Afonydd a thraethau Môn yn ysbrydoli Cadair a Choron yr Urdd

Coron Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn gyda Phont y Borth yn y cefndir
- Cyhoeddwyd
Cafodd Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 eu dadorchuddio mewn digwyddiad yn Oriel Môn, Llangefni nos Fawrth.
Siôn Edwards o Lanfaelog, Ynys Môn yw'r saer sy'n gyfrifol am Gadair yr Eisteddfod eleni, a hynny'n seiliedig ar ddyluniad y pensaer Rhiannon Williams.
Y gemydd Myfanwy Jones, sy'n wreiddiol o Lanfairpwll, wnaeth greu'r Goron.
Bydd Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 yn cael ei chynnal ar Gae Sioe Môn rhwng Sadwrn 23 Mai a Gwener 29 Mai.

Cafodd y gadair ei dylunio gan Rhiannon Williams cyn cael ei chreu gan y saer Siôn Edwards
Daeth dau ben ynghyd i greu'r gadair eleni, gan ddechrau gyda dyluniad y pensaer o Gaerwen, Rhiannon Williams.
Roedd ei dyluniad yn seiliedig ar y thema 'afonydd i'r môr', ac yn rhoi sylw i felinau gwynt yr ynys hefyd.
Wedi hynny, y saer coed Siôn Edwards aeth ati i greu'r gadair.
"Pan glywes i beth oedd thema dyluniad Rhiannon ro'n i wedi cyffroi," meddai Siôn, sy'n gyn-athro Dylunio a Thechnoleg sydd bellach yn gweithio fel saer ar ei liwt ei hun.
"Un o'm prif ddiddordebau i ydi pysgota, a dwi hefyd wedi sefydlu Cymdeithas Cadwraeth Cefni rai blynyddoedd yn ôl er mwyn gwella ansawdd yr afonydd yma ym Môn, felly roedd 'afonydd i'r môr' yn sicr wedi tanio brwdfrydedd!"
Pren o hen fad achub Rhosneigr
Eglura Siôn hefyd ei fod yn "benderfynol o ffeindio coed cynaliadwy lleol o ansawdd".
"Yn y diwedd, ar ôl chwilio a chwilio, fe weles i goeden onnen wedi ei melino draw yng Nghwm Cynfal, ger Blaenau Ffestiniog, ac ro'n i'n gwybod y byddai'n berffaith ar gyfer y gadair.
"Mae yna hanes lleol arbennig iawn i bren cymalau'r gadair," esbonia Siôn.
"Mae criw o wirfoddolwyr o Rosneigr wedi cario hen fad achub yn ôl i'r pentref yn ddiweddar i'w harbed rhag cael ei llosgi. Cwch o'r enw Thomas Lingham y 4ydd.
"Fe adawodd y pentref yn 1924, ac mae'n bosib i'r cwch fod yno yn ystod cyrch D-Day ar draethau Normandie.
"Fe ddaeth un o'r criw o wirfoddolwyr â sampl o bren y cwch i mi, i weld a fyddai gen i ddiddordeb ei hatgyweirio a dyma'r pren dwi wedi ei ddefnyddio i wneud lletem, neu wedges y gadair.
"Felly mae rhan fach o hanes rhyfeddol y bad achub o Rosneigr bellach yn rhan o gadair Eisteddfod Môn hefyd."

Cafodd darnau o bren o hen fad achub Rhosneigr eu defnyddio wrth greu'r gadair
Y gemydd Myfanwy Jones sydd wedi dylunio Coron Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026.
Ar ôl cwblhau gradd mewn Dylunio Gemwaith ym Mhrifysgol Central Saint Martin yn Llundain, fe wnaeth hi ddychwelyd i Ynys Môn yn 2022 ar ôl 15 mlynedd.
Dywedodd: "Dwi'n mwynhau bod yn ôl adra, ac mae'n wych cael y cyfle i ddylunio Coron Eisteddfod yr Urdd - dwi erioed wedi dylunio coron o'r blaen."

Dywedodd Myfanwy Jones bod traethau a symbolau Celtaidd Môn "yn themâu cryf yn nyluniad y goron"
Mae Myfanwy yn creu gemwaith yn defnyddio'r dull arbenigol cerfio cwyr ac mae hi wedi dylunio llawer o emwaith ar gyfer ffilm a theledu, yn ogystal â gweithio ar gomisiynau gemwaith cain.
"Cyn dechrau dylunio [y goron] nes i roi poll ar Instagram i holi beth oedd yn dod i feddyliau pobl wrth iddyn nhw feddwl am Ynys Môn, a'r ateb mwyaf poblogaidd oedd y traethau.
"Fe fues i'n gwneud ymchwil i draethau a symbolau Celtaidd yr ynys, felly mae'r rhain i gyd yn themâu cryf yn nyluniad y goron."
Mae'r goron eleni yn cynnwys dwy garreg opal a darnau bach o garreg jâd, gyda defnydd melfed gwyrdd ar y tu mewn sy'n cyfleu lliwiau traethau'r ynys.
"Dwi'n edrych ymlaen at weld ymateb pobl i'r goron, ac at fynd i'r Eisteddfod hefyd," meddai Myfanwy.
"Yn ddiweddar fe wnes i ddod o hyd i fedalau wnes i ennill yn yr Urdd wrth ganu gyda'r côr pan yn yr ysgol. Mi fydd yn braf iawn bod ar y maes yn fy milltir sgwâr, a gweld pwy sy'n ennill y goron."

Mae'r lliwiau ar y goron yn cyfleu lliwiau traethau Ynys Môn
Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydol, Urdd Gobaith Cymru: "Mae Ynys Môn wrth galon Cadair a Choron yr Urdd eleni; mae eu cysylltiad â'r ynys i'w weld a'i deimlo ym mhob manylyn bach, o'r dyluniadau a'r deunyddiau i'r straeon a'r hanes sy'n rhan annatod ohonynt.
"Diolch o galon i'r crefftwyr talentog, y pwyllgorau a'r noddwyr am eu gwaith diflino a'u cefnogaeth hael."
Bydd seremoni'r Cadeirio yn cael ei chynnal ar ddydd Iau'r Eisteddfod a seremoni'r Coroni ar ddydd Gwener yr ŵyl.
Cafodd y gadair ei chreu gyda nawdd gan Gymdeithas Amaethyddol Môn ac mae'r Urdd yn diolch i Eiddo Cyf am eu nawdd ar gyfer y goron.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2025

- Cyhoeddwyd29 Mai 2025

- Cyhoeddwyd28 Ebrill
