AS adawodd Reform 'wedi cefnogi aros yn yr UE' ac 'o blaid Cymru annibynnol'

Cafodd Sarah Cooper-Lesadd ei hethol i'r Senedd fis Mai i gynrychioli Pen-y-bont Bro Morgannwg
- Cyhoeddwyd
Mae'r AS a ymunodd â Phlaid Cymru ar ôl gadael Reform wedi datgelu ei bod wedi pleidleisio o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn 2016, ac y byddai'n cefnogi annibyniaeth i Gymru petai refferendwm.
Fe wnaeth grŵp Plaid Cymru yn y Senedd a'i chorff llywodraethol gymeradwyo cais Sarah Cooper-Lesadd ddydd Mawrth.
Roedd hi ymhlith y 34 aelod a gafodd eu hethol i'r Senedd yn enw Reform yn etholiad mis Mai.
O ganlyniad mae Plaid Cymru bellach â 44 aelod yn y siambr ym Mae Caerdydd, ac mae gan Reform - yr wrthblaid fwyaf - 33.
Mewn cyfweliad i bodlediad Walescast y BBC, dywedodd Ms Cooper-Lesadd ei bod wedi cysylltu â Phlaid Cymru yn dilyn "cyfnod o bwyso a mesur".
Dywedodd Reform ddydd Mawrth eu bod wedi bwriadu ei diarddel "cyn gynted ag y gwnaethom ddarganfod bod Sarah Cooper-Lesadd o blaid annibyniaeth i Gymru a chwalu'r Deyrnas Unedig" a bod "croeso i Blaid Cymru ei chael hi".
'Mae'r blaid yn ddi-drefn ac yn chwalu'
"Mae wedi bod yn siwrne i mi ers dod i'r Senedd - mae wedi dod ar ôl cyfnod o feddwl amdano..." dywedodd Ms Cooper-Lesadd am ei phenderfyniad i newid plaid.
"Roedd sawl flashpoint i mi. Un o'r rhai mwyaf oedd araith Joe Martin... ble mae'n gwneud testun sbort o'r siambr yn llwyr.
"Ac nid yn unig hynny, mae'n trafod pethau gyda iaith mor ofnadwy ac anweddus..."
"Roedd yna sawl peth arall. Mae'r blaid yn hollol ddi-drefn, mae'n chwalu, wir."
Ychwanegodd ei bod "yn amlwg wedi bod yn anesmwyth gyda rhywfaint o'r iaith yn y siambr a gyda'r ddadl Cenedl Noddfa.
"Ni wnes i eistedd yn y ddadl honno, o fwriad - roedd hynnyu'n glir i bawb weld."

Dywed Sarah Cooper-Lesadd bod sawl peth ynghylch ei chyn-blaid, Reform, wedi gwneud iddi deimlo'n anesmwyth
Yn gyn-aelod o'r Blaid Geidwadol, cafodd Sarah Cooper-Lesadd ei hethol yn enw Reform yn etholaeth Pen-y-bont Bro Morgannwg ym mis Mai.
A hithau bellach yn AS Plaid Cymru, mae hi wedi bod gyda thair plaid wleidyddol ers 2024.
"Mae pobl gwahanol yn mynd i wleidyddiaeth am resymau gwahanol ac mae angen i bobl ddeall hynny," dywedodd.
"Fy rheswm i oedd cynrycholi pobl sydd wedi gadael gofal yn y ffordd orau bosib.
"Oedd, roedd gan Reform faniffesto, ond fe ddewisodd i flaenoriaethau rhai rhannau ohono dros rai eraill, yn benodol yn ei dymor cyntaf, mewn ffordd mor lem."
'Mae Cymru'n cael cam mewn sawl ffordd'
Yn ysgod y cyfweliad, fe gafodd ei holi am ei barn ynghylch annibyniaeth a rhagor o bwerau i Gymru - dau fater y mae Plaid Cymru'n ymgyrchu yn eu cylch.
"Mae Cymru angen mwy o ddatganoli, mae angen mwy o rymoedd benthyca," meddai, gan grybwyll y cynllun HS2 dadleuol sy'n cael ei ystyried yn gynllun sy'n elwa Cymru a Lloegr, er na fydd modfedd o'r trac newydd yng Nghymru.
"Os yw'r amser yn dod, ddylia pobl Cymru gael cyfle i benderfynu ar eu dyfodol eu hunain. Rwy'n cefnogi gallu pobl i ddewis eu dyfodol eu hunain - dyna yw hunanddewis ac mae Plaid wedi dweud y bydd yn digwydd pan mae'r amser yn iawn.
"Byddwn i'n pleidleisio Ie achos rwy'n wedi gweld yn gynyddol bod Cymru'n cael cam mewn sawl ffordd wahanol, ond dydyn ni ddim yna eto - yn bendant, dydyn ni ddim yna eto.
"Mae'r genedl ar siwrne wleidyddol, ac rydw i ar siwrne wleidyddol hefyd, ac mae angen dod â'r bobl gyda ni."
'Amser San Steffan yn dod i ben' - arweinwyr Cymru, Yr Alban a Gog Iwerddon
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Cafodd yr AS Plaid Cymru newydd ei holi hefyd ynghylch y syniad o'r DU yn dychwelyd i'r UE.
"Dydw i erioed wedi siarad am Brexit, ac i fod yn onest wnes i bleidleisio i aros yn y refferendwm ac mae wedi bod yn eithaf anodd i mi beidio gallu trafod hynny.
"Mae wedi niweidio perthnasau masnachu felly yn bendant rwy'n cefnogi hynny... [yn gyffredinol] dros y 10 mlynedd diwethaf dydyn ni heb allu cael y drafodaeth yna ynghylch yr Undeb Ewropeaidd. Mae hyd yn oed pleidiau fel Llafur wedi cael trafferth ei drafod achos maen nhw'n cael eu mygu.
"Pan ymunais â Reform, ro'n i'n meddwl bod yna rywfaint o elfen o fod yn blaid babell fawr a dyna ro'n i'n ei gredu. Mae wedi datblygu i fod yn gul iawn, tra bod gan Blaid Cymru werthoedd a dyna rydw i'n credu ynddo."
Fel yn achos seneddau eraill y DU, does dim gofyn i aelodau Senedd Cymru wynebu is-etholiad ar ôl newid plaid ar ôl cael eu hethol.
Dywed Sarah Cooper-Lesadd ei bod yn derbyn y bydd etholwyr a gefnogodd Reform yn anesmwyth ond fe fynnodd: "Nid yw fy ngwaith gyda fy etholwyr yn darfod heddiw.
"Wna'i barhau i frwydro drostyn nhw, a sefyll drostyn nhw... a gweithio'n eithriadol o galed."

Brenda Hayes, Lee Robson a Raj Narula - tri o etholwyr Pen-y-bont Bro Morgannwg
Cymysg oedd yr ymateb ar strydoedd Pen-y-bont ar Ogwr o fewn yr etholaeth.
Dywedodd Mandy Baldwin: "Dwi'n meddwl bod hynny'n ddrwg, a bod yn onest. Ddylai hi ddim fod wedi newid plaid."
Aeth un etholwr, oedd am aros yn ddienw, ymhellach gan ddisgrifio Ms Cooper-Lesadd "yn fradwr i'w hachos ac i'r holl bobl a bleidleisiodd drosti".
Ychwanegodd: "Dylai hi ymddiswyddo a mynd eto."
Awgrymodd Brenda Hayes: "Hwyrach ei bod wedi sylweddoli bod yna newidiadau o fewn Reform fel nad ydach chi'n gyffyrddus nawr...
"Os mae hi'n teimlo mor gry' â hynny ac yn gweld mwy o fantais o fynd gyda Plaid, yna da iawn hi, a phob lwc iddi."
Pleidleisiodd Lee Robson dros Blaid Cymru ym mis Mai ond mae bellach yn cefnogi Reform.
"Does gen i ddim problem arbennig gyda phobl yn newid plaid - dyw e ddim yn fy mhoeni," meddai.
"Mae pobl yn newid eu barn a'u safbwyntiau [ac] eu busnes nhw yw hynny.
"Rwy'n pleidleisio dros y person nid y blaid."
Dywedodd Raj Narula: "Dydw i ddim yn meddwl ei fod yn syniad da.
"Ydy hi wedi amlygu rheswm arbennig y gallai gyflawni rhywbeth trwy symud o Reform i Blaid Cymru, ynteu a yw oherwydd ei buddiannau personol ei hun?"
Mae cyfweliad llawn Walescast i'w glywed ar BBC Sounds
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf
