Heddwas wnaeth ddyrnu dyn wedi defnyddio 'grym afresymol' - gwrandawiad

Cwnstabl Richard Williams
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd PC Williams yn ddieuog o ymosod a thagu bwriadol mewn achos llys yn 2025

  • Cyhoeddwyd

Roedd heddwas - wnaeth ddyrnu dyn oedd yn cael ei amau o drosedd naw gwaith - wedi defnyddio grym afresymol ar sawl achlysur, mae gwrandawiad camymddygiad heddlu wedi clywed.

Mae'r Cwnstabl Richard Williams yn wynebu wyth o honiadau yn ymwneud ag arestio Steven Clark yn 2023, gan gynnwys gafael arno o amgylch ei wddf (headlock), defnydd afresymol o chwistrell i dawelu, a thaflu neu ollwng Mr Clark i gefn fan heddlu.

Clywodd y gwrandawiad ym mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn fod Cwnstabl 2434 Williams yn gwadu camymddwyn.

Cafwyd yn ddieuog o ymosod a thagu bwriadol yn dilyn achos llys wythnos o hyd yng Nghaernarfon yn 2025.

Disgrifiad,

Cafodd fideos o gamerâu corff yr heddlu a rhai o wefannau cymdeithasol eu dangos i'r gwrandawiad

Ym mis Mai 2023, cafodd yr heddlu eu galw i Borthmadog yn dilyn adroddiad am "ffrae ddomestig".

Dywedodd dynes wrth swyddogion fod Mr Clark - oedd yn 34 oed ar y pryd – dan ddylanwad cyffuriau.

Cafodd nifer o glipiau o gamerâu corff yr heddlu eu dangos yn y gwrandawiad, yn ogystal â fideos gan y cyhoedd.

Pan geisiodd yr heddlu arestio Mr Clark, clywodd y gwrandawiad fod pethau wedi "cymryd tro", a bod Mr Clark ar y llawr.

Yr honiad cyntaf yn erbyn PC Williams ydy "ei fod wedi defnyddio gefynnau (handcuffs) i achosi poen i arddwrn Mr Clark," ac ymatebodd Mr Clark trwy "wingo".

Yr ail honiad yw gafael ynddo o amgylch ei wddf neu ei ben (headlock), ac mae honiad bod hynny'n "afresymol".

Clywodd y gwrandawiad fod Mr Clark wedi honni na allai anadlu ac wedi awgrymu mewn cyfweliad yn ddiweddarach ei fod ar fin colli ymwybyddiaeth.

Honiad arall ydy bod PC Williams wedi dyrnu Mr Clark naw gwaith yn ei wyneb neu ei ben, a bod hynny "ddim yn ddefnydd rhesymol o rym".

Clywodd y gwrandawiad eu bod yn "naw ergyd eithaf cyflym," heb unrhyw oedi i feddwl.

Mae pedwar honiad yn ymwneud â defnydd chwistrell i dawelu unigolyn.

Un arall ydy bod Mr Clark wedi cael ei "daflu neu ei ollwng i'r fan", wrth iddo geisio gwrthsefyll.

Honnir bod yr wyth honiad yn "cyfateb i ddefnydd afresymol o rym".

Cafodd y gwrandawiad ei ohirio tan ddydd Mawrth.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.