'Braint fy mywyd': ASau yn ethol Rhun ap Iorwerth i fod yn Brif Weinidog
Rhun ap Iorwerth yn tyngu llw fel Prif Weinidog Cymru o flaen Barnwr Uchel Lys
- Cyhoeddwyd
Mae Rhun ap Iorwerth wedi'i ethol yn Brif Weinidog Cymru wedi pleidlais yng nghyfarfod cyntaf y Senedd ers yr etholiad, ddydd Iau 7 Mai.
Cafodd ei ethol wedi i Blaid Cymru sicrhau y mwyafrif o'r seddi gan ddod â chanrif o lwyddiant etholiadol Llafur yng Nghymru i ben gan gynnwys 27 mlynedd wrth y llyw yng Nghaerdydd ers datganoli.
Rhun ap Iorwerth yw seithfed prif weinidog Cymru a'r cyntaf i beidio bod o'r blaid Lafur.
Ef hefyd yw'r prif weinidog cyntaf i gynrychioli etholaeth yn y gogledd, ar ôl cael ei ethol i gynrychioli Bangor Conwy Môn ddydd Iau diwethaf, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Tyngodd lw o flaen Barnwr Uchel Lys ar brynhawn dydd Mawrth.
Fe wnaeth ASau hefyd benderfynu mai Huw Irranca-Davies o Lafur fydd Llywydd y Senedd ac mae Kerry Ferguson o Blaid Cymru wedi'i phenodi yn ddirprwy Lywydd.
Yn ôl rheolau sefydlog y Senedd, os yw'r Llywydd yn aelod o wrthblaid, yna mae rhaid i'r dirprwy Lywydd fod yn aelod o'r llywodraeth.
Araith Rhun ap Iorwerth wedi'r bleidlais ddydd Mawrth
Cafodd tri enw eu henwebu i fod yn brif weinidog, Rhun ap Iorwerth gan Blaid Cymru, Darren Millar gan y Ceidwadwyr, a Dan Thomas gan Reform UK.
Pleidleisiodd yr holl ASau ar lafar a dyma oedd y canlyniad:
Rhun ap Iorwerth - 44
Dan Thomas - 34
Darren Millar - 7
Ymatal - 9

"Dwi'n ysu i ad-dalu'r ymddiriedaeth y mae pobl Cymru wedi ei rhoi ynddon ni," meddai Rhun ap Iorwerth
Wrth annerch y Senedd, dywedodd Rhun ap Iorwerth mai "braint fy mywyd i yw cael fy ethol yn brif weinidog ar y genedl sy'n golygu cymaint i mi".
"Dwi'n dechrau'r daith yn wylaidd, yn ddyledus i gefnogaeth a chariad fy nheulu sydd yma heddiw, a fy mam sydd a'i dylanwad arnaf gymaint ag erioed."
Roedd teulu a ffrindiau Rhun ap Iorwerth yn y galeri ac yn amlwg o dan deimlad wrth ei weld yn cael ei ethol.
"Dwi'n ysu i ad-dalu'r ymddiriedaeth y mae pobl Cymru wedi ei rhoi ynddon ni, ac i wireddu'r newid y mae pobl wedi datgan mor glir y maen nhw am ei weld," meddai.
Fe wnaeth hefyd longyfarch y Llywydd a'r dirprwy Lywydd newydd.
Rhoddodd deyrnged i'r cyn-Brif Weinidog Eluned Morgan hefyd, gan ddweud ei bod wedi "llywio ei llywodraeth gyda brwdfrydedd a balchder bob amser".
Huw Irranca-Davies yn darllen canlyniad y bleidlais ar ethol Prif Weinidog Cymru
"Byddwn yn troi'r genhadaeth honno o garedigrwydd a goddefgarwch yn gefnogaeth i'r rhai sydd ei hangen fwyaf," meddai Rhun ap Iorwerth.
"Mae Cymru yn winllan sydd wedi'i hymddiried i'n gofal, a byddwn yn gofalu amdani.
"Pan fydd tosturi yn cael ei gefnogi gan y dewrder i weithredu, a phan fydd cydnabyddiaeth o'n potensial heddiw yn cwrdd â dyhead ar y cyd i sicrhau yfory gwell, dyna pryd y bydd llais ein cenedl yn canu gryfaf.
"Dyna pryd y gwyddom fod ein dyddiau gorau o'n blaenau."

Huw Irranca-Davies yw Llywydd newydd y Senedd
"Mae rhywbeth newydd wedi ei danio yn enaid Cymru," ychwanegodd.
"Hyder newydd, gobaith newydd. Gorwel ehangach a newydd, na fydd yn cael ei gulhau byth eto.
"O'r foment hanesyddol hon ymlaen, bydd pob person ym mhob rhan o'n cenedl yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn llywodraeth iddyn nhw.
"Fy addewid i bawb yw y byddaf yn arwain heb ragfarn neu ragdybiaeth. Ni fyddaf byth yn cymryd y fraint hon yn ganiataol."
Y cam nesaf i Rhun ap Iorwerth, ar ôl tyngu llw, fydd dewis gweinidogion ac mae disgwyl i hynny ddigwydd ddydd Mercher - ar ei ddiwrnod llawn cyntaf yn y swydd.

Y dirprwy Lywydd newydd yn y Senedd yw Kerry Ferguson sy'n cynrychioli etholaeth Ceredigion Penfro
Mae Huw Irranca-Davies, y cyn-ddirprwy Brif Weinidog, yn olynu Elin Jones fel Llywydd.
Yn ddirprwy iddo fydd Kerry Ferguson sy'n un o ASau newydd Plaid Cymru.
Roedd hi'n arfer bod yn faer ac yn gynghorydd tref yn Aberystwyth - ddydd Iau cafodd ei hethol yn un o dri AS Plaid Cymru i gynrychioli etholaeth Ceredigion Penfro.
Mae hi'n olynu David Rees na wnaeth gael ei ethol y tro hwn.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
