Pentrefwyr yn galw am oedi chwythiadau chwarel wrth boeni am eu diogelwch

Chwarel Craig yr Hesg
Disgrifiad o’r llun,

Rhoddodd Llywodraeth Cymru ganiatâd yn 2022 i'r cwmni sy'n berchen ar chwarel Craig yr Hesg ehangu'r safle a chloddio 10 miliwn tunnell o gerrig

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl sy'n byw ger chwarel yn Rhondda Cynon Taf wedi gofyn am i chwythiadau gael eu hoedi yn sgil pryderon am eu diogelwch.

Mae trigolion Glyn-coch, ger Pontypridd, yn dweud bod eu tai yn siglo a bod plant yn ofni bob tro mae cerrig mawr yn cael eu chwythu yn chwarel Craig yr Hesg.

Fe waethygodd eu pryderon yn ddiweddar ar ôl i chwythiad yn chwarel Ffynnon Taf arwain at lifogydd a orfododd pobl i adael eu cartrefi yng Ngwaelod-y-garth.

Dywedodd perchnogion Craig yr Hesg, Heidelberg Materials UK, eu bod yn parhau i gydymffurfio â rheoliadau.

Selena Young
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl gweld be ddigwyddodd yn Ngwaelod-y-garth, fe ddechreuodd Selena Young boeni am ei theulu sydd yn dal i fyw yng Nglyn-coch

Mae'r Pwyllgor Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd yn chwarel Ffynnon Taf, ger Caerdydd, a achosodd ddifrod i 15 o dai.

Ers cael caniatâd i ehangu maint chwarel Craig yr Hesg a pharhau i gloddio tan 2047, mae pentrefwyr Glyn-coch gerllaw wedi bod yn grac gyda'r penderfyniad.

"Mae'r llwch a gweld ein cartrefi yn ysgwyd pryd mae yna ffrwydradau yn y chwarel yn ofnadwy," meddai Claire Allen sydd wedi byw yn y pentref am 40 o flynyddoedd.

"Mae'r plant yn ofnus, mae pobl wedi sôn bod lluniau wedi cwympo oddi ar eu waliau ac mae'r llwch wir yn effeithio ar bobl sydd â phroblemau gyda'u hysgyfaint fel asthma."

Penderfynnod Selena Young adael ei phentref enedigol oherwydd ei phryderon dros effeithiau'r chwarel ar y gymuned.

"Roeddwn i'n hapus yn byw yn y pentref...ond dros y blynyddoedd diwethaf fe wnaethon ni sylwi bod y chwythiadau yn fwy a'r llwch yn gwaethygu wrth iddyn nhw symud yn agosach i'r pentref.

"Roeddwn i'n pryderu ynglŷn â'r effeithiau ar ein tŷ ac ar ein iechyd, felly bendant dyna'r rheswm pam benderfynon ni i adael," meddai Ms Young.

Yn sgil y dinistr a achoswyd yng Ngwaelod-y-garth fis diwethaf wedi chwythiad yn chwarel Ffynnon Taf, mae nifer o bentrefwyr Glyn-coch yn galw ar y llywodraeth i ymyrryd a rhoi saib ar chwythu mewn chwarelu.

Maen nhw'n gofyn am ohiriad nes bod y Pwyllgor Iechyd a Diogelwch wedi cwblhau eu hymchwiliad i'r hyn ddigwyddodd yn Ffynnon Taf a arweiniodd at lifogydd.

Roedd gwylio'r newyddion a gweld y dinistr yn nhai pobl yng Ngwaelod-y-garth, sydd ond chwe milltir i lawr y ffordd o Glyn-coch yn "drawmatig", meddai Whiles.

Fel un sydd wedi arwain ymgyrch trigolion Glyn-coch yn erbyn ehangu Craig yr Hesg, fe ddywedodd Ms Whiles: "Roedd tai pobl â phump troedfedd o ddŵr ynddyn nhw a hynny oherwydd chwythiad yn y chwarel.

"Dydw i ddim eisiau i ni yma yng Nglyn-coch i fod y nesaf i ddioddef y fath beth."

Dywedodd Heidelberg Materials UK fod proffil daearegol pob chwarel yn wahanol ac felly mae gan Craig yr Hesg broffil gwahanol i chwarel Ffynnon Taf.

"Bwysicach fyth, does dim dŵr o fewn Craig yr Hesg a fyddai'n peryglu diogelwch ein gweithrediadau na chwaith y gymuned.

"Yn ogystal â hynny, roedd y broses gynllunio ar gyfer ehangu maint y safle a lleoliadau'r cloddfeydd wedi dilyn proses o asesiadau manwl a gofalus iawn."

Llythyr SaesnegFfynhonnell y llun, Alex Davies-Jones AS
Disgrifiad o’r llun,

Anfonodd yr Aelod Seneddol dros Bontypridd lythyr i Lywodraeth Cymru yn mynegi "pryderon dilys" y gymuned yng Nglyn-coch

Mewn llythyr i Lywodraeth Cymru, mae'r Aelod Seneddol dros Bontypridd, Alex Davies-Jones, yn codi nifer o "bryderon dilys" pobl Glyn-coch sydd eisiau sicrwydd ynglŷn â diogelwch chwarel Craig yr Hesg.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi derbyn llythyr Davies-Jones ond gan nad ydyn nhw'n gyfrifol am reoliadau iechyd a diogelwch chwarelu, dydyn nhw ddim yn gallu rhoi sylw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.