Cwmni yswiriant Admiral i dorri tua 500 o swyddi

- Cyhoeddwyd
Mae cwmni yswiriant Admiral wedi cyhoeddi cynlluniau i dorri tua 500 o swyddi i wneud y busnes yn "gynt ac yn fwy effeithlon".
Byddai'r cynigion yn golygu torri tua 5% o weithlu'r cwmni, sydd â'i bencadlys yng Nghaerdydd a safle arall yn Abertawe.
Mae'r cwmni wedi ehangu i sawl gwlad arall hefyd, ond byddai'r newidiadau ond yn cael effaith ar weithlu yswiriant y cwmni yn y Deyrnas Unedig.
"Rydyn ni'n cydnabod y bydd hwn yn amser anodd i staff fydd yn cael eu heffeithio," meddai prif weithredwr Admiral Insurance UK, Alistair Hargreaves.
Mae'r cwmni yn defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI), ond nid defnydd cynyddol o AI sy'n gyfrifol am y toriadau, mae'r BBC ar ddeall.
Yn gynharach eleni dywedodd Admiral bod angen i'r cwmni arbed £100m, ac mae'r newidiadau yn rhan o'r ymdrech honno.
"Nod y newidiadau yma yw ein gwneud ni'n gynt ac yn fwy effeithlon fel ein bod ni'n gallu parhau i ddarparu canlyniadau da i gwsmeriaid," meddai Mr Hargreaves.
Bydd aelodau staff sy'n cael eu heffeithio yn cael cynnig tâl diswyddo "gwell" a chyfleoedd i symud i adrannau eraill ble fo hynny'n bosib.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.