Tirlithriadau yn ardal Nefyn yn 'bryder mawr' i'r gymuned leol

Mae'r heddlu'n dweud bod yr ardal yn anniogel
- Cyhoeddwyd
Mae yna "bryder mawr" ynglŷn ag effaith tirlithriadau ar hyd arfordir Pen Llŷn, yn ôl cadeirydd Cyngor Tref Nefyn.
Llithrodd y tir yn ardal Lôn Penrallt, Nefyn yr wythnos hon ac mae'r heddlu wedi rhybuddio'r cyhoedd i gadw draw o'r safle.
Ond nid dyma'r digwyddiad cyntaf o'i fath yn yr ardal ac mae yna bryder yn lleol fod tirlithriadau yn digwydd yn amlach.
Dywedodd Mared Llywelyn ei bod yn poeni fod yr arfordir yn "brysur newid" ac y gallai hynny gael effaith ar y gymuned leol.
Rhybudd i bobl gadw draw o dirlithriad 'sylweddol' ym Mhen Llŷn
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2025
Barbeciws a thorheulo ger tirlithriad yn 'wirion bost'
- Cyhoeddwyd20 Mai 2021
Mae Llwybr Arfordir Cymru wedi dweud bod dau dirlithriad wedi digwydd ar y llwybr yn ddiweddar yn sgil tywydd gwlyb, un ger Nefyn ac un wrth Borthdinllaen.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd ddydd Iau fod yr ardal ger Lôn Penrallt yn parhau i fod yn anniogel a bod llwybrau troed gerllaw ar gau i'r cyhoedd ar hyn o bryd.
Daeth rhybudd i bobl gadw draw o'r ardal wedi i drigolion lleol ddweud wrth swyddogion eu bod wedi gweld pobl ifanc yn y lleoliad.

Mae Mared Llywelyn yn poeni bod tirlithriadau yn digwydd yn amlach yn yr ardal y dyddiau hyn
Mewn cyfweliad â BBC Cymru brynhawn Sadwrn, dywedodd cadeirydd Cyngor Tref Nefyn, Mared Llywelyn fod y sefyllfa yn peri gofid.
"'Dan ni wedi gweld dau dirlithriad ar y llethrau yma yn ystod yr wythnos diwethaf, mae o'n peri pryder mawr i ni yn y gymuned," meddai.
"Nid yn unig achos bod o mor beryglus, ond 'dan ni hefyd dal i gofio'r digwyddiad yn 2001 lle gollwyd bywydau yn drist iawn."
Esboniodd fod arian wedi cael ei wario er mwyn diogelu'r llwybr arfordir.
"'Dan ni wedi gwario, yn ddiweddar iawn, £262,000 i ail-wynebu'r llwybr i'w wneud o'n llwybr hygyrch... a rŵan mae'r llwybr wedi cau ac mae darn mawr o'r llwybr wedi disgyn.
"Mae'r tywydd wedi bod mor eithafol o wlyb dros yr wythnosau diwethaf... dwi 'di gweld yr arfordir yma'n newid yn fy oes i dros gyfnod o 30 mlynedd, a man poeni rhywun bod o'n brysur newid."
'Digwydd yn amlach'
Ychwanegodd Ms Llywelyn: "Ma' tirlithriadau yn sicr yn rhywbeth sy'n digwydd yn amlach rŵan.
"Ma' rywun yn meddwl am yr hinsawdd 'dan ni'n fyw ynddo fo a be di'r dyfodol yn hyn i gyd?
"A fydd ein harfordir ni yn edrych yr un fath mewn degawdau i ddod? Dwi'n amau hynny."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn ymwybodol o "dirlithriad sylweddol" ar dir preifat yn ardal Nefyn a bod staff y cyngor wedi bod ar y safle i asesu'r sefyllfa.
"Er nad ydy Llwybr yr Arfordir wedi cael ei effeithio, rydym yn annog aelodau'r cyhoedd i gymryd gofal ychwanegol wrth gerdded ger ymylon clogwyni ac ar hyd yr arfordir, gan fod y tir yn fwy tebygol o lithro yn dilyn cyfnodau hir o law trwm.
"Mae hwn yn dirlithriad gweithredol gyda'r risg o ragor o bridd yn disgyn wrth i ddŵr barhau i lifo lawr yr ochr."
"Fel mesur rhagofalus, mae rhan o'r arfordir, o flaen yr ardal sydd wedi'i heffeithio, wedi cael ei chau i ffwrdd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.