AS Reform Sarah Cooper-Lesadd yn symud i Blaid Cymru

Sarah Cooper-LesaddFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Sarah Cooper-Lesadd ei hethol i'r Senedd fis Mai i gynrychioli Pen-y-bont Bro Morgannwg

  • Cyhoeddwyd

Mae AS Reform Sarah Cooper-Lesadd wedi symud i Blaid Cymru.

Fe wnaeth corff llywodraethol Plaid Cymru gyfarfod brynhawn Mawrth, gan gymeradwyo'r cais.

Dywedodd Sarah Cooper-Lesadd nad yw Reform "o ddifrif ynglŷn â llywodraethu Cymru".

"Mae ganddyn nhw lawer mwy o ddiddordeb mewn creu rhaniadau, gwrthwynebu, a phenawdau gwag sydd ddim yn cynnig atebion."

Dywedodd cadeirydd grŵp Senedd Plaid Cymru, Marc Jones AS bod Cooper-Lesadd "wedi cydnabod ei bod yn anghywir i gredu mai Reform UK oedd y cartref gwleidyddol iawn iddi".

Mae BBC Cymru yn deall y bu hi yn anfodlon â phlaid Nigel Farage ers peth amser, yn ogystal â rhai o'r sylwadau gan rai o'u haelodau.

Mae symudiad Cooper-Lesadd yn gadael Reform gyda 33 sedd yn Senedd Cymru, ac mae gan Blaid Cymru 44 sedd.

'Gwella bywydau pobl'

Dywedodd Cooper-Lesadd: "Cefais fy magu yn y system ofal. Roeddwn i'n sefyll i fod yn Aelod o'r Senedd i fod yn llais i bobl sydd â phrofiad o ofal, sy'n dal i gael eu tangynrychioli'n wael yn ein gwleidyddiaeth.

"Rwyf eisiau gwella bywydau pobl, sefyll i fyny dros bobl sy'n cael eu hanwybyddu a chwblhau'r pethau rwyf yma i wneud.

"Mae fy ymagwedd yn cael ei arwain gan dystiolaeth ac wedi'i wreiddio yn yr hyn sy'n gweithio i'n cymunedau.

"Nid oes gan Reform ddiddordeb yn y gwaith rwyf wedi dod yma i'w wneud. Dydyn nhw ddim o ddifrif ynglŷn â llywodraethu Cymru.

"Mae ganddyn nhw lawer mwy o ddiddordeb mewn creu rhaniadau, gwrthwynebu, a phenawdau gwag sydd ddim yn cynnig atebion.

"Mae awydd gwirioneddol yn y grŵp i'r llywodraeth fethu, a dim diddordeb yn yr hyn y byddai'r methiant hwnnw'n ei olygu i'r bobl rydyn ni'n eu cynrychioli."

'Anghyfforddus gyda Reform'

Dywedodd cadeirydd grŵp Senedd Plaid Cymru, Marc Jones AS: "Nid yw penderfyniad i ganiatáu i aelod groesi'r llawr, yn enwedig o Reform UK, yn cael ei gymryd yn ysgafn.

"Mae hyn yn dilyn cyfnod o fyfyrio, trafod a phroses fewnol briodol yn unol â chyfansoddiad ein plaid.

"Mae wedi bod yn amlwg ers peth amser i lawer ohonom fod Sarah yn cael ei hysgogi'n ddiffuant gan awydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol, yn enwedig i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

"Mae hefyd wedi dod yn amlwg ei bod hi'n anghyfforddus gyda gwleidyddiaeth, rhethreg a gwerthoedd Reform UK.

"Mae hi wedi bod yn onest am ei thaith wleidyddol ac wedi cydnabod ei bod yn anghywir i gredu mai Reform UK oedd y cartref gwleidyddol iawn iddi."

Pwy ydy Sarah Cooper-Lesadd?

Cafodd Ms Cooper-Lesadd ei hethol i'r Senedd fis Mai i gynrychioli Pen-y-bont Bro Morgannwg.

Ers hynny mae'r AS, a gollodd ei mam pan oedd yn dair wythnos oed, wedi ymgyrchu dros "amddiffyniadau cadarn" ar gyfer plant sydd mewn gofal.

Cafodd ei geni yng Nghasnewydd, gan dreulio ei phlentyndod cynnar yn y system gofal cyn cael ei mabwysiadu.

Graddiodd o Brifysgol Caergrawnt.

Yn ôl ei bywgraffiad a gafodd ei ddarparu i'r Senedd, mae'n gyn-was sifil, ac yn "gyn ysgrifennydd preifat i'r Arglwydd Grimstone o Boscobel, Gweinidog Buddsoddi yn yr Adran Busnes a Masnach Ryngwladol".

Mae ganddi "gefndir mewn datblygu polisïau a chefnogaeth weinidogol ar draws llywodraeth ganolog" a "phrofiad mewn cysylltiadau cyhoeddus, a bu'n gweithio fel ymchwilydd a chynghorydd i Lords Spiritual."

Ychwanegodd ei bywgraffiad ei bod "wedi ymrwymo i gynrychioli'r holl etholwyr ar draws Pen-y-bont ar Ogwr a'r Fro gan ganolbwyntio'n benodol ar wella cyfleoedd i'r genhedlaeth nesaf".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.