'Ansicrwydd' yn rheswm dros beidio ag ymuno â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Llyr Gruffydd
Disgrifiad o’r llun,

Wrth siarad â rhaglen Ffermio ar S4C dywedodd Llŷr Gruffydd fod y "ffigyrau cynnar" yn dangos mai "tua hanner" oedd wedi dewis ymuno â'r cynllun

  • Cyhoeddwyd

Dim ond hanner ffermwyr Cymru sydd wedi ymuno â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn ôl y gweinidog sy'n gyfrifol am amaeth.

Mae'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llŷr Gruffydd, wedi dweud mai "siwrne oedd hwn a doedden i ddim yn disgwyl i bawb ddod i mewn ar y diwrnod cynta'".

Mae'r cynllun wedi bod yn un hynod ddadleuol gyda rhai ffermwyr yn ei feirniadu'n hallt am yr amod gwreiddiol y dylai pob fferm orchuddio o leiaf 10% o'r tir gyda choed.

Ond roedd eraill yn poeni nad yw'r cynlluniau'n mynd yn ddigon pell o ran gwarchod yr amgylchedd.

Wrth siarad â rhaglen Ffermio ar S4C dywedodd Mr Gruffydd fod y "ffigyrau cynnar" yn dangos mai "tua hanner" oedd wedi dewis ymuno a'i fod am "weithio gyda'r sector i weithio trwy rhai o'r rhwystrau".

Bwriad y cynllun yw cymryd lle'r Taliad Sylfaenol, sydd wedi cael ei ddosbarthu gan y Llywodraeth ers 2021 a chyn hynny gan yr Undeb Ewropeaidd.

Yn dilyn beirniadaeth hallt o'r cynnig gwreiddiol fe benderfynodd y Llywodraeth Lafur flaenorol ddiwygio'r cynllun a chafodd elfennau o'r cynllun diweddaraf ei groesawu gan rai undebau ffermio.

Ond wrth ymateb i'r ffigyrau newydd dywedodd Mr Gruffydd: "Dwi'n meddwl bod pobl yn teimlo ansicrwydd ynglŷn â'r sefyllfa ariannol.

"Os chi ddim ond yn gallu cael sicrwydd 12 mis yna mae yna gwestiwn wrth gwrs a ddylai pobl fod yn cymryd y cam," meddai.

Pwysleisiodd mai nifer y ceisiadau sy'n cael ei adlewyrchu yn y ffigyrau a "dydi o ddim o reidrwydd yn adlewyrchu faint o dir sydd wedi dod i mewn i'r cynllun".

Ond "mae yna drafodaeth i'w chael ynglŷn â sut allwn ni gryfhau a gwella'r cynllun i annog pobl i ddod ar y siwrne yna - ac mae hwnna'n un o'r blaenoriaethau i fi fel gweinidog," meddai.

"Am gynllun newydd sbon dwi'n meddwl allwch chi edrych arno fo yn wydr hanner llawn neu'n wydr hanner gwag."

Aled Rees
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Aled Rees yn poeni y byddai ar ei golled pe bai'n cydymffurfio â gofynion y cynllun

Mae Aled Rees, sy'n ffermio yn ardal Aberteifi, yn un o'r rheiny sydd wedi penderfynu peidio ag ymuno a'r cynllun eleni, a hynny am na fyddai'n gwneud synnwyr iddo'n ariannol.

"Fuon ni'n ffermio'n organig am 24 mlynedd, so ni'n gwybod beth yw ffermio yn gynaliadwy a gwarchod yr amgylchedd," meddai wrth raglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru.

"Ond, am bod Llywodraeth Cymru'n dweud bod dim digon o habitat 'da ni i fynd mewn i'r cynllun, bydde'n rhaid i ni greu dros 50 erw o habitat.

"O'n i'n teimlo y bydde hynny'n cyfyngu ein dull ni o ffermio cymaint, byddai'n rhoi ni ar golled.

"'Na'r rheswm y daethon ni mas o ffermio yn organig dwy flynedd yn ôl, achos bod hi ddim yn talu i ni - o'n ni ar ein colled bob blwyddyn.

"Y'n ni yn mynd lawr cyfeiriad regenerative - ni'n ffermio mewn dull tebyg iawn i beth o'n ni amser o'n ni'n organig.

"Ond dal, o'n ni ddim yn gymwys i fynd i mewn i'r scheme."

'Bai y cyn-lywodraeth Lafur'

Ychwanegodd: "Dwi'n credu bod y bai am bod dim ond hanner ffermwyr Cymru yn mynd mewn i'r scheme yma yn y flwyddyn gyntaf gyda'r cyn-lywodraeth - y llywodraeth Lafur o'dd 'da ni cyn y llywodraeth newydd Plaid Cymru 'ma.

"Dwi'n credu 'na be' chi'n weld nawr yn dod trwyddo.

"Do fe gaethon ni newid mewn gweinidog, a do fe dreiodd e, ond o'dd hi'n rhy hwyr.

"Byse'n well tasen nhw wedi gohirio'r cynllun am flwyddyn arall falle."

Dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd y llywodraeth newydd yn "fodlon gweithio gyda ffermwyr i ni gael y cynllun fel bod y rhan fwyaf o ffermwyr Cymru yn gallu mynd mewn iddo fe".

Awel Mai Hughes yn eistedd ar gadair ac yn gwenu wrth edrych ar y camera. Mae ganddi lygaid brown a gwallt melyn. Mae'n gwisgo siwmper du gyda ffrog glas tywyll. I'r dde ohoni mae arwydd coch.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Awel Mai Hughes yn dweud bod "ymgynghori, ymgynghori ac ymgynghori 'di bod ar y cynllun yma"

Yn ôl y gyfreithwraig, Awel Mai Hughes "mae'r ffigyrau'n sicr yn mynd i fod yn siom i'r llywodraeth".

"Mae lot fawr o adnoddau, arian a chynghori 'di mynd mewn i'r cynllun yma dros ddegawd," meddai.

A hithau wedi bod yn cynghori ffermwyr ar y cynlluniau newydd, dywedodd ar raglen Dros Frecwast bod amrywiaeth o resymau pam nad ydy ffermwyr wedi ymuno â'r cynllun.

Mae'r newidiadau fydd yn digwydd yn rhai hirdymor, all newid tirwedd ffermydd meddai gyda "rhai yn poeni - a fydd newidiadau o dan lywodraeth newydd ym Mae Caerdydd."

Eraill "ddim yn gweld o'n broffidiol o gwbl i'w busnes nhw a mae'n well iddyn nhw wneud defnydd llawn o'r fferm yn gyfan na rhoi fyny ardaloedd i fod yn dir cynefin a choed".

Aeth ymlaen i esbonio os nad ydy ffermwyr yn ymuno mi fyddan nhw'n cael llai o incwm ond mae'n pwysleisio mai'r "cam cyntaf ydy hyn wrth gwrs - mae ffermwyr yn gallu mynd mewn iddo fe flwyddyn nesaf".

Mae'n gobeithio fydd y llywodraeth newydd yn "gwrando ar adborth ffermwyr i greu cynllun sy'n gweithio i bawb".

"Dydy polisi ddim gwerth dim byd os nad ydy'r bobl ar lawr gwlad yna i weithredu'r polisi.

"Dydy'r llywodraeth methu cyrraedd eu nod amgylcheddol heb fod ffermwyr yn 'neud eu gwaith ac mae'r bartneriaeth yna'n hollbwysig."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.