Twf enfawr mewn criced merched yng Nghymru yn creu heriau newydd

Mae cyfleusterau cymdeithasol yn rhan o'r ymdrech i gefnogi twf cyflym criced menywod yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae criced menywod a merched yng Nghymru wedi gweld twf sylweddol yn ystod y degawd diwethaf, gyda rhai sy'n arwain y newid yn dweud bod y galw bellach yn fwy na'r cyfleusterau sydd ar gael.
Mae ystadegau Criced Cymru yn dangos bod nifer y timau merched wedi cynyddu o 20 yn 2013 i 108 yn 2025, tra bod nifer y timau menywod wedi tyfu o 11 i 147 yn yr un cyfnod, gyda chriced proffesiynol i fenywod yng Nghymru yn lansio yn y gaeaf.
Yn ôl Chwaraeon Cymru, mae cyfranogiad merched mewn criced wedi cynyddu 307% ers 2013, tra bod cyfranogiad menywod wedi tyfu 1,160%.
Ond mae arweinwyr y gêm yn rhybuddio bod angen mwy o fuddsoddiad i sicrhau bod pob merch a menyw sydd eisiau chwarae yn gallu parhau i wneud hynny.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn buddsoddi drwy Chwaraeon Cymru ac yn edrych ar gyfleusterau chwaraeon ar bob lefel i sicrhau bod digon o leoedd i ateb y galw yn y dyfodol a "chyflawni ein dyhead".

Mae Victoria Jones wedi helpu i sicrhau £6.25 miliwn o fuddsoddiad mewn cyfleusterau criced ledled Cymru
Daw'r ffigurau wrth i Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) ddathlu 53 o fenywod sy'n helpu i drawsnewid y gêm ledled y Deyrnas Unedig, 53 mlynedd ar ôl Cwpan y Byd Menywod cyntaf ym 1973.
Dywedodd Victoria Jones, rheolwr buddsoddi cyfleusterau Criced Cymru ac un o'r 53 a anrhydeddwyd, fod twf y gêm wedi bod mor gyflym fel ei fod wedi creu heriau newydd.
"Mae twf y gêm ymhlith menywod a merched wedi bod yn anhygoel," meddai.
"Rydyn ni bellach yn wynebu'r broblem nad oes digon o lefydd i bawb chwarae oherwydd bod y galw wedi mynd yn uwch na'r cyflenwad, sy'n broblem dda i'w chael ond yn her genedlaethol i ni."
Ers ymuno â Chriced Cymru yn 2023, mae Victoria Jones wedi helpu i sicrhau £6.25 miliwn o fuddsoddiad mewn cyfleusterau criced ledled Cymru.
'Ffenestr siop y gêm'
Dywedodd, fod clybiau criced yn dod yn fwy o ganolfannau cymdeithasol cymunedol nag erioed, gyda buddsoddiad mewn cyfleusterau newydd yn denu mwy o fenywod, teuluoedd a phlant.
"Y cyfleusterau yw ffenestr siop y gêm - mae'r argraff gyntaf yn bwysig, ac rydyn ni wedi gweithio'n galed i greu amgylcheddau croesawgar yma yng Nghymru, fel bod pawb yn teimlo'n rhan o'r clwb."
Wrth i'r galw am griced merched a menywod barhau i gynyddu, pwysleisiodd fod angen cydweithio rhwng y llywodraeth, sefydliadau chwaraeon a chymunedau lleol i sicrhau bod digon o fuddsoddiad a seilwaith ar waith i ateb y galw.

Mae Aimee Rees wedi bod yn helpu i ddatblygu llwybrau i ferched mewn criced ers dros ddau ddegawd
Mae Aimee Rees, pennaeth criced menywod a merched Morgannwg, sydd wedi treulio dros ddau ddegawd yn helpu i adeiladu llwybrau i ferched yng Nghymru, yn cofio cyfnod pan oedd hi ymhlith ychydig iawn o ferched oedd yn chwarae'r gêm.
"Roedd fy nhad yn gorfod gofyn i'r clwb a oedd hi'n iawn i fi chwarae oherwydd mai bechgyn yn unig oedd yn chwarae bryd hynny," meddai.
"Roedd pobl yn dweud, 'mae ganddyn nhw ferch yn chwarae drostyn nhw, fedran nhw ddim bod yn dda'.
"Roedd y rhwystrau'n enfawr o gymharu â heddiw."
'Carreg filltir bwysig'
"Mae criced menywod ar y teledu, mae'r Hundred wedi gwneud gwahaniaeth mawr, ac mae'n gyfnod cyffrous iawn i ferched mewn chwaraeon."
Ychwanegodd fod statws proffesiynol newydd tîm menywod Morgannwg yn dechrau o fis Tachwedd eleni yn "garreg filltir bwysig" ac yn gam hanesyddol i'r gêm yng Nghymru.
"Am flynyddoedd roedd yn rhaid i gricedwyr benywaidd Cymru groesi'r bont i Loegr i chwarae ar y lefel uchaf.
"Nawr mae yng Nghymru - mae hynny'n rhywbeth na fyddwn i erioed wedi meddwl y byddwn yn ei weld."

Sefydlodd Ayesha Rauf y llwybr criced i ferched yn Llandaf, ac mae'n credu bod cynrychiolaeth wedi chwarae rhan allweddol yn y twf
Mae Ayesha Rauf, hyfforddwraig merched a menywod Clwb Criced Llandaf, yn credu bod cynrychiolaeth wedi bod yn allweddol i'r twf.
"Pan oeddwn i'n tyfu i fyny, dim ond dynion oeddwn i'n eu gweld yn chwarae criced," meddai.
"Prin iawn oedd y merched, yn enwedig merched De Asiaidd.
"Mae fy meibion yn chwarae, ond pan gefais fy merch dechreuais feddwl sut fyddai hi'n gallu cymryd rhan a ble oedd y gynrychiolaeth iddi hi, felly penderfynais geisio bod yn rhan o'r newid yna.
"Pan fydd pobl yn gweld rhywun sy'n edrych fel nhw mewn rôl hyfforddi neu ar y cae, mae hynny'n gwneud gwahaniaeth enfawr."
'Cynrychiolaeth yn hollbwysig'
Mae hi hefyd wedi addasu hyfforddiant a dillad chwarae yn Llandaf i ddiwallu anghenion diwylliannol a chrefyddol rhai chwaraewyr.
Dywedodd fod y manteision wedi ymestyn ymhell y tu hwnt i'r gêm ei hun.
"Mae'r menywod wedi gwneud ffrindiau newydd, wedi magu hyder ac wedi dod yn rhan o gymuned newydd drwy griced," meddai.
"Mae cynrychiolaeth yn hollbwysig oherwydd, fel arall, rydyn ni'n datblygu'r teimlad nad ydyn ni'n perthyn," meddai.
"Pan mae'r cynrychiolaeth gywir yna, mae cyfranogiad yn cynyddu'n sylweddol."

Mae Carl Holding yn dweud bod angen mwy o fuddsoddiad i gynnal twf y gêm yng Nghymru
Dywedodd arweinydd menywod a merched Criced Cymru, Carl Holding, fod y corff wedi canolbwyntio ar greu "strwythur tebyg i'r hyn sydd wedi bodoli i fechgyn ers blynyddoedd."
"Mae'r ffaith bod gan Forgannwg dîm menywod ac y gall merched bellach weld llwybr at yrfa broffesiynol wedi agor cymaint o ddrysau."
Yn ôl Chwaraeon Cymru, mae nifer y clybiau sydd â thîm menywod wedi cynyddu o 7% i 57%, tra bod cyfran y clybiau sydd â rhaglen i ferched wedi codi o 6% i 32%.
'Dim digon o gaeau'
Cytunodd Carl Holding gyda Victoria Jones gan ddweud bod y twf wedi bod mor gyflym "nes ein bod ni bellach mewn sefyllfa lle nad oes digon o gaeau i bawb chwarae arnyn nhw," meddai.
Er bod y cynnydd yn amlwg, mae Carl Holding yn pwysleisio bod angen cefnogaeth bellach gan y llywodraeth i sicrhau bod y twf yn gynaliadwy wrth i'r gêm barhau i dyfu.
"Mae'r galw'n uwch na'r cyflenwad ar hyn o bryd, sy'n dangos pa mor gyflym mae'r gêm wedi tyfu i ferched ac i fenywod, ac mae angen mwy o fuddsoddiad a mwy o bobl i helpu i sicrhau bod y twf hwnnw'n gallu parhau."
"Mae criced i bawb, a dyna'r neges rydyn ni eisiau ei gweld ym mhob cymuned yng Nghymru."
Disgwyl y dorf fwyaf erioed wrth i dîm rygbi'r merched groesawu Lloegr
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2025
Ydy hi'n amser i Gymru gael tîm criced cenedlaethol?
- Cyhoeddwyd14 Medi 2023
Galw am gydraddoldeb a thîm pêl-droed dan-23 i ferched Cymru
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Merched yn chwarae 'llawer llai' o chwaraeon na bechgyn
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2025
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi "ymrwymo i ehangu cyfleoedd" i fenywod a merched gymryd rhan mewn chwaraeon a "chael gwared ar rwystrau", gan ddisgrifio hynny fel rhan allweddol o feithrin talent a chryfhau cymunedau.
Ychwanegon nhw eu bod yn buddsoddi drwy Chwaraeon Cymru i gynyddu cyfranogiad a datblygu talent elitaidd, ac yn edrych ar gyfleusterau chwaraeon ar bob lefel i sicrhau bod digon o leoedd i ateb y galw yn y dyfodol a "chyflawni ein dyhead".