Galw am gydraddoldeb a thîm pêl-droed dan-23 i ferched Cymru

- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch newydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu sefydlu tîm dan-23 i ferched Cymru, er mwyn cau'r bwlch "annerbyniol" sy'n bodoli ar hyn o bryd rhwng y timau iau a'r prif dîm.
Mae Cydraddoldeb i'n Menywod a'n Merched yn galw am greu carfan newydd yng Nghymru i'r rheiny sydd wedi gorffen chwarae ar y lefel o dan-19, fel rhan o lwybr datblygu clir i chwaraewyr benywaidd ifanc.
Ar hyn o bryd, does gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ddim tîm dan-23 i ferched, ac mae'r ymgyrch eisiau gweld cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i helpu i'w chreu.
Soraya Kelly, mam gôl-geidwad Aston Villa Soffia Kelly sy'n wreiddiol o'r Barri, sydd wedi dechrau'r ymgyrch, ac fe ddaw yn dilyn deiseb yn gynharach yn 2026 gafodd ei chyflwyno i lywodraeth ddiwethaf Cymru.
Fe nododd pwyllgor deisebau'r Senedd y gwaith sy'n cael ei wneud gan y gymdeithas bêl-droed i hyrwyddo pêl-droed merched a menywod, gan gytuno i basio cais y ddeiseb ymlaen i'r gymdeithas.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda chyrff llywodraethu i ehangu cyfleoedd a chael gwared â rhwystrau".
Mae'r BBC wedi gwneud cais am ymateb gan Gymdeithas Bêl Droed Cymru.
Rhian Wilkinson i arwain tîm pêl-droed merched Cymru tan 2029
- Cyhoeddwyd22 Mai
Cyhoeddi carfan Cymru i orffen grŵp rhagbrofol Cwpan y Byd Merched
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
'Y bennod olaf' i Jess Fishlock wrth baratoi i ymddeol o bêl-droed
- Cyhoeddwyd22 Ebrill
"Mae e bron fel tase fe'n bont i allu cyrraedd y prif dîm," meddai Soraya Kelly.
"Felly os wyt ti'n rhan o'r tîm dan-19 ond ddim yn rhan o'r brif garfan, wel does fawr o gyfle gen ti wedyn y fynd i unman.
"Dyw hwn ddim yn anodd i'w ddeall.
"Rydym ni'n syml, eisiau yr un cyfle i'n merched a beth sy'n cael ei gynnig i'n bechgyn yng Nghymru.
"Y cyfan rydym ni'n galw amdano ydy tîm dan-23 a chyda phopeth sy'n digwydd o fewn pêl-droed merched ar hyn o bryd fe ddylse hyn fod yn digwydd yn barod, heb gwestiwn."
Yn 2024 roedd UEFA - corff llywodraethu pêl-droed Ewropeaidd – wedi rhoi sêl bendith i Gynghrair Ewropeaidd dan-23 ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno, gyda Lloegr yn ennill y gystadleuaeth fwyaf diweddar eleni.
Roedd gan Yr Alban hefyd dîm yn cystadlu'n rownd y grwpiau, gyda Chymru a Gogledd Iwerddon felly'r unig ddwy wlad o'r Deyrnas Unedig oedd heb gynrychiolaeth yno.
'Dim llwybr datblygu chwaraewyr benywaidd'
"Does dim llwybr datblygu chwaraewyr benywaidd yng Nghymru, ond mae yna yn yr Alban, ac yn Lloegr.
"Mae yna lwybr datblygu chwaraewyr i'r bechgyn yma.
"Mae gan wledydd Ewropeaidd hefyd lwybrau datblygu chwaraewyr.
"Pam nad oes 'na lwybr datblygu chwaraewyr benywaidd gyda ni?" gofynnodd Ms Kelly.
Tra bod rhai o chwaraewyr o Gymru fel Soffia Kelly, yn ogystal â'r blaenwyr Mared Griffiths a Phoebe Poole, wedi llwyddo i gamu i fyny i'r prif dîm yn syth o'r tîm dan-19, yn ôl Soraya Kelly mae eraill yn cael eu rhoi dan anfantais ar ôl troi'n 20 oed.

Soraya Kelly, mam gôl-geidwad Aston Villa Soffia Kelly, sydd wedi lansio'r ymgyrch
"Mae Soffia'n lwcus, mae hi'n rhan o'r brif garfan, hefyd Mared.
"Ond does gan nifer o chwaraewyr talentog eraill ddim y cyfle i ddatblygu, does unman ganddyn nhw i fynd.
"Ry'n ni'n colli nifer o chwaraewyr talentog, neu hyd yn oed cyn i ni eu colli maen nhw'n gofyn y cwestiwn 'wel, dwi ond yn gallu chwarae nes fy mod yn 19, felly beth yw'r pwynt?'"
"Dim ond pedwar neu bump (o'r garfan bresennol) fydd yn gymwys i chwarae i'r tîm dan-19, a mae honna'n garfan o 20.
"Y chwaraewyr talentog yma – i ble y gallen nhw fynd? Dyw hyn ddim yn dderbyniol. Wirioneddol ddim.
"Dwi'n deall mai arian sydd wrth wraidd hyn. Dim ond hyn a hyn o arian sydd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.
"Felly mae angen i Lywodraeth Cymru gamu i'r adwy fel bod 'na gydraddoldeb i'n merched, yn ogystal ag i'n bechgyn yng Nghymru."

Ni lwyddodd Shanelle Edwards i ennill cap llawn yn ystod ei gyrfa bêl-droed
Roedd Shanelle Edwards yn chwaraewr addawol gyda thimau dan-17 a dan-19 Cymru ac fe gafodd ei galw i garfan hyfforddi'r prif dîm.
Ond ni lwyddodd i sicrhau'r cap llawn bu'n dyheu amdano, ac erbyn hyn yn 32 oed mae'n gweithio ym maes cyllid eiddo.
Mae Edwards yn teimlo y byddai hi wedi cael mwy o gyfle i wireddu eu breuddwyd petai timau dan-21 a dan-23 yn bodoli.
"Dwi wedi siarad gyda chwaraewyr eraill o'r gorffennol sydd yn cytuno," meddai.
"'Da ni i gyd yn gytûn bod y llwybr yna ddim yn bodoli.
"Mae'r bwlch rhwng bod yn chwaraewr 18 neu 19 oed a chystadlu gyda chwaraewyr ar y lefel uwch - all fod yn 25 oed neu'n hŷn - yn naid fawr yn gorfforol a meddyliol."

"Mae'r chwaraewyr yn datblygu yn gynharach ac yn gyflymach," erbyn hyn meddai Helen Ward
Sgoriodd Helen Ward 44 o goliau mewn 105 o gemau dros Gymru ac mae'n credu y bydd twf pêl-droed merched yng Nghymru yn arwain at gynnydd yn y dalent fydd ar gael i'r timau cenedlaethol.
"Dwi'n teimlo bod 'na fwy o gyfleoedd i ferched chwarae pêl-droed yng Nghymru bellach ac mae'r chwaraewyr yn datblygu yn gynharach ac yn gyflymach," meddai.
"Nid pawb fydd yn gallu neidio o dan-17 a dan-19 i chwarae ar y lefel hŷn.
"Dwi'n teimlo nawr - yn fwy nag erioed - mae 'na wir angen amdano a 'da ni ddim eisiau gweld chwaraewyr yn gadael y gêm."
Mae Ward, sydd bellach yn bennaeth pêl-droed merched gyda chlwb Watford, yn credu bod rhai chwaraewyr yn datblygu yn hwyrach nag eraill.
"Wnes i ddim gwneud fy ymddangosiad cyntaf i'r prif dîm tan o'n i'n 22, a dwi ddim yn gwybod os byddwn i wedi bod yn barod i wneud hynny yn gynt.
"Nid pawb sydd yn mynd i fod yn barod yn 19 oed ar gyfer pêl-droed hŷn."
'Llawer iawn o bobl yn angerddol'
Bwriad Soraya Kelly yw cyhoeddi'r ymgyrch yn swyddogol ym mis Awst eleni, gan obeithio denu cefnogaeth sylweddol.
"Dwi mor hapus bo' gymaint o bobl yn cyd-weld â ni," meddai.
"Fe fyddaf yn cyfarfod â Laura McAllister (is-lywydd pwyllgor gweithredol UEFA a chyn-gapten Cymru) fis nesaf, sy'n wych.
"Mae ganddom ni hefyd gefnogaeth wych gan Kanishka Narayan (AS Llafur Bro Morgannwg).
"Felly mae ganddom ni llawer iawn o bobl sydd yn angerddol am hyn ac yn ceisio helpu i ddatblygu'r llwybr datblygu yma i'n merched."
'Cael gwared â rhwystrau'
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae sicrhau bod gan fenywod a merched y cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon yn hanfodol i adeiladu Cymru hyderus ac uchelgeisiol lle mae talent yn cael ei feithrin ar bob lefel.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda chyrff llywodraethu i ehangu cyfleoedd a chael gwared â rhwystrau.
"Mae gan chwaraeon merched y pŵer i drawsnewid bywydau, cryfhau cymunedau a chodi Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.
"Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn arwain ar lywodraethu a datblygu'r gêm, gan gynnwys trafodaethau parhaus ar gryfhau llwybrau fel tîm menywod Cymru dan-21 neu dan-23.
"Drwy Chwaraeon Cymru, rydym yn buddsoddi yn nyfodol chwaraeon menywod, gan gefnogi cyrff cenedlaethol i gynyddu cyfranogiad, datblygu talent elitaidd ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.