'Pobl ifanc yn ceisio lladd eu hunain tra'n aros am help iechyd meddwl'

- Cyhoeddwyd
Mae angen i ysgolion gael mwy o arian a staff er mwyn darparu mwy o gymorth iechyd meddwl i ddisgyblion, yn ôl rhai o gyfranwyr ifanc rhaglen Hawl i Holi BBC Radio Cymru.
Dywedodd disgybl ysgol uwchradd wrth y rhaglen nos Iau ei bod yn "gw'bod am llawer o bobl" sydd wedi ceisio lladd eu hunain sawl tro ar ôl bod ar restr aros am gyfnod hir.
Yn ôl y Dirprwy Weinidog Delyth Jewell, sy'n gyfrifol am iechyd meddwl, mae pethau'n "gorfod" newid "a fy swydd i bydd sicrhau bod nhw yn newid".
Ychwanegodd y bydd "canllawiau'n dod mas yn fuan" mewn cysylltiad â'r defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion, gan "erfyn ar bobl" i gysylltu â hi "i ddweud lle 'dach chi'n gweld y probleme [a] beth sydd angen newid".
Epilepsi: 'Dwi wedi cael fy ngwrthod ar gyfer 300 swydd mewn blwyddyn'
- Cyhoeddwyd12 awr yn ôl
Pobl ifanc yn fwy tebygol o fwyta tecawê a phrydau parod - arolwg
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Mam plentyn awtistig yn 'angerddol' dros ddangos realiti bywyd
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Dywedodd y disgybl ei bod yn "gw'bod am llawer o bobl sy'n ca'l problemau, sydd ar waiting list am flynyddoedd, sy'n dal yn aros am y cymorth yna a wedi trio tynnu bywyd nhw llawer o weithiau oherwydd nhw ddim yn cael y cymorth yna eto".
Mae hi'n credu bod nifer y bobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl yn "cynyddu" a nifer "y pobl sy'n helpu yn lleihau".
Dywedodd ail ddisgybl ei bod "yn gwybod lle i chwilio am gymorth" ond bod y rhestrau aros "mor fawr" mae perygl i bobl ifanc fod wedi gadael yr ysgol "cyn eu chance i ga'l cymorth yna".
"Mae e angen bod yna i bawb yn yr ysgol," ychwanegodd.
Cytunodd bod angen mwy o arian i ddarparu staff mewn ysgolion i roi cymorth iechyd meddwl, gan ddweud bod straen sefyll arholiadau ar ben trafferthion iechyd meddwl "ddim yn mix da".
Ei phryder hithau yw y bydd y cyfuniad o'r ddau beth, yn niffyg help amserol, yn "achosi mwy o hunanladdiad" ymhlith pobl ifanc.
Dywedodd trydydd disgybl: "Yn aml mewn ysgolion, mae pobl yn edrych lawr ar plentyn sydd yn stryglo gyda iechyd meddwl, yn enwedig yn ysgol gynradd, a maen nhw'n labelu fe fel 'does dim ots, bod nhw'n gallu tyfu mas o fe'.
"Mae 'na wir broblem... mae ein ysgol ni yn 'neud y gore gallen nhw, i fod yn onest.
"Maen nhw'n rhoi'r pethe mas ond mae'r list yna yn cynyddu a mae'n fwy a mwy anodd i ffeindio'r help 'na."
Awgrymodd disgybl arall: "Fydde fe'n dda i fuddsoddi mwy o arian mewn i ysgolion achos dyma ble mae problemau'n dechrau.
"Os ydy plant ddim yn cael cymorth bydd hynny'n parhau mewn i pryd maen nhw'n oedolion."
'Ni wedi bod yn aros ers deugain mlynedd i weld ryw fath o welliant'
Roedd y disgyblion yn rhannu eu barn yn dilyn cwestiwn i'r panel gan y Dr Elin Jones - llywydd oes yr elusen iechyd meddwl a chamddefnydd sylweddau, Adferiad, sydd wedi ymwneud â'r maes "ers colli'r gŵr i hunanladdiad yn 1994".
Gofynnodd a oes bwriad gan y llywodraeth Plaid Cymru newydd ym Mae Caerdydd i "ddelio â'r rhestrau aros ofnadw 'ma sydd yng Nghymru trwy integreiddio gofal cymdeithasol a'r gwasanaeth iechyd" - rhywbeth y mae'r elusen wedi galw amdano "ers sbel".
Honnodd bod yr elusen wedi "cael eu rhwystro gan agwedde biwrocratig o fewn y llywodraeth a'r gwasanaeth sifil", a bod "gormod o arian wedi mynd dros y ffin i Loegr i dalu am ofal preifal mewn ysbytai meddwl preifat".
Dywedodd bod Adferiad ar fin agor dau ysbyty newydd yn Llandudno ac yn Abertawe "ond mae'r holl oedi ac aros yn syrffedu dyn".
"Ni wedi bod yn aros ers deugain mlynedd i weld ryw fath o welliant," meddai.
"Ni'n gweld well dealltwriaeth, gwell cydnabyddiaeth o brobleme afiechyd meddwl - dwi ddim yn gweld symud ymlaen i wella'r rhestrau aros a'r sefyllfa ofnadwy sy'n gwynebu rhai pobl mewn argyfwng - mewn gwir argyfwng."

Bethan Rhys Roberts a'r panel yn Y Fenni nos Iau
Cytunodd Delyth Jewell, y dirprwy weinidog iechyd meddwl newydd, bod angen i bethau newid, mai ei chyfrifoldeb hi yw sicrhau gwelliannau a'i bod yn croesawu cael ei dwyn i gyfrif.
"Mae gan gormod o bobl straeon fel eich un chi," dywedodd wrth Dr Elin Jones.
Dywedodd bod sawl ward iechyd meddwl "ddim yn ffit i bwrpas" ac "mae'r rhestrau aros mor hir, yn enwedig ar gyfer pobol ifanc".
"Mae'n rhaid i ni roi nid yn unig gobaith - mae'n rhaid i ni wrth gwrs edrych ar y buddsoddiad yn fan hyn."
Gyda maniffesto ymgyrch etholiad Plaid Cymru ond yn cyfeirio at ddiogelu'r cyllid iechyd meddwl yn hytrach na'i gynyddu, dywedodd Ms Jewell: "Mae 'na ring-fence o fewn y llywodraeth ac yn sicr 'dan ni 'di dweud ar y man lleia' byddan ni'n edrych ar sicrhau fod dim byd yn cael ei golli.
"'Dan ni eisiau edrych ar sut mae'r arian yn cael ei fuddsoddi... edrych ar ailgynllunio'r system fel bod e wedi ei wreiddio'n fwy yn gymuned, fod e'n ateb gofynion pobol."
Dywedodd ei bod, ers dod yn AS, wedi clywed gymaint o "straeon ofnadw" gan bobl oedd "wedi cael triniaeth o'dd ddim yn help iddyn nhw ar y pryd".
Atebodd Dr Elin Jones mai dyna pam y mae integreiddio gwasanaethau'n bwysig, sef "gweithio gyda phobl fel unigolion yn eu cymunede nhw - yr ochor gymdeithasol a'r ochor feddygol hefyd."
'Pethe'n wahanol ar gyfer gwahanol ysgolion'
Trodd y drafodaeth at y pwnc llosg diweddar ynghylch defnyddio ffonau symudol mewn ysgolion, a'r cwestiwn a ddylai'r llywodraeth roi canllawiau clir i reolwyr a ddylid eu gwahardd i leihau niwed i les disgyblion.
Dywedodd Delyth Jewell bod "pethe'n wahanol ar gyfer gwahanol ysgolion" a "bydd y canllawiau'n dod mas yn fuan iawn".
Ychwanegodd ei bod "eisiau i bobl godi'r pryderon yma gyda fi o ran iechyd meddwl".
Dywedodd hefyd bod y llywodraeth Plaid Cymru newydd yn bwriadu edrych eto ar strategaeth iechyd meddwl y llywodraeth Lafur flaenorol, er ei bod yn cynnwys sawl peth "o'ddan ni'n cytuno gyda nhw yn fawr" pan yn wrthblaid.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.