Pam fod cân Edward H yng nghyfres Youth gan Sharon Horgan?

Cleif Harpwood a Sharon HorganFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cleif Harpwood a Sharon Horgan

GanAngharad Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

"Mae cael y gydnabyddiaeth 'ma yn bwysig mewn gwirionedd achos mae'n dangos bod y sin gerddoriaeth Gymraeg yma ac mae'n fyw."

Mae fersiwn Edward H Dafis o'r alaw werin Pontypridd i'w chlywed ar hyn o bryd yng nghyfres newydd HBO Sharon Horgan, Youth.

Nid dyma'r gân gyntaf gan y band roc i ymddangos mewn cyfres deledu boblogaidd yn y blynyddoedd diwethaf gyda Ysbryd y Nos yn rhan allweddol o'r gyfres BBC Lost Boys and Fairies.

Bu aelod o'r grŵp, Cleif Harpwood, yn trafod beth mae'n ei olygu iddo i glywed caneuon y band mewn ffilmiau a chyfresi.

Dywedodd: "Y balchder mwyaf yw bod cerddoriaeth Gymraeg gyfoes yn cael ei chydnabod a felly bod yr iaith Gymraeg yn cael ei chydnabod a'i hyrwyddo - hwnna sy'n bwysig i fi.

"Mae codi ymwybyddiaeth o'r iaith yn bwysig dros ben. Mae'n rhoi mwy o statws i ni hefyd ac mae eisiau mwy o statws ar gerddoriaeth Gymraeg."

Cleif HarpwoodFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Mae'r gyfres gomedi Youth yn dilyn anturiaethau menyw sengl yn ei 60au sy'n cael ei chwarae gan Sharon Horgan, sy' hefyd yn gynhyrchydd ac awdur y gyfres. Mae'r gyfres yn dilyn llwyddiant Horgan gyda chyfresi fel Motherland a Catastrophe ac mae Youth i'w gweld ym Mhrydain, America ac Ewrop.

Mewn golygfa gyda'r actor Rupert Friend mae'r gân Pontypridd yn chwarae ac mae'r cymeriad Patrick yn dweud fod e'n mwynhau 'deep dive' i gerddoriaeth Gymraeg ac yn methu stopio gwrando ar Pontypridd gan Edward H, sy'n gân 'plaintive' yn ôl y cymeriad, sy' hefyd yn dweud 'Can't get enough of this sound'.

Bu'r cerddor Gruff Rhys yn gweithio ar gerddoriaeth y gyfres gyda'r tîm cynhyrchu, sydd efallai'n esbonio pam fod y gân yn rhan o'r trac sain.

Pontypridd

Meddai Cleif am fersiwn Edward H o'r alaw werin, sy' ar yr albwm Hen Ffordd Gymreig o Fyw: "I ddechrau, cân werin draddodiadol yw hi. Ond wrth gwrs bod ni wedi rhoi triniaeth iddi nôl yn 1973 pan recordiwyd y gân.

"Bryd hynny, o'n ni'n addasu llawer o ganeuon werin ar gyfer y genre roc.

"A dwi'n gwybod bod 'na bobl yn cofio'r riff gitâr gan Hefin Elis ynddi a bod hwnna'n rhywbeth sy'n aros yn y cof.

"'Nathon ni recordio hi yn stiwdio TW yn Llundain achos doedd gan Sain ddim stiwdio recordio bryd hynny."

Mae 'Pontypridd' ymhlith y caneuon ar record hir gyntaf Edward H DafisFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Pontypridd ymhlith y caneuon ar record hir gyntaf Edward H Dafis

Beth mae Cleif yn meddwl o'r disgrifiad o'r gân fel 'plaintive' yng nghyfres Youth?

Meddai: "Falle ei bod hi, dwi ddim yn siŵr. Ond falle taw'r riff yn y canol gan Hefin Elis sy'n creu'r naws honno.

"Ond dyw hi ddim yn gân trist. Mae'n gân serch yn wreiddiol. Mae'n ramantus mwy na thrist, yn gân am ramant, yn gân am fachgen sydd am briodi ei gariad.

"Ond efallai i bobl sydd ddim yn deall y geiriau, falle ei bod hi'n gân hiraethus falle. Ond i ni fel Cymry, cân ramantus yw hi."

Edward HFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Edward H

Gyda chân arall gan Edward H, sef Ysbryd y Nos, yn chwarae rhan allweddol yn y gyfres Lost Boys and Fairies, mae Cleif yn falch fod diddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg yn parhau: "Mae 'na ddiddordeb wedi bod mewn cerddoriaeth Gymraeg ers y 1970au pan wnaeth John Peel chwarae tipyn o gerddoriaeth Gymraeg, yn enwedig falle Sneb yn Becso Dam, trydydd albwm Edward H.

"Be' sy'n bwysig yw bod cerddoriaeth Gymraeg yn cael ei chydnabod. Mae nawr yn rhan o gerddoriaeth byd."

Ar y sgrin

Dyw clywed cerddoriaeth Gymraeg mewn ffilmiau a chyfresi amlwg ddim yn rhywbeth newydd, gyda'r gân werin Gymraeg draddodiadol Lisa Lân yn rhan ganolog o ddiwedd y ffilm Crash, a Y Pêr Oslef yng nghyfres Netflix Wednesday. Mae'r gân draddodiadol Gymraeg Suo Gân yn cael sylw amlwg yn ffilm ryfel Steven Spielberg, Empire of the Sun.

Mae Cleif yn credu mai math arbennig o fiwsig Cymraeg sy'n cael ei dewis ar gyfer cyfresi teledu a ffilm: "Mae'n nhw fel bod nhw'n dewis caneuon hiraethus yn y Gymraeg ac yn gweld ein cerddoriaeth ni fel rhywbeth hiraethus, rhywbeth sy'n mynegi tristwch ambell waith neu hiraeth.

"Ond mae cael y cydnabyddiaeth yma a chael y sylw yma yn bwysig i gerddorion Cymraeg."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.