Pum munud gyda Bardd y Mis Bethany Celyn

- Cyhoeddwyd
Mae Bethany Celyn yn gantores-gyfansoddwraig, bardd ac ymarferydd creadigol, ac mae'n gweithio'n rhan amser fel golygydd Cyhoeddiadau Barddas.
Mae hi wedi cydweithio gyda nifer o artistiaid gan gynnwys y Vrï, Sinfonia Cymru a'r colectif TAIR a drwy gydol Hydref, hi ydi Bardd y Mis BBC Radio Cymru.
Soniwch ychydig amdanoch chi eich hun a'ch cefndir.
Un o Ddyffryn Clwyd ydw i'n wreiddiol, efo gwreiddiau ym Mhen Llŷn, ond wedi cyfnodau o fyw mewn ambell brifddinas ac yng ngwlad y Cofis, dwi bellach yn byw yng Ngheredigion.
Cerddoriaeth a barddoniaeth yw fy myd, ac mae fy ngyrfa yn pendilio rhwng golygu llyfrau barddoniaeth, sgwennu a chanu.
Rydw i'n fy elfen yn creu, boed hynny'n perfformio neu'n cyfansoddi gydag artistiaid eraill neu'n eistedd o flaen y môr efo fy llyfr sgwennu.

Bethany yn sgwennu wrth Afon Taf, Caerdydd
Pryd wnaethoch chi ddechrau barddoni ac ysgrifennu?
Ro'n i'n llowcio-darllen llyfrau yn blentyn ac yn aelod o Sgwad Sgwennu Sir Ddinbych.
Ro'n i wastad yn sgwennu caneuon a storïau, ond cydiodd y 'byg' barddoni yn fy arddegau. Dwi dal efo 'nghopi o Dail Pren brynodd ffrindiau i mi ar fy mhenblwydd yn 17 efo neges yn gobeithio bydd y gyfrol yn fy 'ysbrydoli ymhellach i farddoni!'
Es i 'mlaen i astudio Llenyddiaeth Saesneg yn y brifysgol yn Llundain ac Ysgrifennu Creadigol Cymraeg ym Mangor, a bu llawer o farddoni yn fy 20au cynnar rhwng Cywion Cranogwen a pherfformio yma a thraw.
Enillais Gadair Eisteddfod Bodffordd yn 2019, y tro cyntaf i mi gystadlu am gadair eisteddfodol, a ches i fy mentora am gyfnod yn 2020, efo Llenyddiaeth Cymru, ar nofel ddystopaidd ro'n i wrthi'n ei sgwennu ar y pryd (chwalodd y pandemig fy mwriadau efo'r nofel honno – ond mae syniadau eraill yn y pair).

Bethany a Sara Borda Green (aelodau Cywion Cranogwen) efo'r bardd Ciara Ní É ym Mhrosiect Bendigeidfran, Caernarfon, 2019
Yn 2024 cyrhaeddais ddosbarth cyntaf y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd ar y cynnig cyntaf, ac mi wnes i fenthyg enw dwy o fy hen, hen neiniau o Ben Llŷn wrth gystadlu, sef 'Martha'.
Mae'r casgliad yn deyrnged i fy Nain Pwllheli a fu farw wrth i mi sgwennu, ac yn llawn cerddi gwleidyddol-cymdeithasol-amgylcheddol cyfoes.
Rhaid nodi mai sbesial oedd cael gweld enwau'r Marthiaid ar y ddeiseb heddwch yn y Llyfrgell Genedlaethol y flwyddyn honno.
Deiseb heddwch Menywod Cymru 1923 ar-lein
- Cyhoeddwyd11 Medi 2024
Mae cerddoriaeth yn rhan bwysig o'ch bywyd - soniwch ychydig am eich taith gerddorol.
Ro'n i'n canu a chyfansoddi o'r eiliad ro'n i'n medru cyrraedd bysedd y piano, ac o'dd cymaint o fiwsig adre wrth dyfu fyny.
Treuliais fy arddegau yn canu ar hyd a lled Cymru efo'r grŵp Enfys, dan arweiniad Leah Owen, ac yn wreiddiol bues i'n hyfforddi ar gyfer gyrfa ym myd theatr a sioeau cerdd.

Bethany yn recordio efo Sinfonia Cymru yn Ratio Studios yn 2025
Camais i ochr y llwyfan yn y brifysgol a chyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer cynyrchiadau drama (er mi wnes i actio yn un ohonynt a recordio'r gerddoriaeth o flaen llaw), a rhyddhais fy EP Troi yn 2017 efo Sbrigyn Ymborth wrth ddychwelyd i Gymru.
Dwi wedi recordio a pherfformio eithaf tipyn efo'r triawd gwerin Vrï ar hyd y blynyddoedd, ac ro'n i'n ffeinalydd ar Cân i Gymru ddechrau 2020 efo fy nghân Arianrhod. Ro'n i'n digwydd bod ar daith yn cefnogi Al Lewis ar y pryd, gwta wythnosau cyn y pandemig. Newidiodd ein bywydau ni i gyd wedi hynny, wrth reswm.
Mae cymaint o uchafbwyntiau wedi bod ers hynny fel perfformio ar BBC One Last Night of the Proms efo Vrï, ffurfio'r colectif creadigol TAIR efo Manon Awst a Judith Musker Turner, a chael cydweithio efo cerddorion fel Sinfonia Cymru a Perynn Bleunven o Lydaw.

Colectif TAIR: Judith Musker Turner, Manon Awst a Bethany Celyn yn 2022
Ydi cerddoriaeth gwerin yn fwy poblogaidd yng Nghymru heddiw na phan oeddech chi'n tyfu fyny?
Mae'n teimlo felly, ond eto mae'r byd wedi newid cymaint ers y 90au a'r dyddiau o wrando ar Plethyn ar dâp casét.
Mae yna'n sicr mwy o gyfleon trwy sefydliadau fel Trac Cymru a Tŷ Cerdd, ac mae ymdrech fawr ar lawr gwlad i feithrin rhwydweithiau ac i adfywio hen draddodiadau (ac mae'n fraint cael bod yn rhan fach o'r ymdrech honno).

Bethany Celyn gyda Vrï yn 2022
Rydych chi'n addysgu canu ar gyrsiau gwerin ac yn olygydd Cyhoeddiadau Barddas. Sut mae cael y genhedlaeth nesa i ymddiddori mewn gwerin a barddoniaeth?
Tydi creadigrwydd, a sgiliau syflaenol fel darllen a sgwennu ar hynny, erioed wedi bod cyn bwysiced, ac mae angen i ni fuddsoddi yn ein pobl ifanc a'r celfyddydau.
Mae dysgu sut i werthfawrogi a sgwennu barddoniaeth yn gyfle i feithrin sgiliau sy'n trosglwyddo y tu hwnt i greadigrwydd a phenillion ar dudalen, ac mae barddoniaeth yn bwysig am fod iaith yn bwysig.
Iaith sy'n creu ac yn siapio ein bywydau; sy'n helpu llywio sut rydan ni'n gweld ein hunain a'r byd a'r hyn sy'n cael ein sylw – gan gofio fod y teclynnau bach llachar yn cystadlu amdano.
Mae cerddoriaeth werin yn ymgorffori egwyddorion tebyg ac yn gyfle i ddysgu mwy am alawon, hanes a diwylliant Cymru – ac i arbrofi a gwneud ffrindiau newydd. Mi all hefyd bontio mewn i sawl genre cerddorol arall.
Pa gerdd a geiriau pa gân fyddech chi wedi hoffi eu ysgrifennu?
Dwi wedi bod yn pendroni, a fedra i ddim honni hoffwn i fod wedi sgwennu unrhyw beth gan unrhyw un arall. Mae geiriau mor sbesiffig, mor greiddiol, i fynegiant a phrofiad unigolyn.
Taswn i'n gorfod dewis ar seiliau 'vibes hoffwn i greu wrth sgwennu' ella'r gerdd Dogfish gan Mary Oliver. O'dd y gerdd honno'n bwysig i mi yn ystod cyfnod y pandemig.
Yna'r un peth efo Life According to Raechel gan Maddison Cunningham o ran 'vibes'. Dyma gân sydd wedi 'nghyffwrdd i'r byw yn ddiweddar wrth fynychu ei chwrs sgwennu caneuon School of Song. Mae cymaint o gariad a thensiwn yn y geiriau, a tydi hi ddim yn dal yn ôl rhag dweud y pethau anodd.
Petaech yn gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fydden nhw a pham?
Ga'i ddewis gwneuthurwr ffilmiau, yn lle? Dwi wedi cael fy hudo gan waith a gweledigaeth Chloé Zhao eleni, a byddai diwrnod yn sgwennu a chyfarwyddo yn ei sgidiau hi yn cŵl iawn.
Un o fy hoff bethau ar y we yw'r fideo o actorion a chriw y ffilm Hamnet yn dawnsio efo Chloé i'r gân We Found Love in a Hopeless Place gan Rihanna. Maen nhw mewn replica o Theatr y Glôb, un o fy hoff lefydd.

Bethany Celyn yn Llundain pan yn fyfyrwraig o flaen Theatr y Glôb yn 2014
Beth sydd ar y gweill?
Bydda i yn dysgu canu ar y cwrs Gwerin Gwallgo efo Trac Cymru ddiwedd Hydref os hoffai unrhyw bobl ifanc 11-18 oed ddod i ganu efo fi!
Mae llwyth o gyfrolau ar y gweill efo Barddas, wrth reswm (rydan ni newydd gyhoeddi Carco gan Menna Elfyn), a dwi wrthi'n cymryd rhan yn y prosiect CoDI: Llifo – Llais a Llinynnau efo Tŷ Cerdd.
Fel arall, mae'r barddoni, cyfansoddi a rhyfeddu yn parhau, a bydda i'n sgwennu, ac yn rhannu, fy ngherddi Bardd y Mis dros yr wythnosau nesaf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2023

- Cyhoeddwyd6 Medi
