Dyn 18 oed wedi marw ar daith Gwobr Dug Caeredin ym Mhowys

Cafodd yr heddlu eu galw i Afon Gwy yn ardal Y Clas-ar-Wy nos Fawrth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn ifanc 18 oed wedi marw ar ôl mynd i afon tra ar daith Gwobr Dug Caeredin ym Mhowys.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi cael eu galw i Afon Gwy yn ardal Y Clas-ar-Wy ger Y Gelli Gandryll am 18:30 nos Fawrth.
Dywedon nhw eu bod wedi cael gwybod bod y dyn 18 oed wedi mynd i'r dŵr a bod neb yn gallu ei ffeindio.
Yn dilyn ymgyrch gan y gwasanaethau brys, cafodd corff y dyn ei ganfod.
'Deall amgylchiadau'r digwyddiad trasig'
Mae Gwobr Dug Caeredin wedi cadarnhau fod y dyn ifanc yn cymryd rhan mewn un o'u gweithgareddau ar y pryd.
Mae'r wobr yn gymhwyster ar gyfer pobl ifanc 14 i 24 oed, sy'n cynnwys elfennau fel datblygu sgiliau newydd, gwirfoddoli, a chymryd rhan mewn digwyddiadau awyr agored.
"Rydym yn drist iawn i gadarnhau bod person ifanc wedi boddi tra ar daith ym Mhowys," meddai llefarydd.
"Mae ein meddyliau gyda theulu'r person ifanc, ynghyd â phawb a oedd yn cymryd rhan.
"Rydym mewn cysylltiad agos â choleg y person ifanc a'r awdurdodau perthnasol i ddeall amgylchiadau'r digwyddiad trasig yma."