Strategaeth fwyd newydd: Ansefydlogrwydd yn 'her' i gynhyrchwyr

Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Rhys Jones bod "angen cael y wybodaeth mas i reolwyr arlwyo eu bod nhw yn gallu defnyddio cynnyrch Cymreig"

GanGarry Owen
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae cyflenwyr bwyd wedi bod yn ymateb i gynllun newydd ar ddyfodol bwyd Cymru, er mwyn taclo "ansefydlogrwydd" y diwydiant, a "chefnogi cynhyrchwyr Cymru".

Yn ôl Rhys Jones o gwmni bara Henllan yn Sir Ddinbych, bydd yn help sicrhau bod cwsmeriaid Cymreig fel awdurdodau iechyd a chynghorau lleol yn gwybod mwy am gwmnïau lleol sy'n gallu cyflenwi cynnyrch iddyn nhw.

Dywed Emyr Evans sydd yn ffermio Penlanlas Isaf ym mhentre Talsarn ger Llanbedr Pont Steffan bod unrhyw fesurau i helpu dileu ansefydlogrwydd yn y diwydiant cynhyrchu bwyd yn help.

Cafodd strategaeth newydd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd yr wythnos yma, gyda'r perchennog bwyty Simon Wright i arwain grŵp arbenigol i gynghori.

Mae'r diwydiant amaeth wedi bod yn galw am strategaeth o'r fath er mwyn taclo problemau ansefydlogrwydd.

Dywedodd Rhys Jones o gwmni Henllan bod "angen cael y wybodaeth mas i reolwyr arlwyo eu bod nhw yn gallu defnyddio cynnyrch Cymreig yn yr unedau arlwyo".

Dywed fod cwmniau Cymreig fel Henllan wastod yn chwilio am gwsmeriaid lleol ac "mae hynny yn bwysig iawn i'r busnes".

Emyr Evans
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Emyr Evans fod ansicrwydd prisiau yn her fawr i'r diwydiant

Mae Emyr Evans yn ffermio ym Mhenlanlas Isaf yn Nhalsarn ger Llanbedr Pont Steffan, ac ef yw'r bumed genhedlaeth o'i deulu i redeg y fferm.

Dywedodd fod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd oherwydd ansefydlogrwydd prisiau llaeth.

"Ar hyn o bryd gweddol yw'r prisiau - ry' ni ym mis Gorffennaf yn cael 27c y litr, a bron lan i 30 gydag ansawdd gwell y llaeth.

"Ond dros y 10 mis diwethaf gwelson ni nhw'n syrthio o bron 44c y litr i 13c y litr dros gyfnod o bum mis," meddai.

"Roedd hwnna yn gwymp mawr i ni fel busnes."

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd y strategaeth yn helpu i ddod â'r system fwyd ynghyd a chreu mwy o sicrwydd i ffermwyr.

Mae Mr Evans, sydd hefyd yn gadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru yng Ngheredigion, yn dweud mai prisiau llaeth yw un o'r pryderon mwyaf mae'n ei glywed gan ffermwyr eraill.

Elin Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elin Jenkins o Undeb Amaethwyr Cymru yn gobeithio y bydd y strategaeth yn cryfhau'r system fwyd

Dywedodd Elin Jenkins, swyddog polisi Undeb Amaethwyr Cymru, fod costau cynhyrchu'n parhau'n uchel tra bod prisiau cynnyrch yn amrywio.

"Mae costau gwrtaith, bwyd a thanwydd yn dal yn uchel, ac nid yw llawer o ffermwyr yn cael pris teg am eu llaeth o gymharu â chost ei gynhyrchu," meddai.

"Mae costau yn cadw yn uchel ac mae ansefydlogrwydd dros y byd yn effeithio ar brisiau gwrtaith, bwyd, tanwydd ac ati.

"Mae hynny'n golygu bod costau cynhyrchu litr o laeth yn codi - ni ymhell bant o gael tegwch i ffermwyr o ran be' maen nhw yn cael am eu llaeth o gymharu â'r gost o gynhyrchu y llaeth."

Dywedodd Emyr Evans mai trydan a gwrtaith yw rhai o gostau mwyaf ei fferm ar hyn o bryd.

Ychwanegodd fod y tywydd poeth a sych yn golygu bod llai o laswellt yn tyfu, ac y gallai orfod defnyddio silwair oedd wedi'i fwriadu ar gyfer y gaeaf.

'Ddim yn gwybod o fis i fis faint ni'n cael'

Mae Elin Jenkins yn credu y gallai cryfhau'r system fwyd a chynyddu'r defnydd o gynnyrch Cymreig mewn caffael cyhoeddus helpu i greu marchnad fwy sefydlog.

"Ma' angen 'neud yn siŵr ein bod ni yng Nghymru yn cefnogi ein cynhyrchwyr ni a bod y caffael yma yn digwydd yng Nghymru, ac yn cymryd mantais o be' sy' gyda ni.

"Byddai hynny'n helpu nid yn unig ffermwyr llaeth ond fe fyddai'n helpu pobl fel cynhyrchwyr iogwrt a chaws neu hufen iâ er enghraifft, sy'n defnyddio llaeth fel cynhwysyn craidd."

Dywedodd Emyr Evans y byddai gwybod bod ei laeth yn cael ei werthu'n lleol i ysgolion neu ysbytai yn rhoi mwy o sicrwydd i'w fusnes.

"Ar hyn o bryd dy'n ni ddim yn gwybod o fis i fis faint y'n ni'n ei gael am ein llaeth - ry'n ni'n cael gwybod ar ddechrau pob mis."

Dywedodd fod ffermwyr yn gobeithio y bydd y strategaeth newydd yn helpu busnesau i baratoi'n well ar gyfer heriau'r dyfodol, gan rybuddio y gallai'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr gael eu colli os na fydd mwy o sefydlogrwydd yn y diwydiant.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai'r nod yw sicrhau bod mwy o werth bwyd Cymru yn cael ei gadw a'i ailfuddsoddi yng Nghymru, yn ogystal â hyrwyddo bwyta'n iach a gwella cydweithio ar draws y sector.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.