Dyn gerbron Llys y Goron wedi i gorff dynes gael ei ganfod mewn fan

Roedd presenoldeb yr heddlu yn amlwg ym Mhrestatyn ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 38 oed wedi bod gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug drwy gyswllt fideo ar ôl i gorff dynes gael ei ddarganfod mewn fan oedd ar dân ym Mhrestatyn.
Mae Thomas Matthew Hammond Bell, o Ffordd Wellington yn Y Rhyl wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Gas Works Lane ym Mhrestatyn tua 23:30 nos Sul, yn dilyn adroddiad bod cerbyd ar dân.
Cadarnhaodd archwiliad post mortem mai corff dynes gafodd ei ddarganfod yn y fan.
Dydy'r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, nac enw'r ddynes fu farw wedi cael ei gyhoeddi gan Heddlu'r Gogledd.

Cafodd y corff ei ganfod mewn fan ar dân yn ardal Gas Works Lane ym Mhrestatyn
Clywodd y llys bod Thomas Bell yn adnabod y ddynes fu farw, a'i fod o yn gwadu rhoi'r cerbyd ar dân.
Cadarnhaodd y Barnwr Geraint Walters hefyd bod y ddynes wedi marw o ganlyniad i'r tân yn y fan.
Mae Thomas Bell wedi ei gadw yn y ddalfa, a bydd gwrandawiad arall ar gyfer cyflwyno ple yn Llys y Goron Caernarfon ar 27 Tachwedd.
Mae 5 Ebrill 2027 wedi cael ei nodi fel dyddiad posib ar gyfer dechrau achos llawn.
Ddydd Iau dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Zoie Dunkerley o Heddlu'r Gogledd:
"Mae ein hymchwiliad yn parhau, ac rydyn ni'n apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth a sydd ddim eisoes wedi siarad â ni, i gysylltu."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.