Y Glôb: Chwilio am weithredwr newydd i ailagor tafarn eiconig

Mae drws metel bellach wedi'i osod ar brif fynedfa Y Glôb
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni yn chwilio am "weithredwr" newydd i redeg tafarn eiconig Y Glôb ym Mangor Uchaf.
Bellach, mae Stonegate Pub Company wedi cymryd meddiant o'r dafarn ar ran perchennog yr adeilad, ac mae rhybudd wedi'i osod ar ddrws y dafarn.
Mae'r Glôb, un o'r tafarndai Cymraeg mwyaf adnabyddus ym Mangor, wedi bod ar gau ers mis Mehefin oherwydd yr hyn a ddisgrifiwyd gan berchnogion y busnes fel "amgylchiadau anodd dros ben".
Wrth i flwyddyn academaidd newydd ac Wythnos y Glas agosáu, mae'r cau wedi peri siom i fyfyrwyr Cymraeg ym Mangor, sy'n dweud bod Y Glôb yn "gymuned, nid jest tafarn" ac yn "ganolbwynt pwysig i fywyd cymdeithasol y gymuned Gymraeg yn y brifysgol".
Dywedodd llefarydd ar ran Stonegate eu bod yn "edrych ymlaen at groesawu'r gweithredwr cywir" ac yn gobeithio "ailagor y dafarn cyn gynted â phosib".
Mae BBC Cymru wedi ceisio cysylltu gyda pherchnogion presennol y busnes am sylw.

Cafodd nodyn ei osod y tu allan i'r Glôb ym mis Mehefin, yn cyhoeddi bod y dafarn yn cau "am gyfnod"
Fe gaeodd Y Glôb ym mis Mehefin gyda'r rheolwyr yn beio "amgylchiadau anodd dros ben".
Mewn neges ar ddrws y dafarn dywedon nhw eu bod yn "gobeithio mai dros dro y bydd hyn", gan ychwanegu y byddai mwy o fanylion yn dilyn.
Yn y dyddiau diwethaf, mae Stonegate Pub Company wedi gosod rhybudd ar ddrws Y Glôb, gan ddweud eu bod wedi cymryd meddiant o'r safle ar ran Social Cellar (Gamma) Ltd, perchennog yr adeilad.
Mae'r rhybudd yn dweud bod y cytundeb oedd yn caniatáu i'r dafarn gael ei rhedeg wedi dod i ben, a bod y safle wedi cael ei ddiogelu.
Mae drws metel bellach wedi'i osod ar brif fynedfa'r dafarn, sy'n golygu nad oes modd i gwsmeriaid fynd i mewn.
'Rhan annatod o'n bywyd ni'
Mae'r sefyllfa'n peri pryder arbennig i aelodau'r Cymric, pwyllgor sy'n trefnu digwyddiadau cymdeithasol yn y brifysgol.
Yn ôl Bethan Bray, mae'r Glôb wedi bod yn "rhan mor annatod o'r ffordd ni'n trefnu pethau a'n bywyd ni fel myfyrwyr Cymraeg ym Mangor".

Mae'r Glôb wedi bod yn fan cyfarfod i'r gymuned Gymraeg ym Mangor ers degawdau
Dywedodd Bethan fod y cau'n arbennig o anodd wrth i flwyddyn academaidd newydd agosáu.
"Yn ystod wythnos y glas, mae rhan fwya' o'n nosweithiau ni'n cychwyn ac yn gorffen yn y Glôb," meddai.
"Mae o wedi bod yn rhan annatod o'r trefnu, ac roedd o'n rhan fawr iawn o'n noson Clwb Cymru ni, sy'n digwydd bob mis.
"Felly mae'n siom fawr, yn enwedig i feddwl am y myfyrwyr newydd sy'n dod i Fangor.
"Maen nhw'n dod yma ac angen rhywle i gwrdd â'i gilydd, gwneud ffrindiau a dod i 'nabod y gymuned Gymraeg, ac mae'r Glôb wedi bod yn lle naturiol i wneud hynny."

Yn ôl aelodau'r Cymric, o'r chwith Bethan, Cai, Dafydd ac Enlli, "mae'r Glôb wastad 'di teimlo mor gartrefol"
Yn ôl Dafydd Osian, aelod arall o'r Cymric, mae'r dafarn yn fwy na lle i fyfyrwyr fynd am ddiod.
"Mae o'n rhan o'n hunaniaeth ni fel myfyrwyr Cymraeg. Mae'r Glôb wastad 'di teimlo mor gartrefol – a dwi'n meddwl mai dyna sy'n ei wneud o mor arbennig.
"Gallet ti gerdded mewn 'na heb adnabod neb, ac mewn dim o dro ti'n teimlo fel bod ti adra. Dyna'r math o le oedd o.
"A dwi'n meddwl mai dyna sy'n mynd i fod yn anoddaf i'r myfyrwyr newydd – bod nhw'n cyrraedd Bangor ac nad oes 'na'r un lle 'na iddyn nhw."
'Diwedd pennod mewn hanes'
Yn ôl Ross Griffiths, llywydd undeb y myfyrwyr Cymraeg, mae'r Glôb yn "lot mwy na jest tafarn – mae o'n rhan o'r gymuned Gymraeg ym Mangor".
"Mae 'na genedlaethau o fyfyrwyr wedi creu atgofion yno, ac mae o wedi bod yn lle i bobl ddod at ei gilydd, cymdeithasu a dathlu drwy gyfrwng y Gymraeg."

Ross (dde) a'i ffrindiau o flaen y dafarn
Mae cau'r dafarn yn arbennig o arwyddocaol eleni, meddai, wrth i UMCB ddathlu 50 mlynedd.
"Mae'r Glôb wedi bod yn rhan annatod o'r hanes 'na dros y degawdau, ac mae'n anodd meddwl am hanes myfyrwyr Cymraeg ym Mangor heb feddwl am y lle.
"Mae'r Glôb wedi bod yno drwy gymaint o genedlaethau o fyfyrwyr, ac felly mae ei gau yn teimlo fel diwedd pennod mewn hanes."
'Cartref ac aelwyd i'r gymuned Gymraeg'
Mae'r cerddor Gwilym Bowen Rhys yn dweud bod y dafarn wedi bod yn "gartref ac yn aelwyd" i'r gymuned Gymraeg ym Mangor ers degawdau.
Ag yntau'n ymweld â'r dafarn ers blynyddoedd i ganu a chymdeithasu, dywedodd bod ganddo "gymaint o atgofion da" o'r lle.

Mae Gwilym Bowen Rhys wedi treulio oriau yn canu yn Y Glôb
"Dwi'n drist dros ben. Dwi 'di bod yn mynd yno ers blynyddoedd i ganu a chymdeithasu, ac mae'r lle 'ma'n meddwl y byd i fi. Mae gen i gymaint o atgofion da.
"Mae o'n gymaint mwy na jest tafarn – mae o'n ganolbwynt i Fangor Uchaf, ac yn lle mor bwysig i'r fyfyrwyr ond hefyd i bobl lleol fel fi!"
"Dwi'n aml yn mynd i'r nosweithia' gwerin ac mae gen i atgofion melys iawn o ganu yno, a phawb yn canu nerth ein penna tan berfeddion nos, neu nes i'r gloch ganu!"
Mae lluniau o'r nosweithiau hynny wedi cael eu tynnu ers dros 25 mlynedd, meddai.
"Da ni'n lwcus iawn bod 'na lunie i ni allu edrych nôl arnyn nhw, achos mae'r atgofion 'na ar gof a chadw wedyn."
"Dwi'm yn meddwl bod pobl yn deall faint o hanes sydd 'di digwydd o fewn y pedair wal 'na.
"Mae'r lle 'ma wedi meddwl cymaint i fi nes i mi fynd ati i sgwennu cân amdano fo. 'Cyn i'r lle 'ma gau' oedd honno, gyda Y Bandana, ac mae hi'n eitha' eironig a chwerwfelys i feddwl amdani hi rŵan."
Tafarn y Glôb: Lluniau chwarter canrif
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2019
Tafarn Gymraeg boblogaidd ym Mangor yn cau ei drysau dros dro
- Cyhoeddwyd22 Mehefin
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.