'Ffermwyr yn cael sicrwydd ariannu tymor hir am y tro cyntaf' - Llyr Gruffydd

Mae'r arian sydd wedi'i glustnodi i'r cynllun cymhorthdaliadau newydd i ffermwyr yn rhoi "sicrwydd tymor hir ariannu am y tro cyntaf" i'r diwydiant, yn ôl y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd.

Yn siarad o faes y Sioe Fawr, dywedodd Llyr Gruffydd: "Ni'n rhoi sicrwydd nawr tan ddiwedd y Senedd yma dros dair blynedd... sydd yn bleidlais o hyder yn y sector."