Arestio dyn wedi marwolaeth sydyn menyw, 60, yn Cross Hands

heddlu
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth sydyn menyw 60 oed yn Cross Hands yn Sir Gâr.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw am tua 19:10 nos Wener gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru wedi i ddynes farw mewn tŷ ar Ffordd Llandeilo.

Mae farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ar hyn o bryd.

Mae'r dyn 63 oed a gafodd ei arestio wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bo ymchwiliadau'r heddlu yn parhau.

Mae teulu'r fenyw wedi cael gwybod am ei marwolaeth ac maen nhw'n cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Rebecca Thomas: "Yn gyntaf oll, mae fy meddyliau gyda'r teulu yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Mae swyddogion wedi bod yn yr ardal yn cynnal ymholiadau ac rwy'n deall yn iawn y gallai hyn fod yn achosi pryder yn y gymuned.

"Digwyddiad unigol yw hwn, ac nid oes unrhyw bryder ehangach am ddiogelwch y cyhoedd.

"Bydd y gymuned leol yn parhau i weld mwy o swyddogion yn yr ardal tra bod ein hymchwiliad yn mynd rhagddo.

"Mae cais ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth berthnasol gysylltu â ni."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig