Cynllun 'pilsen ar linyn' i ddarganfod y risg o ddatblygu math o ganser

Iola Protheroe
Disgrifiad o’r llun,

Cytunodd Iola Protheroe i gymryd rhan yn y treial er mwyn gallu cyfrannu at y gwaith ymchwil "pwysig"

GanBen Price
Newyddion BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae gan bobl sy'n dioddef o ddŵr poeth cronig y cyfle i gymryd rhan mewn ymchwil sy'n gallu darganfod eu risg o ddatblygu canser yr esoffagws.

Mae treialon 'pilsen ar linyn' yn gofyn i gleifion lyncu tabled sy'n rhyddhau sbwng yn y stumog ac yn casglu cellau yn y bibell fwyd wrth gael ei dynnu nôl drwy'r geg.

Yn hytrach na defnyddio camera, mae hwn yn broses "mwy syml" ac yn ffordd effeithiol o ddarganfod risg unigolyn o ddatblygu canser yr esoffagws yn gynnar," yn ôl Dr James Calvert, Dirprwy Prif Swyddog Meddygol Cymru.

Mae tua 22 o farwolaethau canser yr esoffagws bob dydd yn y Deyrnas Unedig.

pilsen ar linyn
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl llyncu'r bilsen, mae'n rhyddhau sbwng sy'n cael ei dynnu i fyny'r esoffagws

Bydd yr ymchwil yn recriwtio 120,000 o bobl ar draws y DU sy'n cymryd meddyginiaeth cyson ar gyfer dŵr poeth, fel Iola Protheroe o Ffynnon Taf.

Mae ei symptomau wedi gwaethygu dros y flwyddyn a hanner diwethaf.

"Mae o'n rhywbeth sy'n anghyfforddus ofnadwy ar ôl bwyta. Dyw hi ddim yn ddiwedd y byd ond mae yn anghyfforddus tu hwnt," meddai.

"Mae'n medru stopio chi rhag bwyta yn iawn ac mae o hefyd, os ydych chi'n gorwedd i lawr, yn anghyfforddus ofnadwy ac yn stopio chi gysgu."

Ar ôl ymweld â'r meddyg teulu, fe gytunodd Iola i gymryd rhan yn yr ymchwil.

Bwriad y broses yw ceisio darganfod "Barrett's Oesophagus" - cyflwr ble mae rhai celloedd yn y bibell fwyd yn dechrau caledu. Mi allai hwn fod yn rhywbeth sy'n arwain at ganser yr esoffagws.

'Mi oedd o drosodd cyn pen dim'

Ar ôl llyncu tabled gelatin sydd wedi'i chysylltu â chortyn, mae'r claf yn yfed dŵr ac yn aros nes bod y dabled yn toddi ac yn rhyddhau sbwng bach.

Saith munud yn ddiweddarach mae nyrs yn tynnu'r sbwng ar y cortyn 'nôl fyny'r esoffagws ac allan drwy'r geg.

"Doedd o ddim y peth neisa' dwi erioed wedi'i wneud ond mi oedd y staff yn wych," ychwanegodd Ms Protheroe.

"Mi o'n i'n oreit yn llyncu'r dabled go fawr efo dŵr ond wedyn mae'n agor fel brwsh ac mae hwnna wedyn yn gorfod dod allan. Mi oedd hwnna'n anghyfforddus ond dim ond am gwpl o eiliadau - ac mi oedd o drosodd cyn pen dim."

Dr Rhodri Davies
Disgrifiad o’r llun,

Trwy gynnal y treialon yn y gymuned, mae'n ei gwneud yn haws i bobl cymryd rhan, yn ôl Dr Rhodri Davies

Dywedodd yr ymgynghorydd gastroenteroleg, Rhodri Davies: "Mae 'Barrett's Oesophagus' yn gallu arwain at ganser, a ni'n gallu darganfod y newidiadau yn y celloedd sy'n cael eu casglu gan y sbwng.

"Wedyn, gallen ni atal datblygiad canser neu os mae wedi datblygu yn barod, y gobaith yw bod y canser wedi datblygu'n gynnar a bod modd ei drin."

Gyda phwysau mawr ar wasanaethau endoscopi o hyd yng Nghymru, y gobaith yw y gallai'r prawf yma gael ei gyflwyno fel rhan o brosesau arferol o sgrinio ar gyfer canser yn y dyfodol.

"Mae'n straen, ni'n cael niferoedd uchel o bobl sydd angen endoscopi a ni'n gweld hwn yn ffordd o leihau'r pwysau sydd ar ein gwasanaeth endoscopi ni," ychwanegodd Dr Davies.

"Mae'n brawf syml a lot fwy cyfforddus na chael endoscopi ac wedyn gallen ni dargedu'r gwasanaeth endoscopi ar gyfer y bobl sydd ei angen yn fwy."

Mae faniau sgrinio symudol yn y gymuned yn cael eu defnyddio ar gyfer y treialon ymchwil yng Nghymru.

Mae'n agored i ddynion 55–79 oed a menywod 65–79 oed sy'n cymryd meddyginiaeth reolaidd ar gyfer dŵr poeth cronig.

"Y mwyaf eang yw'r ymchwil, y mwyaf defnyddiol yw'r data achos rydyn ni eisiau gwybod bod y wybodaeth yn cyfeirio ar y genedl gyfan," esboniodd Dr James Calvert.

"Trwy sicrhau cyfleoedd i fod yn rhan o'r ymchwil yn y gymuned, rydyn ni'n sicrhau bod cymaint o drigolion Cymru sy'n medru cymryd rhan, yn cymryd rhan, er mwyn i ni ddeall sut y gallen ni wella'r gofal sydd ar gael iddyn nhw a'u teuluoedd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig