sy'n talu treth y cyngor.

Dywedodd John Healey y byddai 20 miliwn o aelwydydd sydd mewn bandiau treth gyngor A-D yn Lloegr yn derbyn y taliad, a galwodd ar weinidogion Cymru i wneud yr un peth.

Dywedodd y byddai'r taliad yn cael ei ddyrannu i lywodraethau datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Pe bai Llywodraeth Cymru yn dilyn y llwybr hwn, amcangyfrifir bod rhwng 70% a 75% o aelwydydd yng Nghymru yn perthyn i fandiau treth gyngor A-D.

Fe wnaeth y Canghellor hefyd gyhoeddi gwariant ar brosiectau yng Nghymru.

Cyhoeddodd £30m ar gyfer gorsaf Parcffordd Caerdydd. Fe wnaeth Eluned Morgan, pan yn brif weinidog Cymru, gymeradwyo cynlluniau i adeiladu gorsaf reilffordd newydd yn nwyrain Caerdydd yn Ionawr 2025.

Cyhoeddodd Healey £11m ar gyfer pont Aberafan, sy'n croesi Afon Afan rhwng canolfannau siopa Aberafan a Phort Talbot, a £2.5m ar gyfer ehangu parc gwyddoniaeth M-SParc ger Gaerwen ar Ynys Môn.

Amlinellodd y Canghellor hefyd fuddsoddiad mewn amddiffyn a fydd yn arwain at "ail-ddiwydiannu" mewn sawl lle, gan gynnwys Glasgoed, Sir Fynwy.

Mae'r gwrthbleidiau wedi cyhuddo'r llywodraeth Lafur o ddiffyg uchelgais.

Parcffordd CaerdyddFfynhonnell y llun, Cardiff Parkway Developments
Disgrifiad o’r llun,

Bydd parc busnes a gorsaf gyda phedwar platfform yn cael eu hadeiladu yn Llaneirwg, dwyrain Caerdydd

Dywedodd y Canghellor fod y symudiadau yn y marchnadoedd ariannol – a achoswyd gan bryderon ynghylch dyled a chwyddiant, yma ac mewn mannau eraill – wedi ychwanegu £14bn at gostau benthyca Llywodraeth y DU eleni.

Eisoes, mae Llywodraeth y DU yn gwario £1 o bob £13 y mae'n ei wario ar ad-dalu llog ar ddyled – arian y gellid, fel arall, ei wario ar ysgolion, ffyrdd neu ar ostyngiadau treth.

Er gwaethaf heriau byd-eang, meddai Healey, bydd y Gyllideb yn rhoi cyllid Prydain "yn y du" o fewn tair blynedd.

Beth oedd y cyhoeddiadau eraill?

Ymhlith y cyhoeddiadau eraill:

  • Ymestyn y toriad yn y TAW ar drydan trwy gydol y gaeaf a'r gwanwyn, hyd at fis Gorffennaf. Bydd y cam hwn yn "lleihau'r cap prisiau blynyddol o £50", meddai'r Canghellor. Roedd disgwyl i'r toriad yn y TAW ar filiau trydan – o 5% i ddim – ddod i ben ym mis Mawrth 2027.

  • Estyniad pellach i'r toriad o 5c yn y dreth tanwydd tan fis Gorffennaf nesaf.

  • Cynnydd yn y trothwy ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden, o £12,000 i £18,000.

  • Healey yn cadarnhau na fydd yn bwrw ymlaen â'r toriad i'r swm di-dreth y gall pobl ei roi mewn ISA arian parod – bydd yn parhau ar £20,000 y flwyddyn.

  • Banciau i dalu 3% ychwanegol ar ordal banc, gan ddechrau ym mis Ionawr 2027.

  • Bydd gweithwyr rhwng 18 ac 20 oed yn gweld eu cyflog yn codi 3.9%. Dyna'r un cynnydd ag ar gyfer y rhai sy'n 21 oed a hŷn.

parc gwyddoniaeth M-SParcFfynhonnell y llun, M-SParc
Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddwyd £2.5m ar gyfer ehangu parc gwyddoniaeth M-SParc

Ceisiodd Healey roi sicrwydd i gyn-lowyr mewn perthynas â brwydr dros bensiynau sydd wedi para degawdau.

Mae cyn-weithwyr mewn pyllau glo yn dweud iddynt golli allan ar ôl i weinyddiaeth y Ceidwadwyr gymryd rheolaeth o gynllun pensiwn y glowyr pan breifateiddiwyd British Coal ym 1994 – pryd y caniatawyd i'r llywodraeth gadw hanner unrhyw warged buddsoddi.

Ond yn dilyn pryderon bod y llywodraeth yn bwriadu torri addewid y Blaid Lafur i ddatrys yr anghydfod, dywedodd Healey: "O ran cyn-weithwyr pyllau glo, rwy'n gwarantu bod pob ceiniog o warged y gronfa bensiwn yn mynd i'r glowyr".

"Gwn nad yw'r gwaith wedi'i gwblhau, a byddaf yn parhau i sicrhau trosglwyddiad llawn o gronfa'r gwarantydd".

'Ble mae'r uchelgais?'

Ymatebodd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS, i'r Gyllideb gan ddweud bod y Blaid Lafur "yn ymddangos fel pe bai wedi cyflwyno'r setliad ariannu gwaethaf i Gymru ers blynyddoedd.

"Ar ôl misoedd o addewidion ynglŷn â pherthynas newydd â Chymru a dull newydd gan y Trysorlys, y cwestiwn y bydd llawer yn ei ofyn yw – ble mae'r uchelgais?

"Dewisodd y Canghellor beidio â chyhoeddi faint o arian ychwanegol fyddai Cymru yn ei gael o ganlyniad i'r Gyllideb hon.

"Wedi'i guddio yn y dogfennau mae tua £450m o gyllid ychwanegol dros gyfnod o dair blynedd.

"Mae hynny'n llawer rhy isel i gadw i fyny â chwyddiant, ac mae perygl y bydd yn gorfodi'r math o doriadau gwariant y profodd Cymru yn ystod blynyddoedd gwaethaf toriadau'r Torïaid."

Dywedodd llefarydd Reform yng Nghymru ar gyllid, Cai Parry-Jones AS: "Mae angen cynllun achub economaidd cynhwysfawr ar Gymru, ac roedd y Gyllideb hon ymhell o gyrraedd y nod hwnnw.

"Mae hefyd yn amlwg, er gwaethaf yr hyn y mae Llafur wedi'i ddweud yng Nghymru, nad yw'r blaid yn cefnogi adeiladu ffordd liniaru'r M4.

"Dim ond Reform fydd yn cyflawni dros ein heconomi ac yn cefnogi teuluoedd Cymreig sy'n gweithio'n galed gyda chostau byw."

Dywedodd Darren Millar AS, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd: "Roedd Cyllideb heddiw yn gyfle i ddarparu'r buddsoddiad sydd ei angen ar Gymru, drwy ddull sy'n cefnogi'r Undeb, yn rhoi hwb i'n heconomi, yn gwella ein seilwaith trafnidiaeth ac yn creu swyddi medrus.

"Yn hytrach, mae rhagolygon twf wedi'u gostwng, mae'r ddyled genedlaethol yn parhau i godi ac mae gwariant ar les yn cynyddu; o ganlyniad, mae'r baich ariannol yn disgyn ar y trethdalwyr, tra bod buddsoddiad hanfodol yn cael ei anwybyddu."

'Datganoli dyfnach'

Yn gynharach, yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog, fe wnaeth arweinydd seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts, gyhuddo Andy Burnham o "hyrwyddo" mwy o bwerau i feiri yn Lloegr, tra'n "gwrthod" rhoi'r un "offer economaidd" i Lywodraeth Cymru ag sydd gan yr Alban.

Fe wnaeth hi ei annog ef i barhau i gefnogi datganoli drwy roi i Gymru y "pwerau economaidd sydd eu hangen arnom i ffynnu", pan fydd yn cyfarfod â Phrif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn Glasgow yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Dywedodd Burnham wrthi ei fod yn croesawu ei chefnogaeth i "ddatganoli dyfnach".

Ychwanegodd y byddai'n cynnig "datganoli mwy o rym o ran cymorth cyflogaeth" i Rhun ap Iorwerth – yn debyg i'r cynnig a wnaeth i Brif Weinidog yr Alban, John Swinney.

"Er mwyn i ni allu mabwysiadu dull gwahanol o gefnogi pobl mewn cymunedau i ddychwelyd i'r gwaith, ac i gefnogi'r economi."

"Dyna fan cychwyn; bydd mwy i ddod hefyd, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda hi a'i phlaid ar y mater hwn."

Natera Mounter
Disgrifiad o’r llun,

Mae Natera Mounter, sy'n gofalu am ei mab 18 mis oed, yn dweud nad yw'r cynnydd yn yr isafswm cyflog byw yn ddigon i gadw i fyny â chostau byw cynyddol

Wrth ymateb, dywedodd Natera Mounter, sy'n ofalwr di-dâl i'w mab 18 mis oed, ei bod yn croesawu'r cynnydd yn y cyflog byw cenedlaethol, ond nad oedd yn ddigon i gadw i fyny â chostau cynyddol ynni, tanwydd a bwyd.

"Os edrychwch chi ar bopeth arall sy'n cynyddu - mae prisiau ynni'n codi, mae prisiau tanwydd yn codi, mae prisiau bwyd yn parhau i godi. Dyw e ddim yn ddigon," meddai, gan ychwanegu bod anawsterau ariannol a defnyddio banciau bwyd yn dod yn fwyfwy cyffredin.

Dywedodd Tudor Jones, sy'n berchen ar siop Trefor Jones yn Rhuthun a Chaernarfon, ei fod yn croesawu unrhyw gymorth i fusnesau mewn cyfnod anodd.

"Dydy hi ddim yn hawdd rhedeg busnes y dyddiau hyn," meddai, gan ychwanegu ei bod yn bwysig bod trethi'n haws i fusnesau ymdopi â nhw.

'Yn drychinebus o ddrud'

Dywedodd Cadi Mair Williams, o Bentref Llanrhaeadr yn Ninbych, fod costau byw mor uchel nes bod pob cymorth yn cyfrif, ond nad oedd £100 yn mynd yn bell iawn y dyddiau hyn.

"Mae'n hollbwysig bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i dalu'r biliau yma," meddai.

Dywedodd Nan Lloyd, o Ruthun, fod costau byw a phrisiau trydan a nwy yn rhoi pwysau mawr ar bobl, ond bod pob cymorth bach yn helpu.

"Mae'n anodd ar bawb y dyddiau hyn," meddai, gan "obeithio bydd petha' reit bositif".

Dywedodd Gruff Jones, o Lansannan, fod pob cymorth yn help wrth i gostau gynyddu o fis i fis, a chroesawodd y penderfyniad i gael gwared ar y dreth ar wrtaith, gan ddweud bod pris gwrtaith wedi mynd yn "drychinebus o ddrud" dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.