'Fel diwrnod cyntaf yn yr ysgol' i rai o wynebau newydd y Senedd

ASau newyddFfynhonnell y llun, BBC/Plaid Cymru/Reform
GanSion Tootill
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Yr wythnos hon bydd Senedd newydd Cymru yn cynnal ei chyfarfod swyddogol cyntaf a phan fydd hynny'n digwydd bydd hanes yn cael ei greu.

Wedi'r etholiad ddydd Iau mae'r nifer fwyaf erioed o aelodau wedi'u hethol i gynrychioli'r cyhoedd yn y Senedd - 96.

Ac o'r 96 hynny mae 67 ohonyn nhw'n aelodau cwbl newydd - record arall.

"Mae'n teimlo fel diwrnod cyntaf ysgol eto", meddai Paul Rock, AS y Blaid Werdd dros etholaeth Caerdydd Ffynnon Taf.

"Mae pob dydd hyd yn hyn wedi dod â phrofiad newydd, o dyngu llw am y tro cyntaf i ddelio gyda'r holl waith papur a dod yn gyfarwydd gyda'r Senedd ei hun."

Llun Paul Rock
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Paul Rock (a welir yma) ac Anthony Slaughter eu hethol ar ran y Blaid Werdd i'r Senedd

Mae Paul Rock yn un o ddau AS newydd o'r Blaid Werdd ar ôl i arweinydd y blaid, Anthony Slaughter, hefyd cael ei ethol.

Dyma'r tro cyntaf i'r blaid ennill sedd yn etholiad Senedd Cymru.

"Dwi mond wedi bod i'r Senedd llond llaw o weithiau o'r blaen, gan amlaf wrth fynd ar daith swyddogol fel rhan o'r cyhoedd, felly bydd yr wythnosau nesaf yn gwbl wahanol."

Yn cynrychioli'r un etholaeth â Paul Rock mae Zaynub Akbar.

Mae cefndir Ms Akbar ym myd chwaraeon - ar un adeg roedd hi'n rhan o dîm gymnasteg GB.

Nawr mae hi'n un o'r 43 aelod o Blaid Cymru yn y Senedd newydd - dyma ei thro cyntaf hi yn cynrychioli etholwyr.

"Fi oedd un o'r cyntaf i dyngu llw ddydd Gwener... profiad arbennig yn ei hun," meddai Ma Zaynub.

"Dwi'n dechrau dod i ddeall pethau'n well ond mae fe'n teimlo fel dechrau blwyddyn 7 eto, gyda fy ffolder llawn gwaith darllen pwysig a fy mag anferth."

Llun ZaynubFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Zaynub Akbar yn rhan o dîm gymnasteg GB cyn troi at wleidyddiaeth fel gyrfa bosib

Ynghyd â'r gwaith papur a dod i arfer gydag adeilad y Senedd, mae gan aelodau gyfrifoldebau eraill.

"Pan chi'n cael ei ethol chi'n troi'n gyflogwr i bob pwrpas achos mae'n rhaid i chi ffurfio tîm sy'n mynd i'ch cefnogi chi," meddai Zaynub Akbar.

"Chi'n gyfrifol am bopeth, o'u cyflog, i'w gwyliau a chyfnodau salwch hefyd, a does dim gen i unrhyw brofiad o hynny mewn gwirionedd.

"Mae hefyd angen dechrau meddwl am le i leoli swyddfeydd. Mae tri ohonom ni o Blaid Cymru yn yr etholaeth felly mae angen i ni gyfarfod a thrafod sut i weithio gyda'n gilydd ar y pethau yma."

Wedi'i magu yng Nghaerdydd, treuliodd Zaynub rannau o'i phlentyndod yn ddigartref.

Ei phrofiadau oedd wedi ei sbarduno hi i fod yn wleidydd a bellach gan ei bod hi'n aelod o'r Senedd mae'n barod am yr her.

"Roedd fy mhlentyndod yn anodd a phrofais i dlodi fel plentyn.

"Dwi'n cofio teimlo nad oedd unrhyw beth o fewn gwleidyddiaeth yn cynrychioli fi a fy mhrofiadau.

"Mae'n teimlo'n swreal iawn cael y cyfle o'r diwedd i siarad dros y bobl hynny sydd ddim yn teimlo eu bod nhw'n cael eu cynrychioli."

Disgrifiad,

Helen Jenner o Reform yn trafod y broses o ddechrau fel aelod newydd o’r Senedd

Mae Helen Jenner yn un o'r 34 aelod o Reform UK sydd wedi eu hethol i'r Senedd.

"O'n i yn y dosbarth yn dysgu chwe wythnos yn ôl, felly ma hwn yn hollol newydd i fi," meddai Helen wrth siarad ar raglen Dros Frecwast.

"Cyn dod i'r Senedd do'n i ddim yn gwybod be' i ddisgwyl ond dwi bendant yn barod i weithio'n galed."

Yn blaid weddol newydd, dyma'r tro cyntaf i Reform UK ennill seddi yn etholiad Senedd Cymru ac felly mae gan Helen, sy'n cynrychioli etholaeth Bangor Conwy Môn, waith i wneud i ddod i adnabod pob un o'i chyd aelodau Reform.

"Mae'n wir fod rhai ohonom ni yn mynd i gyfarfod am y tro cyntaf o fewn Reform ddydd Llun, ond 'da ni wedi bod mewn cyswllt drwy gydol yr ymgyrch i gyd.

"Mae rhai ohonom ni hefyd wedi nabod ein gilydd ers blynyddoedd trwy fod yn y Brexit Party neu UKIP sy'n help, ond mae yn sicr rhai yn hollol newydd i'r sîn.

"Ar ôl i ni gyfarfod fel grŵp dwi'n teimlo bydd gyda ni syniad da iawn o'n cyfeiriad ni a byddwn ni'n barod i fynd."

Disgrifiad,

Anna Brychan, aelod newydd Plaid Cymru dros etholaeth Caerdydd Penarth, yn trafod beth fyddai ymateb ei thad, y diweddar Dr John Davies

Nid Helen Jenner yw'r unig Aelod newydd o'r Senedd gyda chefndir ym myd addysg.

Roedd Anna Brychan o Blaid Cymru yn gyfarwyddydd undeb prifathrawon (NAHT) Cymru cyn troi ei llaw at wleidyddiaeth.

Nawr yn aelod o'r Senedd am y tro cyntaf, mae hi'n ceisio dygymod â'i chyfrifoldeb newydd.

"Does dim byd yn wirioneddol yn paratoi chi ar gyfer y ffaith eich bod chi wedi cael eich ethol," meddai Anna Brychan wrth siarad ar raglen Dros Frecwast.

"Dyw e ddim cweit yr un peth, gwybod bod e'n debygol o ddigwydd, a derbyn y cyfrifoldeb o flaen etholwyr yn fyw ar y teledu.

"Ma' hwnna yn rhywbeth sy'n rhoi ymwybyddiaeth gref i rywun o'r cyfrifoldeb mawr i ni gyd wedi camu iddo fe."

Llun pob un o aelodau'r Senedd Plaid CymruFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Blaid Cymru 43 aelod yn Senedd newydd Cymru

Mae cyfarfod aelodau'r holl bleidiau ar ei hagenda yn ystod yr wythnosau cyntaf.

"Dwi'n credu bod e'n bwysig sylweddoli bod pob un ohonom ni'n dod â phrofiad gwerthfawr i'w gynnig i'r dadleuon polisi a brwdfrydedd wrth gynrychioli ein hetholwyr newydd ni," ychwanegodd Anna Brychan.

"Mae 'dam ni ystod eang o brofiadau gwahanol a bydde nhw'n werthfawr dwi'n credu wrth i ni gynllunio'r wythnosau a misoedd nesaf."

Yn ferch i'r hanesydd, y diweddar John Davies Bwlchllan, mae cofio'r rhai sydd wedi chwarae rhan yn y daith i'w hethol yn bwysig iddi.

"Bydde fe (ei thad John Davies) wedi bod yn rhyfeddol o emosiynol, fel oeddwn i wrth feddwl amdano fe pan o'n i ar risiau'r Senedd.

"Dwi'n meddwl nath Rhun gyfeirio at y peth, sef ein bod ni gyd yn sefyll ar ysgwyddau cewri a dwi'n meddwl ein bod ni yn teimlo'n emosiynol iawn wrth feddwl am y rhai sydd ddim bellach gyda ni.

"Ond, hefyd yn wirioneddol gwerthfawrogi'r rhai sydd wedi bod yn aelodau o Blaid Cymru ers 60 o flynyddoedd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.