Gyrrwr a laddodd athletwraig Team GB i gael ei alltudio i Rwmania

Bu farw Rebecca Comins, oedd wedi cynrychioli Cymru a Phrydain mewn cystadlaethau triathlon, ar ôl cael ei tharo ar y4 A40 ger pentref Rhaglan yn 2022
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr fan o Rwmania a gafodd ei garcharu am ladd athletwraig Team GB trwy yrru i gefn ei beic wedi colli apêl yn erbyn cael ei alltudio.
Roedd Vasile Barbu, 50 yn cludo dodrefn i yrrwr yn Calais pan darodd feic Rebecca Comins ar yr A40 yn Sir Fynwy ym Mehefin 2022, er bod modd iddo symud i lôn wag y ffordd ddeuol.
Fe wadodd achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ond fe benderfynodd rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd ei fod yn euog.
Mewn gwrandawiad yng Nghasnewydd ddydd Llun, dywedodd y barnwr mewnfudo Ian Boyes: "Mae natur y drosedd yn bwysig.
"Nid damwain mohoni. Nid tipyn o gamfarn mohoni. Cafodd ei chyflawni gan ddefnyddio cerbyd na ddylai fod wedi bod ar y ffordd."
Camgymeriad 'trychinebus' wedi arwain at farwolaeth athletwraig
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2025
Gyrrwr yn euog o ladd pencampwraig treiathlon
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2024
Teyrngedau i 'fam anhygoel' fu farw tra'n seiclo
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2022
Roedd Rebecca Comins, 52, yng nghanol prawf seiclo 10 milltir ar yr A40 ger pentref Rhaglan pan geisiodd Barbu ei phasio.
Dywedodd ei fod wedi ei gweld a'i fod methu esbonio pam y gwnaeth ei tharo, gan ddweud y bydd yn gofyn y cwestiwn hwnnw i'w hun "hyd fy oes".
Datgelodd archwiliad bod nad oedd y fan mewn cyflwr digon da i fod ar y ffordd.
Roedd hefyd wedi ei orlwytho, gan olygu bod angen pellter brecio hirach na'r arfer mewn argyfwng. Roedd hefyd yn amharu ar allu'r gyrrwr i lywio'r olwyn.

Penderfynodd barnwr na fyddai'n "afresymol o lym" i alltudio Vasile Barbu
Symudodd Barbu i Brydain yn 2002 gan weithio fel cogydd yn nhafarn yr Old Pandy cyn mynd ymlaen i brynu'r dafarn.
Fe briododd â menyw o Rwmania, Maria, yn 2004 a chael efeilliaid, sydd bellach yn oedolion.
Apeliodd yn erbyn cael ei anfon i Rwmania gan ddadlau y byddai'n "afresymol o lym" petai'n rhaid iddo a'i deulu symud yn barhaol i Rwmania, ag yntau heb gartref na ffordd i ennill incwm yno.
Mae'n uniaethu'n agos â diwylliant a thraddodiadau Prydain, dywedodd, ac yn ystyried y DU fel ei gartref parhaol.

Mae tystiolaeth wedi dangos y byddai Barbu wedi gallu gweld Rebecca Comins yn seiclo o'i flaen am rai eiliadau cyn iddo ei tharo
Dywedodd ei wraig Maria na fyddai hithau'n symud i Rwmania, ac na fyddai'n gallu ymdopi heb ei gŵr.
Ar 7 Medi, dywedodd y barnwr na fyddai'n "afresymol o lym", yn achos ei blant, i alltudio Barbu gan eu bod yn oedolion a ddim yn dibynnu arno.
Ychwanegodd Ian Boyes: "Mae diddordeb sylweddol y cyhoedd o ran alltudio yn drech nac ystyriaethau preifat a bywyd teuluol yr apeliwr."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.