'Dim ond hollti blew fydd y Gyllideb, mae'n storm berffaith i fusnesau'

Mae John Allport yn dweud bod rhedeg busnes "wedi mynd yn anoddach ac anoddach" dros y blynyddoedd diwethaf wrth i gostau gynyddu
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog busnes o Wynedd yn dweud mai mater o "hollti blew" fydd y Gyllideb ddydd Mercher, gyda busnesau'n wynebu "storm berffaith" dros y blynyddoedd diwethaf.
Fydd y Gyllideb ddydd Mercher yn amlinellu cynlluniau trethi a gwariant Llywodraeth y DU am y flwyddyn i ddod.
Fe allai gael dylanwad sylweddol ar gyllideb Llywodraeth Cymru hefyd os bydd unrhyw doriadau neu gynnydd mewn gwariant yn Lloegr mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru, fel iechyd ac addysg.
Dywedodd John Allport o Gricieth, sy'n rhedeg garej petrol a sawl busnes arall, gan gynnwys siop sglodion, mai dim ond "rhyw fymryn yma ac acw" y mae'n ei ddisgwyl o'r Gyllideb gyda'r llywodraeth yn wynebu "sefyllfa anodd iawn".
Angen i'r Gyllideb fod yn 'foment o wireddu addewidion' - Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd3 awr yn ôl
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Mr Allport bod rhedeg busnes "wedi mynd yn anoddach ac anoddach" dros y blynyddoedd diwethaf wrth i gostau gynyddu.
"Mae'n anodd gweld sut mae rhywun yn mynd i allu helpu pan mae cost tanwydd wedi codi 50c y litr, o leia', ers mis Ionawr," meddai.
"Beth bynnag sydd ar gael heddiw, dydi o ddim am fod yn ddigon i ddatrys y gost ychwanegol y mae hwnnw wedi cael ar fusnesau a phobl yn gyffredinol.
"Mae wedi bod yn storm berffaith ers y rhyfel yn Wcráin mewn gwirionedd gyda chostau cynnyrch, olew, egni - mae o wedi mynd yn anoddach ac anoddach ers hynny i gadw busnes yn broffidiol."
'Mymryn yma ac acw'
Dywedodd Mr Allport mai "hollti blew" fydd y rhan fwyaf o fesurau newydd y Gyllideb ac nad yw'n disgwyl gweld llawer o wahaniaeth.
"'Da ni mewn dipyn o dwll. 'Swn i ddim yn licio rhedeg busnes efo'r ffigyrau sydd genno' ni fel gwlad, mae hynny'n saff," meddai.
"Beth bynnag [sy'n cael ei gyflwyno yn y Gyllideb] 'dio ddim am fod yn fwy na'r costau sydd wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf nadi.
"Rhyw fymryn yma ac acw ydi o mewn gwirionedd. Dwi ddim isio bod yn negyddol ond does nunlle i'r llywodraeth symud yn fy meddwl i pan 'da chi'n edrych ar y benthyciad mae'r wlad 'ma yn gorfod byw efo, y diffyg tyfiant yn yr economi."
'Anoddach rŵan nag erioed'
Dywedodd mai dyma yw'r cyfnod anoddaf iddo wynebu ers cychwyn mewn busnes.
"Does 'na ddim trethi yn cael eu creu fel ddylsa fo fod a be' maen nhw'n 'neud ydi troi at fusnesau i chwilio am fwy, o fowlen sy'n mynd yn llai ac yn llai," meddai.
"Mae'n sefyllfa anodd ofnadwy iddyn nhw ac i ni'n gyffredinol fel pobl mewn busnes dwi'n teimlo bod hi'n anoddach rŵan na ma' hi di bod ers i fi gychwyn mewn busnes - ac mae hynny bron yn 40 mlynedd."
Ychwanegodd: "Fyswn i ddim yn licio dechra' eto. Oedd 'na adeg yn fy mywyd i lle o'n i'n meddwl bod ni ym Mhrydain yn gallu dechrau busnes a chreu dyfodol i'n hunain a'r bobl o'n gwmpas efo lot o gefnogaeth a dwi ddim yn teimlo bod hynna yna ddim mwy.
"I ddechrau eto heddiw fyswn i'n meddwl dwywaith am y peth."

"Mae'n bwysig iawn rhoi gobaith i bobl a rhoi help iddyn nhw gyda'r costau byw," meddai'r Fonesig Nia Griffith
Dywedodd Nia Griffith, AS Llafur dros Lanelli, ei bod yn gobeithio y bydd y Gyllideb yn rhoi help i bobl gyda chostau byw.
"Mae'n bwysig iawn rhoi gobaith i bobl a rhoi help iddyn nhw gyda'r costau byw," meddai, gan ychwanegu ei bod yn bwysig "buddsoddi yn y dyfodol a sicrhau bod y diwydiannau newydd yn dod i Gymru".
O ran Cymru'n benodol, dywedodd: "Rydyn ni am edrych ar y fframwaith ariannol i Gymru, er mwyn sicrhau bod mwy o hyblygrwydd ganddyn nhw i gael benthyg arian."
Pwysleisiodd hefyd yr angen i sicrhau bod buddsoddiad yn cyrraedd cymunedau ledled y wlad.
"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod pobl ar draws Cymru yn cael cyfle i ddweud eu dweud ac yn gweld yr arian yn eu hardaloedd nhw."
'Arian allan o un boced i un arall'
Dywedodd y cynghorydd Ceidwadol o Sir Benfro, Aled Thomas bod y llywodraeth yn "cymryd arian allan o un boced a rhoi fe mewn poced arall".
"Mae'n iawn i ddweud bod chi'n mynd i dorri arian off bill fan hyn a falle gweud £40 y flwyddyn, ond pan chi'n edrych yn erbyn beth mae'r costau wedi mynd lan, mae fe'n cymryd arian allan o un boced a rhoi fe mewn poced arall," meddai.
"Dyw pobl ddim yn mynd i fod yn well off. Mae debt y llywodraeth nawr yn dros £3 triliwn am y tro cynta, mae angen i ni dalu'r debt yna'n ôl dyw hwnna ddim yn arian am ddim."
Cyfeiriodd at ragolygon sy'n awgrymu y gallai chwyddiant bwyd godi'n sylweddol dros y misoedd nesaf.
"Mae pobl yn mynd i fod yn talu lot mwy am bethau allan o'u poced dros y 12 mis nesa, felly beth bynnag mae Andy Burnham yn mynd i 'weud today... mae'n swnio'n neis ond dyw e ddim yn mynd i helpu pobl.
"Mae angen taclo debt y llywodraeth, 'neud yn siŵr bod gwaith gan bobl i dalu'r biliau yma, achos ma siwt gymaint o bobl yn edrych i fudd-daliadau achos mae'r gwaith yn diflannu."

"Dan ni'n edrych ar sefyllfa lle ma' cost olew am gartrefi wedi mwy na dyblu ers mis Ionawr," meddai Liz Saville Roberts
Dywedodd Liz Saville Roberts, AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, fod angen i'r Gyllideb ystyried y pwysau penodol ar aelwydydd yng nghefn gwlad Cymru wrth i gostau ynni godi.
"Dan ni'n edrych ar sefyllfa lle ma' cost olew am gartrefi wedi mwy na dyblu ers mis Ionawr," meddai, gan ychwanegu bod dros hanner y bobl sy'n byw yn Nwyfor Meirionnydd heb gysylltiad â'r rhwydwaith nwy.
Dywedodd y byddai'n croesawu lleihau'r taliadau sefydlog am nwy, ond pwysleisiodd hefyd fod angen mwy o fuddsoddiad yng Nghymru.
"Yr alwad gynta' ydi bod ni'n cael peth o'r arian, y £14 biliwn sy' di cael ei addo gan y llywodraeth Lafur yma yn San Steffan am ein rheilffyrdd ni," meddai.
"Dan ni'n gofyn am i biliwn o hwnna ddod yn uniongyrchol cyn gynted â phosib, achos mi fysa hwnna'n gwneud gwahaniaeth yn uniongyrchol hefyd."
Galwodd hefyd am i'r Trysorlys drin Cymru yn yr un ffordd â'r Alban o ran pwerau ariannol, gan ddweud: "Ond rŵan mae'n amser iddo fo brofi bod o'n mynd i wneud gwahaniaeth dros Gymru efo'r pwerau sydd yn ei ddwylo fo."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.