Y ddwy ffrind sy'n gwireddu breuddwyd ym myd cystadlu ceffylau

Esther a Millie y noson cyn y gystadleuaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dwy ffrind ifanc o Ynys Môn wedi profi cryn lwyddiant ym myd cystadlu ceffylau yr haf yma – ond mae'r ddwy yn dweud mai'r cyfeillgarwch rhyngddynt sy' wedi gwneud y profiad mor arbennig.
Bu'r ffrindiau yn cystadlu yn sioe geffylau y Royal International Horse Show gyda Esther Tilbury o Bodffordd yn cipio'r aur yno am yr eildro yn olynol a Millie Camara o Lanfechell yn ail yn yr un gystadleuaeth ac yn cymhwyso ym mhob un o'i thri dosbarth yn ei thymor cyntaf ymysg y merlod nofis.
Bu'r ddwy yn rhannu'r daith arbennig i droi breuddwyd yn realiti ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru.

Esther (ar y chwith) a Millie yn ennill y wobr gyntaf a'r ail wobr yng nghategori Pretty Polly Show Hunter Pony yn y Royal International Horse Show
Mae Millie a Esther wedi teithio ledled y wlad dros y flwyddyn ddiwethaf gan wersylla gyda'i gilydd mewn sioeau ac hefyd paratoi ar gyfer y Royal International gyda'i gilydd.
Meddai Donna, mam Esther, am lwyddiant ei merch yn y sioe: "Mae'n amazing, o'n i'n methu coelio fo – mae cadw'r teitl ac i fod ochr yn ochr efo'i bestie yn y ring yn freuddwyd wedi ei wireddu.
"'Da ni'n hapus iawn, iawn."
Roedd y ddwy ffrind wedi teithio ar hyd a lled y wlad yn ceisio cymhwyso am 'docyn aur' i fynd i'r pencampwriaethau yng Ngorffennaf yn Hickstead ac yn ffodus iawn, llwyddodd y ddwy i gymhwyso i gyrraedd y brif bencampwriaeth gyda'i gilydd gan lwyddo yn y categori Pretty Polly Show Hunter Pony.
Dywedodd Cath, mam Millie, am lwyddiant Millie yn cipio'r ail wobr: "Roedd 'na rhywbeth arbennig iawn am weld y ddwy ffrind sydd wedi cefnogi ei gilydd drwy'r tymor ochr yn ochr yn y ffeinal."

Millie yn arddangos ei cheffyl yn y Royal International Horse Show
Cefnogaeth
Meddai Millie, sy' wedi bod yn marchogaeth ers chwe mlynedd ac yn cystadlu ar y lefel yma ers tair mlynedd gyda'i merlen Newoak Jersy Girl: "Roedd bod wrth ochr Esther yn gwneud i fi deimlo'n braf, fel bod adra mewn sioe leol er ein bod ni mewn cystadleuaeth anferth yn Llundain."
Ac mae Esther yn gytûn, fel mae ei mam Donna yn dweud: "Mae'n beth da, ac yn naturiol iawn i gael cythraul cystadlu, ond mae'n hyd yn oed gwell gallu cystadlu gyda eich ffrind gorau a gweld bod y ddwy ohono chi a'r holl waith caled yn cael ei wobrwyo, 'da ni'n hynod falch o'r ddwy."
Mae Esther yn paratoi i ddechrau yn yr ysgol uwchradd ym mis Medi ac wedi bod yn marchogaeth ers yn fach iawn. Mae ei cheffyl Thisledown Ginger Nut ganddi ers tair mlynedd.
Un peth sy'n amlwg yw fod cefnogaeth teuluol wedi bod yn allweddol i lwyddiant y ddwy, fel mae Cath yn dweud: "Mae'n lot o waith edrych ar ôl y ceffyl bob dydd.
"Mae lot o waith neud y prep a platio ac mae o'n lot o waith i gadw'r ceffyl mewn prime condition. Ac efo'r trefeilio mae'n rili anodd hefyd i gadw'r ceffyl yn show condition achos 'dan ni 'di neud milltiroedd dros y wlad dros y misoedd diwetha."

Esther (ar y chwith) a Millie yn mwynhau ar draeth gyda'u ceffylau
Uchafbwynt
Mae'r Royal International Horse Show yn Sussex yn un o'r mwyaf yn y wlad ac yn uchafbwynt o ran dangos ceffylau gan gynnwys cystadlaethau neidio ceffylau ac arddangos ceffylau a merlod ar y lefel uchaf, fel mae Donna yn dweud:
"Mae o'n championship mawr iawn a dyna be' mae pawb yn trio mynd allan i qualifio i fynd i ddangos yn y Royal International. So mae o'n llwyddiant mawr i jyst qualifio i fynd yno heb sôn am gael result da fel 'dan ni wedi cael."
Ac mae'r gefnogaeth yno i'r merched o'r ochrau gyda Cath yn arbennig yn llafar ei adborth, fel mae'n dweud: "Mae o'n dipyn o job i fod yn onest achos, os yw Millie'n mynd allan a rownd y ring, dw i'n siarad a dw i'n deud, 'Keep going, keep going'.
"Weithiau mae'r stiward yn dweud wrtho fi, "Do you have a ear piece?" A dwi'n dweud, "Na, na, dwi'n basically mynd bob un streid efo Millie a'r ceffyl."

Millie (ar y chwith) gyda Esther mewn sioe ceffylau leol ble cychwynodd cariad y ddwy am arddangos ceffylau
Y cam nesaf
Y gobaith nawr fod y ddwy wedi gwireddu breuddwyd a llwyddo yn y Royal International yw i gyrraedd sioe Horse of the Year ym mis Hydref.
Ac, wrth gwrs, mae'r ddwy yn gobeithio mynd yno gyda'i gilydd fel yr arfer.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd21 Mehefin
