Y cerddor a chynhyrchydd Robin Evans wedi marw yn 72 oed

Robin EvansFfynhonnell y llun, celfcalon
  • Cyhoeddwyd

Mae Robin Evans, cerddor o'r band Mynediad am Ddim a chynhyrchydd teledu amlwg, wedi marw yn 72 oed.

Bu'n newyddiadurwr gyda'r Cymro ac yn ddarlledwr, a bu'n gweithio ar nifer o raglenni teledu ym mhob genre cyn canolbwyntio yn bennaf ar ddrama.

Ef oedd cynhyrchydd cyntaf cyfres Rownd a Rownd, gyda Susan Waters, tra'n gweithio i gwmni Ffilmiau'r Nant.

Bu'n cynhyrchu nifer o raglenni eraill hefyd, gan gynnwys Sgorio ar S4C.

Dywedodd uwch gynhyrchydd Rownd a Rownd ac un o gyfarwyddwyr Rondo, Bedwyr Rees, bod ei "waddol yn sylweddol ac eang".

Robin gyda'i wraig Heulwen a'i blant Llio a HuwFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Robin gyda'i wraig Heulwen a'i blant Llio a Huw

Roedd Robin, o Eifionydd yn wreiddiol ond bellach wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon, yn un o chwe aelod gwreiddiol Mynediad am Ddim pan gafodd y band ei ffurfio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1974.

Yr aelodau eraill ar y pryd oedd Emyr Wyn, Mei Jones, Iwan Roberts, Graham Pritchard a Dewi Jones.

Y bwriad ar y dechrau oedd cystadlu yn Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 1974, ond yn dilyn eu llwyddiant yno fe benderfynon nhw i ddal ati.

Bu Robin yn aelod ers y dyddiau cynnar hynny, ac roedd yn rhan o daith y band o amgylch Cymru yn 2024 a 2025 wrth iddyn nhw ddathlu 50 mlynedd o berfformio.

Mynediad am Ddim yn cloi eu taith yn AberystwythFfynhonnell y llun, celfcalon
Disgrifiad o’r llun,

Mynediad am Ddim yn perfformio yn Aberystwyth yn 2025, gyda Robin ar y dde

Mewn datganiad ar eu cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Mynediad am Ddim fod "dim geiriau i gyfleu ein tristwch wedi i ni golli Robin y bore 'ma".

"Aelod sylfaenol, ffyddlon ac annatod o Mynediad am Ddim.

"Fe ymladdodd Robin yn ddewr ac yn ddigwyno am gyfnod hir, ond mi oedd yn benderfynol cael cwblhau ein taith ddiweddar i ddathlu hanner canrif y band.

"Fedrwn ni mond bod yn ddiolchgar ein bod wedi llwyddo i wneud hynny efo'n gilydd, gan orffen y daith yn Aberystwyth, 1 Chwefror 2025, sef diwrnod pen-blwydd Robin. A dyna oedd ein noson olaf.

"Er bod y gagendor mae Robin yn ei adael yn un enfawr, mae cymaint i'w gofio a fydd yn codi gwên wrth edrych yn ôl dros y blynyddoedd o gyfeillgarwch a hwyl a ddeilliodd o rannu llwyfannau trwy Gymru a thu hwnt.

"Rydan ni'n meddwl yn arbennig am Llio a Huw, Heulwen, Emyr, Aled a'u teuluoedd i gyd."

'Ergyd i Gymru a'r iaith Gymraeg'

Dywedodd Bedwyr Rees, uwch gynhyrchydd Rownd a Rownd ac un o gyfarwyddwyr Rondo, fod "pob un ohonom sydd wedi gweithio ar Rownd a Rownd dros y blynyddoedd yn ddyledus i weledigaeth a mentergarwch Robin a'i gyd-gynhyrchydd Sue Waters wrth sefydlu y gyfres arbennig hon".

"Robin hefyd oedd y gyriant y tu ôl i sefydlu y gyfres Sgorio, gan ddod â'r gorau o bêl-droed Ewropeaidd i'n cartrefi ar ddiwedd y 1980au, a'r cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Daeth â'r un cariad at iaith at Rownd a Rownd, gan weld bod yma gyfle i gyflwyno yr iaith i bobl ifanc mewn sefyllfa naturiol a thrwy straeon fyddai'r gynulleidfa yn uniaethu â nhw.

"Roedd yn credu yn sylfaenol yn S4C fel arf ym mrwydr yr iaith, a hynny drwy beidio â bod yn uchel-ael, ond ychwaith heb ildio i fratiaith, gan brofi bod y Gymraeg yn iaith gyfoes, pob-dydd, sydd yn gallu ymdopi ag unrhyw sefyllfa."

Robin EvansFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Robin o Eifionydd yn wreiddiol ond bellach wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon

Ychwanegodd Bedwyr Rees: "Bu'n newyddiadurwr a darlledwr a bu'n gweithio ar nifer dirifedi o raglenni teledu ym mhob genre cyn canolbwyntio gan fwyaf ar ddrama.

"Roedd hefyd wrth gwrs yn leisydd gyda Mynediad am Ddim, un o fandiau poblogaidd mwyaf dylanwadol yr hanner canrif ddiwethaf. Mae ei waddol yn sylweddol ac eang.

"Fe wynebodd ei salwch gyda'r un grym ewyllys a nodweddodd ei yrfa gan ddal ati tan y diwedd, yn gwrando ar Radio Cymru ac yn gwylio'r rygbi a'r pêl-droed, gan ddadansoddi cyflwr y Gymru gyfoes fel ag y gwnaeth dros y degawdau, gan fod yn un o brif ddylanwadwyr y diwylliant hwnnw.

"Mae hon yn ergyd bersonol i nifer ohonom, ond dyma ergyd hefyd i Gymru ac i'r iaith Gymraeg."

Robin EvansFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Robin oedd un o chwe aelod gwreiddiol Mynediad am Ddim

Dywedodd Llion Iwan, prif swyddog cynnwys S4C fod "Robin Evans fel dewin, yn troi popeth roedd yn ei gyffwrdd i aur".

"O'r bandiau cerddorol rhyfeddol o boblogaidd i gynyrchiadau teledu di-rif dros ddeugain mlynedd.

"Trwy weithio efo fo deuthum i adnabod y cymeriad cynnes a mor barod i dynnu coes gyda hiwmor sych ac roedd ei sylw at fanylder yn ei gynyrchiadau o'r radd flaenaf. Dysgais dipyn ganddo.

"O bosib ei waddol mwyaf yw'r gyfres Rownd a Rownd sydd wedi dod â gymaint o fwynhad i genedlaethau.

"Roedd ei ddewrder at y diwedd yn rhyfeddol a nodweddiadol o'i gymeriad. Cydymdeimlad dwys at ei wraig Heulwen a'u plant Llio a Huw."

'Y cynhyrchydd pwysicaf yn hanes S4C ar draws pedwar degawd'

Dywedodd Alun Ffred Jones, fu'n cydweithio â Robin Evans yn Ffilmiau'r Nant am dros 20 mlynedd, ei fod yn "gydweithiwr llawen, penderfynol a gweithgar".

Wrth siarad ar raglen Dros Ginio ar Radio Cymru dywedodd: "Mae hi'n deg d'eud - y cynhyrchydd pwysicaf yn hanes S4C ar draws pedwar degawd o ddarlledu a hynny yn ddarlledu llwyddiannus iawn iawn."

Dywedodd Alun Ffred Jones fod y rhaglenni yn bwysig i Robin a bod "Robin a phawb yn 'neud eu gorau i sicrhau fod y rhaglenni y gorau y gallai fod".

Ond yn ystod ei gyfnod fel newyddiadurwr gyda Y Cymro y "dysgodd ei grefft o allu 'sgwennu ac adrodd stori yn gryno" meddai Mr Jones a "daeth Robin â'r doniau efo fo pan aeth i weithio ar raglen newyddion Y Dydd (HTV) fel gohebydd chwaraeon."

Esboniodd hefyd fod gan Robin barch at yr iaith Gymraeg ac yn "ŵr diwylliedig oedd yn 'nabod Cymru yn dda iawn ac yn 'nabod diwylliant Cymru yn dda, ac felly roedd yr holl beth yna yn bwydo mewn i'w raglenni fo."