'Ni yma am reswm': Goroeswyr Aberfan yn gadael gwaddol i'r gymuned

Yn wyth oed, roedd Janett Bickley yn un o'r unig blant yn ei dosbarth i oroesi'r trychineb, ac mae bellach yn trefnu digwyddiadau yn Aberfan er lles y gymuned
- Cyhoeddwyd
Bron i 60 mlynedd ar ôl trychineb Aberfan, mae'r rhai a oroesodd yn dal i fyw gyda'r hyn a ddigwyddodd ar 21 Hydref 1966.
Bu farw 144 o bobl, gan gynnwys 116 o blant, pan lithrodd tomen lo i lawr y mynydd a tharo Ysgol Gynradd Pantglas.
Ond er gwaethaf y trawma sylweddol, mae nifer o'r goroeswyr wedi treulio eu bywydau'n ceisio helpu eraill.
Roedd Janett Bickley yn wyth oed pan ddigwyddodd y trychineb.
Cafodd ei thynnu'n fyw o weddillion yr ysgol, a hi oedd yr unig blentyn o'i stryd i ddychwelyd adref.
"Rydw i wastad wedi bod eisiau gwneud rhywbeth i roi 'nôl i'r gymuned, oherwydd fy mod i wedi goroesi," meddai.

Dosbarth meithrin Janett Bickley (rhes flaen, ail o'r chwith) ddwy flynedd cyn y trychineb yn Aberfan, ble fu farw'r rhan fwyaf o'r plant yn ei dosbarth
Am flynyddoedd lawer, anaml y byddai goroeswyr yn trafod yr hyn ddigwyddodd.
"Roedden ni'n ffodus. 'Fe wnaethoch chi fyw, peidiwch byth â siarad amdano eto'," meddai Janett, gan gofio'r neges a gafodd llawer o blant ar y pryd.
Dim ond pan ddechreuodd cyn-ddisgyblion rannu eu profiadau yn oedolion y daeth rhywfaint o ryddhad.
Cofiodd Janett bod torri'r tawelwch "wedi ein gwella ni mewn ffordd".

Denise Morgan (chwith) gyda'i chwaer fach Annette, wnaeth farw yn y trychineb
I Denise Morgan, cafodd y trychineb effaith ddofn ar ei theulu.
Roedd hi newydd ddechrau yn yr ysgol ramadeg pan laddwyd ei chwaer fach, Annette.
"Pan ddaeth hi'n amser sefyll fy arholiadau lefel-O, fe wnes i fethu bron pob un ohonyn nhw," meddai Denise.
"Roedd y teulu wedi'i drawmateiddio. Roedd fy rhieni wedi'u trawmateiddio."

Llwyddodd Denise Morgan i wireddu breuddwyd i fod yn athrawes, ac fe ddaeth yn bennaeth ysgol gynradd
Er gwaethaf yr anawsterau hynny, gwireddodd ei huchelgais o fod yn athrawes.
Aeth ymlaen i fod yn bennaeth ysgol, ac enillodd MBE am ei gwasanaeth i fyd addysg.
"Ro'n i'n aml yn adrodd fy stori i blant ac yn dweud wrthyn nhw: 'Gallwch chi fod yn unrhyw beth rydych chi eisiau bod'," meddai.
Mae hi'n dal i gofio'r athrawon a gollwyd yn Ysgol Pantglas.
"Fe wnaethon nhw helpu i achub llawer o'r plant sydd yn fyw heddiw."

Ar ôl goroesi'r trychineb, aeth David Davies ymlaen i fod yn gadeirydd yr elusen sy'n gyfrifol am ardd goffa Aberfan
Roedd David Davies hefyd yn ddisgybl yn Ysgol Pantglas y bore hwnnw.
Cafodd ei daro'n anymwybodol ac, am gyfnod, cafodd ei osod ymhlith cyrff y plant fu farw.
"Ges i fy nghario allan a'm rhoi gyda'r cyrff, nes i rywun feddwl eu bod nhw wedi gweld fy nhroed yn symud," meddai.
Ar ôl gwella o'i anafiadau, astudiodd y gyfraith yn Aberystwyth a Chaergrawnt cyn adeiladu gyrfa lwyddiannus gyda chwmni cyfreithiol rhyngwladol Linklaters.
Yn ddiweddarach, trodd ei sylw at wasanaeth cyhoeddus a gwaith i gofio'r rhai fu farw.
Ers 26 mlynedd mae wedi cadeirio elusen goffa Aberfan, sy'n gyfrifol am warchod safleoedd coffa'r pentref.
"Rydw i'n amlwg yn ddiolchgar fy mod wedi goroesi profiad na wnaeth hanner fy nghyd-ddisgyblion ei oroesi," meddai.
"I'w hanrhydedd nhw, ac er cof amdanyn nhw, rydw i wedi fy ysgogi i sicrhau fod y safleoedd coffa yn deilwng."

Jeff Edwards oedd un o'r olaf i'w dynnu'n fyw o weddillion Ysgol Gynradd Pantglas, ac mae wedi canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc a gwella'r cyfleoedd iddyn nhw yn Aberfan
Mae Jeff Edwards yn credu iddo ddeall effaith Aberfan yn well flynyddoedd yn ddiweddarach.
Ar ôl gyrfa ym maes cyfrifeg yn Llundain, dychwelodd i'r ardal yng nghanol y 1990au.
Yno, gwelodd bobl ifanc yn wynebu diweithdra a diffyg cyfleoedd yn sgil dirywiad yr hen ddiwydiannau.
"Rwy'n meddwl mai dyna'r rheswm y des i nôl, mewn gwirionedd," meddai.
"Roedd y bobl ifanc hynny yn sefyll ar y strydoedd heb ddyfodol.
"Roedd ail genhedlaeth yn cael ei cholli i'r gymuned."
Gyda chyllid gan sefydliadau gan gynnwys Plant mewn Angen, helpodd i sefydlu prosiectau oedd yn cefnogi pobl ifanc, rhieni ac addysg.
Yn ddiweddarach daeth yn gynghorydd annibynnol ac yna'n arweinydd Cyngor Merthyr Tudful.
Wrth edrych yn ôl, mae'n credu bod helpu eraill hefyd wedi ei helpu ei hun.
"Drwy helpu nhw, roeddwn i'n helpu fy hun o ran fy mhroses fy hun o wella," meddai.

Bron 60 mlynedd ers y trychineb, mae rhai o'r goroeswyr yn gobeithio gadael gwaddol positif i'r pentref gyda'u gwaith fel oedolion
Mae goroeswyr Aberfan hefyd wedi rhannu eu profiadau gyda chymunedau eraill sydd wedi wynebu trychinebau mawr, gan gynnwys Hillsborough a Grenfell.
Yn y cyfamser, mae Janett Bickley wedi canolbwyntio ar gryfhau bywyd cymunedol yn Aberfan.
Yn ystod y pandemig dechreuodd ymgyrch i osod coeden Nadolig yn y pentref, ac fe dyfodd hynny'n ehangach i gynnwys goleuadau Nadolig a digwyddiadau cymunedol drwy gydol y flwyddyn.
"Cafodd lles y gymuned ei chwalu, ac fe gymerodd hi amser hir i'w hailadeiladu," meddai.
Mae hi'n parhau i gefnogi mentrau lleol ac yn gweithio i sicrhau bod gwaith cymunedol yn parhau yn y dyfodol.
"Yn sydyn iawn mae'r gymuned yn dod at ei gilydd ac rydw i wrth fy modd yn gweld hynny," meddai.
Er bod eu bywydau wedi dilyn llwybrau gwahanol iawn, mae llawer o oroeswyr Aberfan yn rhannu teimlad tebyg - bod goroesi wedi dod â chyfrifoldeb i wneud rhywbeth cadarnhaol.
Fel dywed Janett: "Rydyn ni'n ffodus. Rydyn ni'n ffodus ein bod ni wedi byw.
"Gadewch i ni wneud rhywbeth i'r gymuned, oherwydd rydyn ni yma am reswm."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.