Ateb y Galw: Rhiannon Boyle

Rhiannon BoyleFfynhonnell y llun, Rhiannon Boyle
  • Cyhoeddwyd

Wrth i ail gyfres y ddrama deledu Anfamol ymddangos ar S4C, mae'r dramodydd Rhiannon Boyle yn ateb cwestiynau Cymru Fyw.

Yn ogystal a sioe lwyfan a chyfres Anfamol, mae Rhiannon hefyd wedi ysgrifennu dramau fel Safe from Harm ar gyfer y radio ac wedi sgriptio ar gyfer cyfresi S4C fel Gwaith Cartref, Pobol y Cwm a Stad.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

O'dd Mam yn rhedeg y feithrinfa leol ym Mae Trearddur lle ges i fy magu. Mae gynnai lot o atgofion o'r feithrinfa yna - y tŷ bach twt efo'r ffôn retro, y llefrith mewn cwpan plastig, y bisgedi 'na efo llun buwch arnyn nhw, a chreu hunan-bortread drwy orwedd ar ddarn mawr o bapur a thynnu llinell o gwmpas ein cyrff.

Dwi'n cofio sticio pentwr o wlân brown ar fy mhen fatha cyrls a'r staff wedyn yn sticio'r llunia ar y nenfwd. Amser nap oeddan ni gyd yn gorwedd o dan ein hunan-bortread ni ag edrych arno fo wrth syrthio i gysgu.

Rhiannon a'i mamFfynhonnell y llun, Rhiannon Boyle
Disgrifiad o’r llun,

Rhiannon a'i mam

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Caerdydd. Ag yn fwy sbesiffig - fy ngwely, yn fy stafell, yn fy nhŷ yn Eglwys Newydd.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Probably y noson nes i gyfarfod fy ngŵr James ar y dancefloor yn Clwb yn 2007. Do'dd o'm yn noson amazing o bell ffordd ond heb y noson yna fysa gynnai ddim y bywyd sy' gen i rŵan - fy mhlant Elsi a Magi, fy nghartref, fy ngyrfa.

Mae o'n ddyn busnes llwyddiannus ac mae o 'di gweithio mor galed fel o ni'n gallu gadael fy ngyrfa fel athrawes a dilyn fy mreuddwyd o fod yn awdures. Dwi'n lwcus iawn ac yn teimlo'n hynod o ddiolchgar am hynny.

Rhiannon BoyleFfynhonnell y llun, Rhiannon Boyle
Disgrifiad o’r llun,

Rhiannon a'i theulu

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Creadigol. Ffyni. Gonest.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Mae o mor sad ond dwi'r math o berson sy'n licio chwerthin ar rhechs fy hun. Gwell fyth pan ma' pobol yn mynd yn flin efo fi am wneud.

Dwi'n cofio mynd ar ddêt efo hogyn yn y 90au pan o'n i tua pymtheg oed, ag o'n i'n gwisgo'r bŵts platfform 'ma ges i yn Dolcis Gaer siŵr o fod. Ac wrth gerdded lawr y ffordd efo'r hogyn gorjys 'ma, dyma fi'n troi fy ffêr wrth gerdded a rhechan yn uchel wrth i mi wneud. 'Nes i ddim chwerthin yr adeg hynny. O'n i'n mortified. Ond ma'r stori yna'n gneud i mi chwerthin rŵan pan dwi'n meddwl amdano fo.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Gweler uchod.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Y ffilm Project Hail Mary yn y sinema pan ma' Ryan Gosling yn deud tata wrth y garreg. Sut ma' person yn gallu crio oherwydd ma' nhw'n meddwl fod carreg efo personoliaeth? Ma'n nyts tydi?

Dwi wastad yn crio mewn ffilms. Dwi hyd yn oed yn crio yn gwylio Anfamol yn yr edit, er mai fi sy 'di creu'r peth a dwi'n gwbod bod o ddim yn wir!!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Chwerthin ar rhechs fy hun.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Ma' na gymaint ma'n anodd enwi un sbesiffig ond y llyfr gora dwi di ddarllen yn ddiweddar ydi All Fours, Miranda July. Dynas yn mynd drwy perimenopause. Hard relate.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Grandad Lerpwl fi. Dal methu credu'i fod o wedi marw. Caru fo gymaint a cholli fo'n arw. Fi o'dd ffefryn Grandad. Oeddan ni'n debyg iawn o ran hiwmor a hwyl ac o'dd o wrth ei fodd yn mynd am beint.

Grandad LerpwlFfynhonnell y llun, Rhiannon Boyle
Disgrifiad o’r llun,

Grandad Lerpwl

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Sgynnai ddim cyfrinacha' rili achos ma' bob dim dwi'n 'i deimlo neu yn 'i brofi yn y bywyd 'ma yn ffeindio'i hun i mewn i storis fi - problema iechyd meddwl, iselder ôl genedigol, problem yfed fi, cymryd drygs, cwestiynu rhywioldeb - mae o i gyd mewn yna.

Dwi'm yn cadw lot i fi fy hun achos dwi'n teimlo os 'da ni'n siarad am y petha 'cywilyddus' 'ma sy'n poeni ni, fel arfer ma' 'na rhywun arall yn deud - 'Dwi'n teimlo'n union fel 'na.' So mae o'n helpu dwi'n meddwl i siarad am y cyfrinacha tywyll 'ma achos 'di gwarth a chywilydd methu byw allan yn yr agored.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Byta crisps a dawnsio efo holl deulu a ffrindia fi mewn cae efo afon yn rwla ar ddiwrnod braf o haf.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Y llun yma o fi a Grandad yn dawnsio ar noson priodas ni. 'Nath o ddim gadael y dancefloor ac o'dd o'n dawnsio efo ffrindia fi i gyd fflat out.

Rhiannon BoyleFfynhonnell y llun, Rhiannon Boyle
Disgrifiad o’r llun,

Rhiannon ar ddiwrnod ei phriodas yn mwynhau dawns gyda'i thaid

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Ted Sarandos, CEO Netflix. Fyswn i'n rhoi contract deg mlynadd i Rhiannon Boyle i weithio fel exec a chreu a sgwennu bod math o ddramâu ar gyfer y platfform efo rhyddid creadigol a chyllid diddiwedd.

Sa'n hwyl gweld sut ma'n teimlo i fod yn ddyn pwerus am ddiwrnod a gweld y gwahaniaeth yn sut ti'n cael dy drin a faint o barch ti'n ennyn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb